Y môr Cymreig
13.3.08
Dwi fel pob Cymro arall yn croesi pob dim ar hyn o bryd yn y gobaith y bydd tîm rygbi cymru'n efelychu llwyddiant 2005 drwy ennill y gamp lawn. Ar y diwrnod hwnnw roedd cyngor y ddinas wedi codi sgrîn anferthol o flaen neuadd y ddinas ac fel y gwelwch o'r llun isod daeth torf anferthol yno i'w wylio.
Roeddwn i a Sarah wedi cyrraedd yno yhydig cyn i'r gêm ddechrau, ac roedd gennyf lond sach o ganiau Brains ('cwrw sywddogol tîm rygbi Cymru' dim llai) - ond allai Sarah ddim gweld dim. Cawsom alwad ffôn gan ffrind Sarah i ddweud bod hi ychydig lathennau i ffwrdd yn St Andrews Crescent yn gwylio'r gêm ar sgrîn fawr yn boardroom cwmni cyfriethwyr ble roedd ei phartner yn gweithio, a cawsom wahoddiad i ymuno â nhw. Roedd rhai o bartneriaid y cwmni yn digwydd bod yn Wyddelod cefnog afiach, felly braf oedd eu trechu!