<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Seminar – Y Fenter Amlieithog: Caerdydd, 28.3.07

26.3.07

Dwi wedi cael gwahoddiad gan Draig Technology i fynychu seminar mae'nt yn drefnu i hyrwyddo eu meddalwedd dwy/amlieithog newydd. Efallai nad yw pawb yn hoffi Microsoft, ond dwi'n meddwl dylai Draig gael eu canmol am fuddsoddi mewn cynhyrchu meddalwedd dwyieithog. Gobeithio bydd sawl cwmni a chorff cyhoeddus yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i allu cysylltu a chyfathrebu â'u cwsmeriaid yn eu dewis iaith.

Y Fenter Amlieithog

Cyfarthrebu’n Effeithiol ac yn Rheoli Gwybodaeth mewn Amgylchedd Amliethog

Seminar Draig Technology a Microsoft

Quality Hotel, Caerdydd

Dydd Mercher 28 Mawrth 2007


9.30 – 10.00am Cofrestru, te a choffi

10.00 – 10.45am
Byd Gwaith Newydd – cyflwyniad gan Microsoft

Yn dangos sut y gall Microsoft Office a SharePoint 2007 wella cynhyrchedd, effeithlonrwydd, rheoli cynnwys y we, rheoli dogfennau’n ddi-fwlch a gwella diogelwch wrth reoli cyfathrebu mewn menter brysur.

11.00 – 11.30am Microsoft Dynamics CRM - cyflwyniad gan Technoleg Draig Cyf

Golwg gyffredinol ar gynnyrch CRM 3.0 a hwnnw wedi’i gryfhau gyda phecyn amlieithog Draig - ateb cynhwysfawr a hyblyg i Reoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM). Mae wedi'i greu i ateb gofynion eich sefydliad; mae’n gweithio fel y byddwch chi'n gweithio ac yn gweithio fel y mae'ch sefydliad yn gweithio.

11.30 – 12.00pm Y Fenter Amlieithog – cyflwyniad gan Technoleg Draig Cyf

Yn dangos sut y gall pecyn Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid dwyieithog a SharePoint amlieithog gynnig ateb cwbl integredig Cymraeg ar gyfer rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid/cleientau, rheoli dogfennau a chynnwys y we yn ogystal â rheoli gwybodaeth a cofnodion ... a'r cyfan i gyd yn estyniad naturiol i Microsoft Office

Efallai bod dal lefydd ar ôl oes hoffech fynychu. Cysylltwch â'r cwmni a'r 0870 2200512.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:49 pm | dolen | 0 sylw |

Gwahardd Ysmygu - 11 diwrnod i fynd (ac yn cyfri)

22.3.07

Allai'm disgwyl am y gwaharddiad. Dwi wedi cael hen ddigon ar ddod adre o'r dafarn yn drewi. Am ryw reswm dros y blynyddoed diwethaf dwi wedi dod yn llai a llai goddefgar, ac yn fwy ymwybodol fyth o'r arogl a'r mwg. Dwi di amcan gyfrif byddai'n mynychu'r dafarn (nid yn angenrheidiol yr un un!) bedwar gwaith cyn ddaw'r gwaharddiad i rym. Unrhywun am ddod allan am beint ar yr 2ail o Ebrill i ddathlu?

I'r rhai ohonoch sy'n darllen y post hwn drwy newsreader (neu'r melltith a elwir Internet Explorer) mae graffeg Flash ar ben y colofn dde sy'n dangos sawl diwrnod sydd i fynd.

,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:41 pm | dolen | 7 sylw |

Ffermio ar gyfer Bwyd neu Danwydd?: Llaneurgain 29.3.07

Dwi a Sarah am fynychu'r cyflwyniad yma wythnos i heddiw. Dwi'n chwilio am syniadau ar gyfer y dyfodol.

Ffermio ar gyfer Bwyd neu Danwydd?

Dydd Iau 29 Mawrth, 11.00am-4.00pm

Coleg Garddwriaeth Cymru, Llaneurgain

Ffermwyr – dewch i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, lle cewch glywed panel o arbenigwyr yn siarad am amrywiaeth o faterion Bio-ynni, ar y fferm a’r tu hwnt.

