<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Delweddau Rhydd (Flickr a Geograph)

23.4.08

Oes gyda chi gyfrif Flickr neu wasanaeth debyg? Os oes, pa drwydded ydych yn roi ar eich lluniau? Efallai nad ydych erioed wedi meddwl am y peth. Ar Flickr y gosodiad rhagosodedig yw 'All rights reserved', sy'n golygu na chaiff neb ddefnyddio eich delweddau heb eich caniatad.

Os nad oes ots gyda chi os yw pobl yn befnyddio eich lluniau/fideo/darn cerddoriaeth ayyb, gallwch roi trwydded Creative Commons iddynt, sydd yn rhoi hyn a hyn o hawliau i fobl ddefnyddio eich gwaith heb ganiatad, ond cyn belled a'u bod yn cydnabod mai chi wnaeth y gwaith gwreiddiol. Fe allwch osod rhai amodau, fel ddim gwaith masnachol, dim addasu ayyb drwy ddewis gwahanol drwyddedau.

Prif bwrpas y rhain yw peidio cyfyngu creadigrwydd yn y pen draw. Defnydd arall yw galluogi pobl fel fi i ychwanegu delweddau at erthyglau Wicipedia er mwyn iddynt ymddangos yn fwy deiniadol (fel erthygl Eglwys Sant Teilo, diolch i Traed Mawr).

Felly fel oeddwn i'n ddweud, os ydych yn tynnu lluniau a'u rhoi ar Flickr, beth am eu gwneud ar gael i eraill? Gallwch unai dewis trwydded yn ôl pob llun, neu newid trwydded eich holl luniau.

Dwi wedi bod yn meddwl gwneud cofnod blog am hyn ers amser, ond bu trafodaeth ar Wicipedia heddiw am wefan arall sy'n ffynhonell lluniau rhydd, sef Geograph. Mae hwn yn ardderchog, gan y gallwch chwilio am ddelwedd drwy fap (cofiwch zoomio fewn). Un problem wrth gyfrannu ato fydd bod â'r mynedd i ddarganfod cyferinod map OS i bob man - welai nunlle ar y wefan sy'n dweud ffordd hawdd o ddod o hyd i hyn. Siawns bod ateb i gael rhywle.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:29 pm

9 sylw:

Dw i'n postio stwff dan y trwydded Attribution 2.0 Generic; caiff unrhyw un ddefnyddio fy lluniau, heb ofyn, os nad ydyn nhw'n wneud arian ma's o'r defnydd, ac yn rhoi fy enw.

Nid bod unrhywun sy'n gweithio yn y cyfryngau Cymraeg yn mynd i foddran gyda phethau fel 'na.

Wel, bron neb.
sylw gan Blogger Nic, 9:57 pm  

Dw i'n postio stwff dan y trwydded Attribution 2.0 Generic; caiff unrhyw un ddefnyddio fy lluniau

Wedi gwneud yn barod :-)
(Ydw i wedi cael yr Eisteddfod cywir?)

Os ti ddim eisiau i wneud wneud arian ohonynt, efallai dylet ddefnyddio trwydded 'Noncommercial'. Dwi ddim yn meddwl bod trwydded Attribution 2.0 Generic yn cyfyngu hynny - ond dwi ddum yn 100% siwr.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:34 am  

Efallai. Dw i ddim yn poeni gormod am yr arian a fod yn onest - a byddai trwydded "non-comm" yn stopio pobl fel y cwmni wnaeth Porth y Byddar (a ddefynddiodd fy llun o'r graffiti yn Llanrhystud) rhag gael stwff.

Ti'n iawn am y Steddfod, dw i'n meddwl, 1976 yw e.
sylw gan Blogger Nic, 8:16 am  

Dwi'n gymeryd na chefaist ti gydnabyddiaeth - cheeks! Gobeithio gawson nhw e-bost cas ;-)

Efallai nai newid fy nhrwydded i i non-comm hefyd - ti byth yn gwybod pwy ddenfyddith dy luniau ac elwa oddi wrthynt.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:16 am  

Wps, na, rhaid mod i ddim wedi esbonio'n iawn. Gofynnon nhw am ganiatâd i ddefynddio'r llun, a rhoddais i fe yn llon, ond 'sai'r trwydded wedi dweud "non-commercial use only" efallai na fydden nhw wedi gofyn.

Mae'n boddran fi mwy pan bydd rhywun fel Golwg yn defynddio lluniau, heb ofyn caniatâd, heb roi cydnabyddiaeth ac yn sicr heb gynnig talu amdanyn nhw.
sylw gan Blogger Nic, 11:19 am  

Ah, dwi'n gweld - ac yn cytuno
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:45 am  

Os wyt ti'n mynd i Multimap
http://ukw.multimap.com/
Ac yn gosod cyfeiriad neu god postyn y blwch ymchwil, bydd rhif grid y cyfeiriad yn ymddangos ar waelod y dalen o dan y map.
sylw gan Blogger Alwyn ap Huw, 7:12 pm  

Dwi'n rhoi CC ar rai o fy lluniau.

Ond mae werth meddwl am y peth cyn gwneud:

http://www.theregister.co.uk/2007/09/24/creative_commons_deception/

(ON mae'r Register yn anti-CC iawn, am rhyw reswm)
sylw gan Blogger Mei, 6:05 pm  

Dim ond pobl sy'n dewis trwydded CC sy'n rhoi i fyny i'w hawlfraint; mae braidd yn sili i ddweud bod croeso i bobl ddefynddio dy luniau heb dy dalu, ac wedyn cwyno eu bod nhw wedi wneud.

Er mod i wedi wneud hynny, uchod.
sylw gan Blogger Nic, 7:48 pm  

Gadawa sylw