<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Newyddion ac erthygl am Wlad y Basg

14.3.07

Yr wythnos yma fe gyhoeddwyd ar Eurolang mai Basgeg fydd iaith cyfrwng addysg ymhob ysgol yng Ngwlad y Basg yn y dyfodol. Dychmygwch gyhoeddiad o'r fath yng Nghymru!

Mae'r newyddion yma wedi fy atgoffa am bost dwi wedi bwriadu ei ysgrifennu ers amser. Pan oeddwn adre ddiwethaf dangosodd Mam erthygl imi o'r Herald Cymraeg gan Bethan Gwanas. Roedd am Wlad y Basg a'r iaith Fasgeg, yn ôl yr erthygl bydd Bethan yn cyflwyno rhaglen 3 darn ar Radio Cymru am ieithoedd lleafrifol (ond nid yw'n dwued enw'r rhaglen na pryd fydd ymlaen). Oes nad ydych yn ymwybodol yn barod, mae tipyn o diddordeb gyda fi yn y wlad a'r iaith, wedi i mi fod draw yno y llynedd i wylio gêm bêl-droed rhyngwladol (a chyfiethu gwefan Basgeg i'r Gymraeg cyn mynd draw).

Dwi heb allu dod o hyd i'r erthygl ar wefan icWales, ond gadewais neges ar flog 'Ar y Lein' Bethan yn gofyn am gopi, a dyma hi'n e-bostio un i fy yn syth - diolch Bethan! Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yma, ond os nad oes gyda chi fynadd ei ddarllen i gyd (er mae werth gwneud), dwi am nodi rhai o'r pytia mwy diddordol yma a ychwanegu rantiau fy hun atynt:


Mintzapraktika
Gan gyfeirio at benderfyniad Bwrdd yr Iaith i beidio â pharhau i ariannu CYD, mae'n sôn am gynllun cymhathu oedolion sy'n dysgu'r iaith. Mae'r mudiad Topagunea (sydd âg amcanion tebyg i CYD) yn rhedeg cynllun Mintzapraktika.
Mintzapraktika (ymarfer ymddiddan) ydi enw hwnnw, cynllun sy’n hel criwiau bychain at ei gilydd - 3, 4 neu 5 o bobl - i wneud pob math o weithgareddau efo’i gilydd – drwy gyfrwng y Basgeg wrth gwrs. Ond mae’n rhaid i un neu ddau o bob criw fod yn siaradwyr rhugl – fel chi a fi.
Mae bethan yn gofyn faint ohonom ni fyddai'n rhoi'n amser i rhywbeth fel hyn? Er nado edd CYD yn berffaith ac roedd yr cymorth ariannol yn anigonol, rhaid i ni Gymry Cymraeg feichio ysgwyddo ychydig o'r bai am ei fethiant. Am ryw reswm ychydig iawn ohonom sy'n dangos unrhyw diddoddordeb mewn dysgwyr nag yn ceisio eu helpu i ddod yn rhugl, wedi iddynt ymdrechu'n galed i ddysgu iaith mae cymaint o fobl yng Nghymru ei hun yn dal i alw'n "wast o amser/arian".
Be mae Topagunea’n ei wneud ydi hel manylion pawb sydd am gymryd rhan yn y prosiect, yna rhoi pobl o’r un oed a diddordebau at ei gilydd – bron fel ‘dating agency’ (angen term Cymraeg am rheiny hefyd. Bwrdd bachu?), ac wedyn maen nhw’n mynd i gerdded neu yfed neu chwarae cardiau efo’i gilydd – be bynnag sy’n apelio at y criw hwnnw.
Mae'r syniad o grŵp fel hyn yn apelio mwyatai na chynllun 'Pontio' CYD gan eich bod mewn grŵp yn hytrach na mewn parau. Mae'r gyfres newydd o'r BIG Welsh Challenge yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dod yn Fentor i ddysgwr, ond does fawr ddim hyrwyddo wedi bod i hyn!
Mae’n swnio fel chwip o syniad da i mi, ac mi ddylen ni gyd ddechrau ffurfio criwiau tebyg yn o handi (fyddai’n haws tase CYD yn dal o gwmpas, ond dyna fo...). Mae’n hen bryd i fwy o Gymry Cymraeg wneud rhywbeth positif fel hyn yn hytrach na dim ond cwyno bod mewnfudwyr ddim yn trio digon i ddysgu Cymraeg. Oes, mae isio’n hysgwyd ni.
Cytuno 100%


Cwrdd â Bernardo Atxaga
Ges i sgwrs efo Bernardo Atxaga ddoe –llenor mwya Gwlad y Basg.