Bydd cyfle i gael cyngor am ddim ac i weld arddangosfa gan fwy na deuddeg o arddangoswyr/cwmnïau, yn arbenigo mewn sawl maes gan gynnwys tyrbinau gwynt, paneli solar, ynni dŵr a bio-gnydau.

Y digwyddiad yn addas ar gyfer y gymuned ffermio ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn bio-ynni.

Digwyddiad rhad ac am ddim. I gael tocynnau, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Kay Rickard, 01978 292536.

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:28 pm | dolen | 0 sylw |

Trefnu Teithiau Clwb Cerdded 2YQ: Tafarn y Mochyn Du 22.3.07

21.3.07

Dwi wedi cael e-bost gan Iestyn yn hysbysu cyfarfod i drefnu teithiau 2007 gyda Clwb Cerdded 2YQ
Mae Clwb Cerdded 2YQ wedi cael hoe dros y gaeaf gyda'r bwriad o ail ddechrau yn y gwanwyn.
Byddwn ni'n cwrdd nos Iau 22ain o Fawrth yn y Mochyn Du am 8pm i lunio rhaglen o deithiau 2007. Croeso cynnes i bawb. Os oes gennych syniadau ar gyfer teithiau cerdded neu os yr hoffech arwain taith yna dewch i'r Mochyn Du neu ebostiwch ni.
Yn y cyfamser, mae gan y clwb bellach bresenoldeb ar myspace.


Generated By Technorati Tag Generator

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:03 am | dolen | 0 sylw |

Noson Gomedi: Caerffili, 23.3.07

Daniel Glyn yn cyflwyno
Gary Slaymaker
a
Tudur Owen
.
Gwesty'r Goodrich, Caerffili
23.3.07
8:00pm
£5

Dyma'r Noson Gomedi gyntaf i ni drefnu, ond mae nifer o fobl wedi dangos diddordeb ac ambell docyn wedi'w werthu o flaen llaw. Os oes unrhywun o Gaerdydd awydd dod i hwn a rhannu tacsi nôl wedyn, gadewch i mi wybod.

Dyma oedd gan pobl i'w ddweud ar maes-e.com am noson gyda'r un perfformwyr yng Ngaherdydd yn ddiweddar:
noson dda, pawb wedi mwynhau ac wedi gorfod troi rhai pobl i ffwrdd achos oedd e'n rhy llawn...
(Dai, rheolwr Clwb Ifor Bach)
Odd e'n blydi marfylys.
('Nialwch)
Digon o bhurka jokes i gadw pawb yn hapus (oedd o fel bod yn Team America wir Dduw). Noson = Wrth fy modd
Do roedd e'n noson werth chweil.
(Madrwyddygryf)
roedd tudur owen yn blydi wych
(Carlos Teves)

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:59 am | dolen | 0 sylw |

Teithiau Dafydd Llyr

Blog (yn Saesneg) gan Dafydd Llyr o Aberystwyth sy'n cymeryd blwyddyn allan yn teithio o gwmpas Siapan, Awstralia, Seland Newydd a de America.

Diawl lwcus.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:54 am | dolen | 0 sylw |

jalgi hadi (Scymraeg Basgeg)

16.3.07

Siawns eich bod yn ymwybodol o'r grŵp Scymraeg ar Flickr. Yn anffodus mae 256 o luniau arno'n barod a'r niferoedd yn cynyddu.

Mae grŵp tebyg ar Flickr ar gyfer gwallau mewn arwyddion/posteri Basgeg o'r enw ialgi hadi.

Dyma engrhaifft gwych o boster gwrth-gyffuriau gan y llywodraeth yno:



Mae'r fersiwn Sbaeneg yn dweud 'Gweithgaredd gwych heb gyffuriau'
a'r fersiwn Basgeg yn dweud 'Dim gorffwys heb gyffuriau'

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:12 am | dolen | 0 sylw |

Newyddion ac erthygl am Wlad y Basg

14.3.07

Yr wythnos yma fe gyhoeddwyd ar Eurolang mai Basgeg fydd iaith cyfrwng addysg ymhob ysgol yng Ngwlad y Basg yn y dyfodol. Dychmygwch gyhoeddiad o'r fath yng Nghymru!

