<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Sgwennodd y Cymry erioed unrhywbeth?

15.9.06

Dyna fydd cwestiwn estroniaid (aliens nid Saeson!) pan wnawn nhw lanio ar ein planed mewn rhai blynyddoedd wedi i ni gyd ddiflannu oherwydd rhyfel, llwgu, heintiau, boddi, crasu.......

Os bydd yna unrhywbeth o Gaedydd ar ôl, efallai gwelan nhw'r llyfrgell newydd gyda lluniau o'n hoff lyfrau arno.
Sgewnnod y Cymry erioed unrhywbeth?

Pan es i heibio hwn am y tro cyntaf, cymerais mai hysbyseb ar gyfer Waterstones oedd o gyda delweddau anferth o Bestsellers poblogaidd iaith Saeseng. Yna sylweddolias mai dyma oedd llyfrgell newydd canolog Caerdydd. Dwi ddim yn siwr os mai adeilad parhaol yw hwn neu beidio, ac felly gall y 'murlun' hwn fod dros dro hefyd, ond (fel arfer) beth darodd fi oedd absenoldeb llyfrau Cymraeg/Cymreig.

Ydw, mi ydw i'n dipyn o snob pan mae'n dod i ddiwylliant poblogaidd ac mae'n siwr mai llyfrau Dan Brown a chyfres Harry Potter yw'r rhai a fenthycwyd amlaf gan lyfrgelloedd y brifddinas. Ond oni fyddai wedi bod yn addas i gynnwys rhai o glasuron Cymru yn y ddwy iaith, fel rhai gan Islwyn Ffowc Elis neu Alexander Cordell, neu nofelau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd fel Dyddiadur Dyn Dwad neu Cardiff Dead?

Cyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am draddodiad llenyddol cynhenid a'i hysbysebu, wedi cael ei golli'n llwyr. Dyfalu ydw i, ond mae'n debyg gan rhyw gwmni marchnata anwybodus sy'n gyfrifol am y syniad. Ysgwn i beth yw barn Academi am hyn? Bydda'in uffern o beth hefyd os oedd talu am y frint o ddefnyddio delweddau o'r llyfrau hyn.

Post ar flog gan rhywun sy'n gweithio yn y llyfrgell canolog.

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:13 am

2 sylw:

'Dwi'n cydweld yn hollol a beth wyt ti'n ddeud. Os gwn i pwy ddewisodd y llyfrau? Rhywun mae'n amlwg sydd ddim yn siarad Cymraeg nac yn gwybod am ein 'hawduron enwog. Hwyrach eu bod am ei newid unawaith y mis a thro'r llyfrau Cymraeg fydd y mis nesa'? 'Dwi ddim yn meddwl.
sylw gan Blogger Digitalgran, 8:01 pm  

Er fy mod i'n meddwl bod y murlun o silff llyfrau fawr yn un clyfar iawn, mae'n drist i weld y teitlau a ddewisodd y llyfrgell. Dw i'n credu bod y mwyafrif ohonyn nhw'n lyfrau gan awduron Americanaidd! I ddweud y gwir, mae'n edrych fel rhestr gwerthwyr gorau y New York Times. Byddai'n well gen i weld awduron Cymreig yn y Gymraeg a'r Saesneg neu ddetholiad o lenyddiaeth (nid ffuglen boblogaidd) o'r byd, yn gynnwys awduron o Gymru. Ydy'r lyfrgell wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan unrhyw gorfforaeth fawr y cyfryngau i hysbysebu eu llyfrau nhw? Gobeithio bod y murlun yn un dros dro; bydd y teitlau 'na wedi eu hangofio mewn blwyddyn!

Gadawa sylw