<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Deflators

15.9.05


Mae grŵp o bobl ym Mharis sydd wedi cael digon ar fobl y ddinas yn gyrru o gwmpas mewn anghenfilod fel 4x4's ac SUV's yn taro'n ôl gan adael gwynt o deiars y cerbydau fin nôs a thaflu mwd atynt. Eu slogan yw "os na ddaw'r cerbyd i'r wlad, daw'r wlad at y cerbyd". Mae'nt yn galw eu hunain yn y Deflators, a'u gobaith yw spardno eraill yn ninasoedd eraill Ffrainc i wneud yr un peth. Gan nad ydynt yn niweidio'r cerbyd mewn unrhyw ffordd nid yw'r heddlu'n gwnud dim i'w rhwytro sy'n gwylltio'r lembos sy'n berchen ar y cerbydau hyn (ha ha).

Dwi wedi sylwi'n ddiweddar ar gynnydd arthuthrol yn y cerbydau gyrriant 4 olwyn sgleniog sydd ar ffyrdd Caerdydd, ac yn meddwl ei fod yn warthus.
Mae'r llygredd di-angen a'r ffaith na fyddai gan gerddwr neu feiciwr siawns yn y byd petai nhw'n cael eu taro gan un yn eu gwneud yn un o'r pethau mwyaf wrth-gymdeithasol i'r crachach fod yn berchen arnynt ers cryn amser.

Rhywbeth arall sy'n debygol o gynnyddu gwerthiant yw rheolau treth ar company cars. Ar hyn o bryd os ydych yn cael car gyda'ch gwaith, gallwch ddisgwyl talu treth ar ffigwr o £2,000 (sy'n cynyddu gyda faint maint o CO2 mae'r cerbyd yn greu) gan ei fod yn cael ei ystyried fel benfit in kind, ond os ydych yn cael pick-up neu fan gyda'ch gwaith does on rhaid talu treth ar £500 (a dim ceiniog am danwydd yn wahanol i gar). Y rheswm am y gwahaniaeth yw ei bod yn go anhybygol y byddai rhywun yn mynd a'i wraig ai blant am dro mewn fan ar y penwythnos (sori am fod yn sexist).

Pan weithiais i Gyllid y Wlad doedd twin cab ddim i fod i gael eu hystyried fel fan, ond siaradais gyda salesman cwmni lleol yn ddiweddar ac roedd o'n brolio bod o wedi cael un o'r twin cab pick-up's yma a mai mond £500 oedd yn dalu. Unai mae rheolau treth wedi newid neu mae cyfrifydd y cwmni'n rhoi gwybodaeth anghywir iddynt. O ddarllen yr erthygl hwn yn yr Independent, ymddengys mae'r rheolau sydd wedi newid. Felly ar ôl trawsnewid y sustem dreth tua 4 mlynedd yn ôl i drethu pobl yn uwch am yrru ceir sy'n creu mwy o lygredd, ymddengys bod y llywodraeth/Cyllid y Wlad nawr yn caniatau y loophole hyn. Grêt.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:08 pm

3 sylw:

Mae'r system o ostyngiadau treth ar gyfer SUVs a cheir mawr ar gyfer gwaith bendant yn bodoli yn America. Cofio blogio am y peth ar ol dod o hyd i erthygl (ond s'dim amynedd 'da fi whilo am y peth nawr ;-)).

Ti'n hollol iawn am y perygl ymarferol hefyd. Sai'n teimlo'n saff ar fy meic gyda'r pethe 'na amboutu'r lle, yn enwedig rhai gyda 'bull bars'. Faint o dda sydd yng Nghaerdydd?
sylw gan Blogger cridlyn, 2:20 pm  

Syniad gwych, jest gwych. Pwy sydd am gychwyn gneud yng Nghaerdydd ta? ;)
sylw gan Blogger Nwdls, 10:01 am  

mae gennai ddigon o fwd yn y gardd gefn, os chi moin peth
sylw gan Anonymous Anonymous, 3:47 pm  

Gadawa sylw