Mae'r newyddion yma wedi fy atgoffa am bost dwi wedi bwriadu ei ysgrifennu ers amser. Pan oeddwn adre ddiwethaf dangosodd Mam erthygl imi o'r Herald Cymraeg gan Bethan Gwanas. Roedd am Wlad y Basg a'r iaith Fasgeg, yn ôl yr erthygl bydd Bethan yn cyflwyno rhaglen 3 darn ar Radio Cymru am ieithoedd lleafrifol (ond nid yw'n dwued enw'r rhaglen na pryd fydd ymlaen). Oes nad ydych yn ymwybodol yn barod, mae tipyn o diddordeb gyda fi yn y wlad a'r iaith, wedi i mi fod draw yno y llynedd i wylio gêm bêl-droed rhyngwladol (a chyfiethu gwefan Basgeg i'r Gymraeg cyn mynd draw).

Dwi heb allu dod o hyd i'r erthygl ar wefan icWales, ond gadewais neges ar flog 'Ar y Lein' Bethan yn gofyn am gopi, a dyma hi'n e-bostio un i fy yn syth - diolch Bethan! Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yma, ond os nad oes gyda chi fynadd ei ddarllen i gyd (er mae werth gwneud), dwi am nodi rhai o'r pytia mwy diddordol yma a ychwanegu rantiau fy hun atynt:


Mintzapraktika
Gan gyfeirio at benderfyniad Bwrdd yr Iaith i beidio â pharhau i ariannu CYD, mae'n sôn am gynllun cymhathu oedolion sy'n dysgu'r iaith. Mae'r mudiad Topagunea (sydd âg amcanion tebyg i CYD) yn rhedeg cynllun Mintzapraktika.
Mintzapraktika (ymarfer ymddiddan) ydi enw hwnnw, cynllun sy’n hel criwiau bychain at ei gilydd - 3, 4 neu 5 o bobl - i wneud pob math o weithgareddau efo’i gilydd – drwy gyfrwng y Basgeg wrth gwrs. Ond mae’n rhaid i un neu ddau o bob criw fod yn siaradwyr rhugl – fel chi a fi.
Mae bethan yn gofyn faint ohonom ni fyddai'n rhoi'n amser i rhywbeth fel hyn? Er nado edd CYD yn berffaith ac roedd yr cymorth ariannol yn anigonol, rhaid i ni Gymry Cymraeg feichio ysgwyddo ychydig o'r bai am ei fethiant. Am ryw reswm ychydig iawn ohonom sy'n dangos unrhyw diddoddordeb mewn dysgwyr nag yn ceisio eu helpu i ddod yn rhugl, wedi iddynt ymdrechu'n galed i ddysgu iaith mae cymaint o fobl yng Nghymru ei hun yn dal i alw'n "wast o amser/arian".
Be mae Topagunea’n ei wneud ydi hel manylion pawb sydd am gymryd rhan yn y prosiect, yna rhoi pobl o’r un oed a diddordebau at ei gilydd – bron fel ‘dating agency’ (angen term Cymraeg am rheiny hefyd. Bwrdd bachu?), ac wedyn maen nhw’n mynd i gerdded neu yfed neu chwarae cardiau efo’i gilydd – be bynnag sy’n apelio at y criw hwnnw.
Mae'r syniad o grŵp fel hyn yn apelio mwyatai na chynllun 'Pontio' CYD gan eich bod mewn grŵp yn hytrach na mewn parau. Mae'r gyfres newydd o'r BIG Welsh Challenge yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dod yn Fentor i ddysgwr, ond does fawr ddim hyrwyddo wedi bod i hyn!
Mae’n swnio fel chwip o syniad da i mi, ac mi ddylen ni gyd ddechrau ffurfio criwiau tebyg yn o handi (fyddai’n haws tase CYD yn dal o gwmpas, ond dyna fo...). Mae’n hen bryd i fwy o Gymry Cymraeg wneud rhywbeth positif fel hyn yn hytrach na dim ond cwyno bod mewnfudwyr ddim yn trio digon i ddysgu Cymraeg. Oes, mae isio’n hysgwyd ni.
Cytuno 100%


Cwrdd â Bernardo Atxaga
Ges i sgwrs efo Bernardo Atxaga ddoe –llenor mwya Gwlad y Basg.

