<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cyfarfod CMC a'r Rhithfro

8.3.07

Neithiwr mynychais gyfarfod Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg oedd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Bedwyr, Bangor. Roedd Eleri, Delyth, Dewi a Wayne ym Mangor a Telsa a minnau yn gwrando trwy Skype. Doeddwn ond wedi lawrlwytho meddalwedd Skype y diwrnod cynt ac heb gael sgwrs trwyddo o'r blaen, ond fel weithiodd yn gwbwl ddi-drafferth, er roeddwn yn ei chael yn annodd clywed rhaid o'r pobl ym Mangor, efallai roeddynt yn eistedd ymhell o'r meic.

Cymerias ran yn y cyfarfod gan mod i'n rhedeg cwmni tros y wê, ond hefyd roedd CMC eisiau rhywun o'r Rhithfro i siarad am sut all blogwyr a'r Gymdeithas gyd-weithio. Yn ystod Eisteddfod 2006 yn Abertawe fe gynhaliwyd blog-gwrdd ar stondin CMC, ar gobeithio yw gwneud yr un peth yn Eisteddfod eleni yn y Wyddgrug. Ar hyn o bryd nid yw'n debygol y bydd CMC yn cael cynnig slot ar stondin Prifysgol Bangor, ond mae sefydliad arall wedi cynnig rhannu stondin ac fe soniwyd neithwr am gael slot ym Mhabell y Cymdeithasau (gyda aelod o'r Rhithfro yn siarad, am flogio/rhywdweithio cymdeithasol o bosib?). Dulliau eraill o gydweithio yr awgrymais yw:
  • blogwyr yn hyrwyddo prosiectau/cynnyrch partneriaid CMC drwy flogio amdanynt - os nad yw blogwyr Cymraeg yn defnyddio a thrafod meddalwedd Cymraeg, pwy sydd am?
  • treialu meddalwedd newydd
  • cydlynu gyda chyfieithu
Nodais pa mor falch oeddwn i weld ymddangosiad blog Murmur, gan ei fod yn rhoi deimensiwn arall i'r rhithfro, sef blog gweithle. Awgrymodd Dewi y dylai aelodau eraill CMC flogio ac y gelli'r cronni (aggregate) y pyst i gyd mewn un man, efallai ar wefan CMC. Byddwn yn hoffi gweld hyn yn digwydd, ond dylai pobl ond blogio os ydynt eisiau gwneu nid am eu bod yn credu y dylent wneud. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy'n cadw blog i mi wybod, a galla i ond meddwl am Dwdws (cyfeiriadur busnes) a KnowNet (datblygwyr meddalwedd i'r sector addysg).

Hefyd, os wnaethoch chi gwbwlhau ffurflen i ddangos diddordeb yn y Gymdeithas nôl yn mis Awst neu pryd bynnag, ond heb glywed dim, tydi CMC heb anghofio amdanoch, dim ond bod neb wedi cael amser i edrych dros y talenni eto!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:11 am

3 sylw:

Beth yw enw Sgeip ?
sylw gan Anonymous Anonymous, 4:02 pm  

Beth yw dy enw Sgeip?

Fy enw Sgeip ydi 'benbore' :-)

et tu?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:47 pm  

Mae aelodau CMC yn awyddus i allu helpu gorau gallant i hybu'r Rhithfro.

Yn Eisteddfod 2006, rhoddodd CMC eu stondin i'r Rhithfro am fore er mwyn cynnal blog-gwrdd

A fyddai bobl o'r Rhithfro hoffi ail adrodd hyn yn 2007 neu trefnu esblygiad o hyn fel awgrymodd Rhys - cyflwyniad ym Mhabell y Cymdeithasau?
sylw gan Blogger gwelywiwr, 9:59 pm  

Gadawa sylw