<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Câr dy gymydog

5.9.05

Gymaint a wnes i fwynhau ymweliad ein cymdogion dydd Sadwrn, fyddwn i ddim eisiau rhannu tîm pêl-droed gyda nhw. Tra mae Cymdeithas Pêl-droed yr Alban wedi datgan yn glir nad ydyn nhw eisiau dim i'w wneud gyda thîm Prydeining, mae cyfarwyddwr Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn frwd iawn am y peth. Diolch byth nad yw pawb yn Lloegr yn teimlo yr un fath, ac mae Little Man in Toque wedi llunio poster gwych a dechrau casglu llofnodion ar ei flog. Mae wedi gadael sylw ar fy mlog Saesneg yn annog cyd-weithrediad rhwng cefnogwyr Cymru, Lloegr a'r Alban. Copiwch y llun isod i'ch blogiau a rhoi dolen at ei ddeiseb.

Mae Alfie the Ok yn codi pwynt da ynglyn â David Taylor o Gymdeithas Pêl-droed Lloegr hefyd, yn ei atgoffa mai buddiannau Lloegr y mae'n cael ei gyflogi i'w hyrwyddo.

Golygwyd: David Taylor dylai fod nid David Davies (er siwr bod y ddau yn rhannu'r un meddylfryd)!

Erthygl dda o safbwynt yr Alban yn y Sunday Herald, ond mae'r pwyntiau yr un mor berthnasol i Gymru.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:47 am

4 sylw:

Dw i'n hoff o'r syniad tîm Prydeinig.

Mewn yr esiampl Little Man in a Toque, mae e'n defnyddio'r cystadleuaeth rhwng UDA a Mexico. Ond, yn ôl y meddyliaeth hyn, y ddylai pobl o 'mindsets' wahanol ddim yn chwarae hefo eu gilydd, ddylai'r tîm UDA yn bodoli. Cofia bod tan ar ôl y Civil War, y mwyafrif o'r pobl UDA meddyliodd am eu hunain yn ôl y 'state' o eu geni -- mae'r UDA yn cynnwys o 50 lleoedd wahanol.

Dw i ddim yn meddwl y buasai tîm Prydeinig ar gyfer Olympics yn brifo'r gêm pêl droed.
sylw gan Blogger Chris Cope, 8:06 pm  

Yn y 2-3 mlynedd diwethaf dwi wedi dod i sylweddoli bod amrywiaeth mawr ymysg gwahanol daleithiau (states) yr UDA, ond mae'r gwahnaiaeth rhwng Cymru a Lloegr yn mynd yn ôl canrifoedd lawer.

Fel wyt ti wedi dod i sylweddoli'n ddiweddar mae'n siwr drwy ddarllen blogiau CYmraeg a maes-e, mae hunaniaeth Cymraeg/Cymreig yn bwysig ofnadwy i ni Gymry, a chyn dyfodiad y Cynulliad (dim ots ma mor dila yw hwnnw), ein timau chwaraeon oedd ein hunig ffordd o ddangos ein hunian i'r byd fel cenedl ar wahan.

Mae'r ffaith bod gan Cymru, Yr Alban a Lloegr (a Gogledd Iwerddon) ein timau unigol yn codi gwrychyn (irritates) sawl gwlad, yn enwedig gwledydd Affrica sy'n gweld y ffaith bod 4 tîm yn 'cynrychioli' Prydain yn amddifadu nhw o safleodd mewn cystadleuthau fel Cwpan y Byd.

Dwi'n byw ar gyfer pêl-droed, hebddo byddai fy mywyd yn un tlotach ofnadwy. Mae'n golygu adegau o orfoledd a thristwch (tristwch rhan fwyaf wrth ddilyn Cymru a Wrecsam yn anffodus), ond bydde ni ddim yn medru profi dim o'r emisiynnau hyn petai yna dîm Prydeinig, dim ond atgasedd.

Wrth gwrs ar y wyned byddai 2-3 gêm yn ystod gemau'r Olympaidd ddim yn ddiwedd y byd, ond gall yr oblygiadau fod yn llawer mwy.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:31 am  

Efallai ddylwn i wedi dweud -- dw i ddim eisiau gweld y diwedd o timau cenhedloedd gwahanol. Dw i'n mwynhau gwylio'r ysbryd rhwng y cenhedloedd (oedd hi'n gwych i gwrando a'r gêm Lloegr-Gogledd Iwerddon ar nos Mercher). Ond dw i'n meddwl mai syniad da ydy tîm Prydeinig ar gyfer yr Olympaidd -- a dim ond ar gyfer yr Olympaidd.
sylw gan Blogger Chris Cope, 9:12 pm  

Doeddwn ddim yn meddwl dy fod ti eisiau gweld diwedd y timau cenedlaethol :)

Os aiff yn ei flaen cwbwl fydd rhaid i mi wneud yw ei anwybyddu fel dwi'n wneud gyda gweddill y gemau Olympaidd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:37 am  

Gadawa sylw