Mae o wedi cael gwahoddiad i’r Steddfod eleni, a da chi, triwch fynd i wrando arno fo. Roedd ganddo fo bethau i’w dweud am yr iaith Fasgeg oedd jest a gwneud i mi grio. Pethau y dylid eu cynnwys mewn erthygl fawr, bwysig, i roi cic yn ein tinau ni’r Cymry. Er enghraifft, pan ddywedodd o fod ei nofelau o’n gwerthu 20,000 o gopiau yr un (yn yr iaith Fasgeg yn unig!), ro’n i’n gegrwth. 20,000! Mae nofel Gymraeg yn gwneud yn dda os ydi hi’n gwerthu 1,500. Os ydi hi’n gwerthu 4 neu 5 mil, mae hi’n bestseller.
Roeddwn wedi darllen am Bernardo Atxega yn y llyfr difyr The Basque History of the World, a ceisiaf fynd i wrando arno yn yr Eisteddfod, er dwi ddim yn siwr sut weithith o gyda'r rheol iaith? Mae ei nofelau'n cael eu trosi o'r Basgeg gwreiddiol i sawl iaith. Hyd y gwyddwn i, Y Pla gan William Owen Roberts yw'r unig nofel Gymraeg gyfoes sydd wedi'w throsi i bedwar iaith Ewropeaidd (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Slofeneg), eto ychydig iawn o Gymry Cymraeg fyddai'n adnabod enw'r awdur. Mae stori ddoniolish am Americanes a bostiodd llun o stryd yng Ngwlad y Basg ar Flickr ac yn y cefndir mae Bernardo Atxega, ond does dim syniad ganddi (ar y pryd) pwy oedd o (stori yma). Mae hyn yn gwneud i mi feddwl am 'enwogion' Cymraeg sy'n golygu dim i bobl eraill yng Nghymru.


Y cwmni mawr Basgaidd
Yn olaf, mae Bethan yn sôn am gwmni Eroski (er nid yw'n ei enwi, mae llun o gangen ar ben yr erthygl). Dyma un o, os nad y prif gwmni archfarchnad yn Sbaen i gyd.
Dydi pethau ddim yn ddelfrydol yng Ngwlad y Basg chwaith, neu fyddai ‘na’m cymaint o brotestio a brwydro o hyd. Ond maen nhw’n bell o’n blaenau ni – a hynny am fod yr economi gymaint cryfach. Mae’r rhain yn weithwyr caled, bois bach, efo brêns busnes. Mi fues i mewn archfarchnad lle mae’r posteri i gyd yn yr iaith Basgeg, a’r nwyddau i gyd yn bedair-ieithog – Sbaeneg, Basgeg, Catalan a Galisieg, a miwsig Basgeg oedd yn chwarae i’ch hannog i brynu.
Mae eu gwefan yn amlieithog, gan gynnwys 4 o ieithoedd lleafrifol gwladwriaeth Sbaen. Rhyfedd, o holl gwmniau archfarchnadoedd mawr Prydain, dim y ddau a hanodd o Gymru (Iceland a'r diweddar Kwik Save) sydd wedi dangos lleiaf o barch tuag at y Gymraeg.


Gol.
Mae'r post yma mor hir, waeth i chi fod wedi jyst darllen y gwreiddiol. Erbyn dallt, mae mudiad Topagunea ychydig yn wahanol i CYD. Dyma gyflwyniad (yn Saesneg) o'u gwaith:




Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 pm | dolen | 1 sylw |

Y Pechaduriaid (cyfres gomedi ar Radio Cymru)

12.3.07

Roeddwn i'n gwrando ar Radio Cymru nôs Wener a clywais Y Pechaduriaid (rhwng 6 a 6:30pm). Tydi o ddim yn mynd i ennill dim gwobrau (wel, wedi dweud hynny, gall unrhybeth ennill gwobr dyddiau yma) ond roedd yn ddigon doniol ac yn wahanol i beth sydd ar y radio fel arfer. Mae'n gynhyrchiad gan Boomerang, ac yn ail-ddarllediad yn ôl y golwg. Un o'r cymeriadau arno yw Huw Evans - dwi'n hoff iawn o'i hiwmor lle chwech (deud lot amdan i mae'n debyg).

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:10 pm | dolen | 3 sylw |

England Rocks (a Chymru hefyd)

Mae enjoyEngland wedi lawnsio gwefan o'r enw England Rocks sy'n defnyddio 'stwnsh' googlemaps (a la Curiad) i dangos mannau o ddiddordeb yn ymwneud â hanes cerddoriaeth yn Lloegr ac hefyd lleoliad gwahanol wyliau cerddorol. Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da ac yn rhywbeth sy'n mynd i apelio at ymwelwyr o dramor, ond efallai fwy fyth at ddarpar ymwelwyr o'r wlad ei hun.