Mae o wedi cael gwahoddiad i’r Steddfod eleni, a da chi, triwch fynd i wrando arno fo. Roedd ganddo fo bethau i’w dweud am yr iaith Fasgeg oedd jest a gwneud i mi grio. Pethau y dylid eu cynnwys mewn erthygl fawr, bwysig, i roi cic yn ein tinau ni’r Cymry. Er enghraifft, pan ddywedodd o fod ei nofelau o’n gwerthu 20,000 o gopiau yr un (yn yr iaith Fasgeg yn unig!), ro’n i’n gegrwth. 20,000! Mae nofel Gymraeg yn gwneud yn dda os ydi hi’n gwerthu 1,500. Os ydi hi’n gwerthu 4 neu 5 mil, mae hi’n bestseller.
Roeddwn wedi darllen am Bernardo Atxega yn y llyfr difyr The Basque History of the World, a ceisiaf fynd i wrando arno yn yr Eisteddfod, er dwi ddim yn siwr sut weithith o gyda'r rheol iaith? Mae ei nofelau'n cael eu trosi o'r Basgeg gwreiddiol i sawl iaith. Hyd y gwyddwn i, Y Pla gan William Owen Roberts yw'r unig nofel Gymraeg gyfoes sydd wedi'w throsi i bedwar iaith Ewropeaidd (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Slofeneg), eto ychydig iawn o Gymry Cymraeg fyddai'n adnabod enw'r awdur. Mae stori ddoniolish am Americanes a bostiodd llun o stryd yng Ngwlad y Basg ar Flickr ac yn y cefndir mae Bernardo Atxega, ond does dim syniad ganddi (ar y pryd) pwy oedd o (stori yma). Mae hyn yn gwneud i mi feddwl am 'enwogion' Cymraeg sy'n golygu dim i bobl eraill yng Nghymru.


Y cwmni mawr Basgaidd
Yn olaf, mae Bethan yn sôn am gwmni Eroski (er nid yw'n ei enwi, mae llun o gangen ar ben yr erthygl). Dyma un o, os nad y prif gwmni archfarchnad yn Sbaen i gyd.
Dydi pethau ddim yn ddelfrydol yng Ngwlad y Basg chwaith, neu fyddai ‘na’m cymaint o brotestio a brwydro o hyd. Ond maen nhw’n bell o’n blaenau ni – a hynny am fod yr economi gymaint cryfach. Mae’r rhain yn weithwyr caled, bois bach, efo brêns busnes. Mi fues i mewn archfarchnad lle mae’r posteri i gyd yn yr iaith Basgeg, a’r nwyddau i gyd yn bedair-ieithog – Sbaeneg, Basgeg, Catalan a Galisieg, a miwsig Basgeg oedd yn chwarae i’ch hannog i brynu.
Mae eu gwefan yn amlieithog, gan gynnwys 4 o ieithoedd lleafrifol gwladwriaeth Sbaen. Rhyfedd, o holl gwmniau archfarchnadoedd mawr Prydain, dim y ddau a hanodd o Gymru (Iceland a'r diweddar Kwik Save) sydd wedi dangos lleiaf o barch tuag at y Gymraeg.


Gol.
Mae'r post yma mor hir, waeth i chi fod wedi jyst darllen y gwreiddiol. Erbyn dallt, mae mudiad Topagunea ychydig yn wahanol i CYD. Dyma gyflwyniad (yn Saesneg) o'u gwaith:




Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 pm

1 sylw:

Clincar o erthygl Rhys.
sylw gan Blogger Nwdls, 11:49 am  

Gadawa sylw