Llwy Caru mwya'r byd, Caerdydd
16.12.07
Er bod erthygl ar wefan yBBC yn dweud y byddai wedi ei gwbwlhau y penwythnos yma, pan gerddais heibio ddoe, roedd tipyn o waith i fynd ar ymgais record y byd i greu'r llwy caru mwyaf erioed.

Dylai edrych yn dda wedi iddo orffen. Tra'n chwilio am lun gwell nag un fi uchod, darganfyddais bod mainc siap llwy garu ym Mharc Bute yn barod.
1 sylw:
Welais i e ddoe Rhys. Pob lwc iddyn nhw. Unrhyw syniad ble fydd y llwy'n cael ei gadw ar ol iddi gael ei orffen.
sylw gan
David Roberts, 11:51 am