Dwi o'r farn nad yw'r Bwrdd Croeso yn gwneud digon i hyrwyddo twristiaeth mewnol yng Nghymru. Mae yna nifer fawr o ŵyliau cerddorol cymunedol wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru yn y 5 mlynedd diwethaf, a dwi'n meddwl eu bod yn cyfrannu tipyn at yr economi leol. Tydi gŵyliau Cymraeg (eu hiaith) ddim yn cael llawer o gyhoeddusrwydd tu allan i'r byd Cymraeg, ac efallai bod bai ar y trefnwyr am hyn i raddau, ond yn hytrach na disgwyl i'r Bwrdd Croeso ddod i fyny gyda syniad tebyg, dyma fap yn dangos rhai o brif ŵyliau cerddordol Cymru. Mae'n syndod faint o bobl o du allan i Gymru sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Cymraeg ei iaith. Os oes na unrhyw ŵyliau dwi di anghofio, gadewch sylw, neu gwell fyth ychwnaegwch nhw at y tag walesrocks.



Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:05 am | dolen | 0 sylw |

Cyfarfod CMC a'r Rhithfro

8.3.07

Neithiwr mynychais gyfarfod Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg oedd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Bedwyr, Bangor. Roedd Eleri, Delyth, Dewi a Wayne ym Mangor a Telsa a minnau yn gwrando trwy Skype. Doeddwn ond wedi lawrlwytho meddalwedd Skype y diwrnod cynt ac heb gael sgwrs trwyddo o'r blaen, ond fel weithiodd yn gwbwl ddi-drafferth, er roeddwn yn ei chael yn annodd clywed rhaid o'r pobl ym Mangor, efallai roeddynt yn eistedd ymhell o'r meic.

Cymerias ran yn y cyfarfod gan mod i'n rhedeg cwmni tros y wê, ond hefyd roedd CMC eisiau rhywun o'r Rhithfro i siarad am sut all blogwyr a'r Gymdeithas gyd-weithio. Yn ystod Eisteddfod 2006 yn Abertawe fe gynhaliwyd blog-gwrdd ar stondin CMC, ar gobeithio yw gwneud yr un peth yn Eisteddfod eleni yn y Wyddgrug. Ar hyn o bryd nid yw'n debygol y bydd CMC yn cael cynnig slot ar stondin Prifysgol Bangor, ond mae sefydliad arall wedi cynnig rhannu stondin ac fe soniwyd neithwr am gael slot ym Mhabell y Cymdeithasau (gyda aelod o'r Rhithfro yn siarad, am flogio/rhywdweithio cymdeithasol o bosib?). Dulliau eraill o gydweithio yr awgrymais yw:
  • blogwyr yn hyrwyddo prosiectau/cynnyrch partneriaid CMC drwy flogio amdanynt - os nad yw blogwyr Cymraeg yn defnyddio a thrafod meddalwedd Cymraeg, pwy sydd am?
  • treialu meddalwedd newydd
  • cydlynu gyda chyfieithu
Nodais pa mor falch oeddwn i weld ymddangosiad blog Murmur, gan ei fod yn rhoi deimensiwn arall i'r rhithfro, sef blog gweithle. Awgrymodd Dewi y dylai aelodau eraill CMC flogio ac y gelli'r cronni (aggregate) y pyst i gyd mewn un man, efallai ar wefan CMC. Byddwn yn hoffi gweld hyn yn digwydd, ond dylai pobl ond blogio os ydynt eisiau gwneu nid am eu bod yn credu y dylent wneud. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy'n cadw blog i mi wybod, a galla i ond meddwl am Dwdws (cyfeiriadur busnes) a KnowNet (datblygwyr meddalwedd i'r sector addysg).

Hefyd, os wnaethoch chi gwbwlhau ffurflen i ddangos diddordeb yn y Gymdeithas nôl yn mis Awst neu pryd bynnag, ond heb glywed dim, tydi CMC heb anghofio amdanoch, dim ond bod neb wedi cael amser i edrych dros y talenni eto!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:11 am | dolen | 3 sylw |