<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwenu mewn Trennau

21.9.05

Wel, dwi ddim rili'n berson sy'n gwenu, ond byddai'n bendant yn mynd i'm gwaith ar y trên yfory gan ei bod yn In Town Without My Car Day. Dwi ddim fel arfer yn ymddwyn fel dafad gyda rhyw stunt's cyhoeddus, ond gan fy mod yn ceisio peidio defnyddio'r car unwaith yr wythnos, yna waeth iddo fod ar y diwrnod hwn.

Mae'r diwrnod In Town Without My Car yn disgyn o fewn wythnos European Mobility Week, ac ar y diwrnod hwn y bwriad yw bod canolfannau trefi a dinasoedd ar gau i geir fel ei bod yn haws i bobl feicio neu gerdded, ond does dim sôn am hyn ar wefan Cyngor Caerdydd.

Dwi'n gwbod mae hwn yn beth blynyddol ond clywais i ddim am y peth eleni nes i fy nghariad ddod o'i gwaith ddoe, wedi cael cynnig crys-T gan staff y cyngor tra'n beicio i'w gwaith. Gan bod Sarah wrthi'n llythyru'r cyngor ar hyn o bryd yn ceisio eu perswadio i adael giatiau'r parc ar agor yn hwyrach fel nad yw hi'n gorfod beicio o amgylch y castell, heb fawr o lwc, doedd y cynnig o grysau-T ond ei chythruddo fwy fyth. A phan ddwedodd hi nad oedd eisiau un, dywedodd y gweithiwr cyngor "Go on take it, you can use it to polish your car"!!!



Rhywbeth sy'n rhanol gysylltiedig yw cynllun Sail Rail, ble gallwch gael tocyn i gael trên at y terminal Fferi yng Nghaergybi neu sir Benfro, croesi i Iwerddon ar y Fferi ac yna trên ar yr ochr arall am un pris. Engrheifftiau yw Rhyl i Galway ac yn ôl am £66, neu o Gaerdydd i Cork ac yn ôl am £56.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:00 pm

4 sylw:

Ni'n trio bwcio gyda Sailrail ar hyn o bryd ar gyfer penwythnos y gem Chwe Gwlad, heb fawr o lwc. "We don't take bookings this early", medde nhw. Ond mae'r peth yn syniad rhagorol os y'ch chi awydd penwythnos bant yn rhad. A chyda phrobleme llygredd awyrennau'n cynyddu...
sylw gan Blogger cridlyn, 3:07 pm  

Rhyfedd hynny, gan fod y gwefan yn dweud bd modd gwarantu seddi. Roeddwn i'n dusgwyl i rhywun (ond nid un doeth fel ti wrth gwrs) i adael sylw fel, ond mond £50 yw e i hedfan.

Ddwyedon nhw fain o flaen llaw gallwch archebu tocynnau?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:37 am  

Ddim tan Dolig o leia', medde nhw wrth fy ffrind. Mwy o alw ar y penwythnos hwnnw yw'r rheswm, mae'n rhaid.
sylw gan Blogger cridlyn, 10:15 am  

Beryg y gwnawn nhw geisio peidio cynnig yr un cynnigion ar y penwythnos yna gan fydd y galw mor uchel.

Wedi dilyn dy ddolen at y BBC a rhai o'r dolenni oddi hynnw hefyd. Yn bendant byddai trethu yn lleihau y nifer o flights. Bydde hyn yn golyu mai mond pobl cefnog fydde'n gallu teithio i bedwar ban byd, ond mae hyn yn iawn yn fy marn i os ydynt yn talu trwy eu trwynau am y fraint o lygru.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:39 am  

Gadawa sylw