Y Pechaduriaid (cyfres gomedi ar Radio Cymru)
12.3.07
Roeddwn i'n gwrando ar Radio Cymru nôs Wener a clywais Y Pechaduriaid (rhwng 6 a 6:30pm).  Tydi o ddim yn mynd i ennill dim gwobrau (wel, wedi dweud hynny, gall unrhybeth ennill gwobr dyddiau yma) ond roedd yn ddigon doniol ac yn wahanol i beth sydd ar y radio fel arfer.  Mae'n gynhyrchiad gan Boomerang, ac yn ail-ddarllediad yn ôl y golwg.  Un o'r cymeriadau arno yw Huw Evans - dwi'n hoff iawn o'i hiwmor lle chwech (deud lot amdan i mae'n debyg).
Labels: radio comedi
3 sylw:
				
sylw gan 
 Nwdls, 12:22 pm 
 
		
	
 Nwdls, 12:22 pm 
 
				
Roedd un amheus am gi'n ffwcio coes Huw Evans, a fo'n dweud
"roeddwn wedi dychmygu i fy nhro cyntaf fod mwy rhamantus"
:-)
Rhyfedd does dim mwy o sôn am y gyfres. Adeg yna nôs Wener ddim yn mynd i ddenu lot o wrrandawyr
			
		
	"roeddwn wedi dychmygu i fy nhro cyntaf fod mwy rhamantus"
:-)
Rhyfedd does dim mwy o sôn am y gyfres. Adeg yna nôs Wener ddim yn mynd i ddenu lot o wrrandawyr
				
Swnio'n ddoniol--dylwn i tseco hi mas. Gobeithio y bydda i'n gallu dilyn beth sy'n digwydd, er mod i'n dal i ddysgu!			
			
		
	









Oedd y jôc am y chwanen oedd yn ringmaster yn un da.