<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wedi'r Eisteddfod

14.8.06

Treuliais mwy o amser ar y maes eleni nag ydw i erioed wedi gwenud, gan ymweld ar 4 diwrnod. Chefais i ddim llawer o gyfle i wneud beth oeddwn eisiau ar y dydd Sadwrn cyntaf oherwydd
Dois yn ôl i'r Eisteddfod Dydd Iau, Gwener a Sadwrn, yn bennaf er mwyn hyrwyddo fy ngwefan jobscymraeg.com. Cefais ymateb da gan lawer o'r sefydliadau a siaradais gyda, a gobeithiaf weld ychydig o swyddi newydd yn ymddangos arno'r wythnos hyn.

Ond uchafbwynt yr Eisteddfod i mi oedd y blog-gwrdd. Unai syniad fi neu Rhodri Nwdls oedd y blog-gwrdd ac wrth 'gynllunio'r' cwrdd ar maes-e, dwi'n sicr mae rhywbeth anffurfiol oedd mewn golwg, ond wedi i griw mawr (wel lot fwy na'r disgwyl) gyrraedd roedd pawb fel petai nhw'n disgwyl i rhywun gymeryd arweiniad o'r peth. Trodd llygaid pawb ataf fi, felly dyma fi'n dechrau rwdlan am beth oeddwn i eisiau trafod, ac yn ffodus ymunodd pedwar neu bump arall yn y drafodaeth. Yn ogystal a blogio bu rhai'n cymharu eu profiadau o ddefnyddio gwahanol wefannau rhwydweithio cymdeithasol ac esbonio i eraill beth oeddynt a sut roeddynt yn gweithio. Y prif rai i bobl siarad amdanynt oedd: Blogger, Flickr, Technorati, YouTube, del.icio.us a LibraryThing, (a dwi'n siwr llwyddais i grybwyll Tagzania yn rhywle) ond hefyd trafodwyd gwefannau nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt fel Second Life (rhyfedd!) a sawl un arall nad ydw i'n cofio.

Hanner ffordd trwy'r cwrdd dyma fi'n sylweddoli nad oedd pawb yn nabod eu gilydd felly dyma fi'n cael pawb i ddweud eu henwau ac enw eu blog. Yn bresenol oedd:
Kamikaze Cymru, Ray Diota, Chris, Rhodri, Mr Gasyth, Nic, Joss, Wierdo, Dogfael, Mair, Geraint, Mei, Telsa a fi. Roedd yna hefyd ddau ddarllenwr blogiau yno'n gwrando ac hefyd Rhys, Gruff a Dewi o Ganolfan Bedwyr.
Waw, roedd 17 person yno! Ymddiheuriadau lu os dwi wedi anghofio rhywun.
Gallen i fod wedi aros ymlaen a sgwrsio ymhellach, ond gan bod cymaint yn digwydd ar faes yr Eisteddfod roedd llawer angen gadael am 3:00. Roeddwn wedi bwriadu tynnu llun o bawb, ond gadewis fy nghamra yn y maes pebyll, yn ffodus fe dynnodd Dogfael a Mair ambell lun - felly cadwch olwg am y tag bloggwrdd ar Flickr ;-)

Hoffwn fod wedi siarad mwy am tagio, blogio'n saesneg, gwneud arian o'r wê a gweld beth yw potensial meddalwedd nad yw'n cael ei ddefnyddio lawer yn Gymraeg fel Wiki's er engrhaifft*.

Cyn y blog-gwrdd bues yn siarad âg ambell aelod o Gymdeithas Meddalwedd Gymraeg. Mae'r Gymdeithas wedi bodoli rwan ers 12 mis ac yn awyddus i ehangu aelodaeth, gan gynnwys blogwyr. Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod eto yn mis Tachwedd (o bosib ym Mangor) , efallai bydd cyfle cael blog-gwrdd bryd hynny i gyd-fynd â'r peth, ond dwi'n amau os daw blogwyr i Fangor yn arbennig ar gyfer blog-gwrdd, oherwydd bod y mwyafrif ohonynt unai'n byw yn ardal Aberystwuth neu Gaerdydd - cawn weld. Dyma Gruff yn dangos i mi gwefan Enwau Cymru ac Archif Melville Richards.

Prynnais lwyth o lyfrau a chychgronnau a dwi heb gael amser i ddarllen dim un eto!


* Synniad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2007 a 2008 yw Wikisteddfod. Mae'r syniad yn haeddu post ei hun dwi'n meddwl.

Gol.
Wedi dechrau wiki Eisteddfod 2007 - gwerthfawrogi'r unrhyw fewnbwn/gyfraniad

, , , , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:28 am

3 sylw:

Basai wedi bod yn hwyl cwrdd a phobl sy'n blogio yn y Gymraeg--syniad da iawn. Efallai y gallaf i'n dod rhyw flwyddyn arall!
sylw gan Blogger Sarah Stevenson, 4:55 pm  

Roedd Mordicai yno fyd am chydig mewn cuddwisg, rhag i bawb weld gwir wyneb yr unben mall o dwr y penglog!
sylw gan Blogger Nwdls, 7:53 pm  

Cyfarfod gwych, yn union y fath o beth a oedd angen. Syrthiodd nghalon tipyn bach pan welais i gamera teledu yna mae rhaid rhaid, ond wedi deall taw ar gyfer Chris Cope Mediasuperstar yr oedd hwnna, a nid stori "beth yw blogio?" arall ar Wedi 7, oedd popeth yn hynci ac yn ddori.

Neis cael peint bach ar ol, hefyd.

Neisach byth i gael fy siwmper yn ol, diolch i Geraint, ar ol i mi ei anghofio yn y bar.
sylw gan Blogger Nic, 7:59 am  

Gadawa sylw