Unrhywun am Griced?
28.7.06
Nid fi, gas gyda fi'r gêm, ond mae'r Rhys Wynne arall wedi ennill tocynnau ar gyfer gemau bydd Morgannwg yn chwarae ym Mae Colwyn. Mae wedi ennill tocynnau ar gyfer 5 diwrnod ond gall o ddim cymeryd yr amser o'i waith, felly mae'n eu cynnig am ddim!
Dyfodol technoleg iaith Gymraeg
Mae erthygl diweddar gan Ping Wales o'r enw The future of Welsh language technology ble mae cyfweliad gyda Dewi Bryn Jones o Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr.
technoleg, technology, canolfan bedwyr, ping wales, cymraeg, welsh
Generated By Technorati Tag Generator
technoleg, technology, canolfan bedwyr, ping wales, cymraeg, welsh
Generated By Technorati Tag Generator
Pigogflog a blogiau eraill
27.7.06
Newydd ddarganfod blog Cymraeg o'r enw Pigogflog. Mae'n gwneud yn union beth mae'n ddweud ar ochr y tin. Mae'n flog newydd, ond mae'r ddau bost cyntaf yn rhai craff yn rhoi beirniadaeth ar Strategaeth Sector Preifat newydd y Bwrdd ac yn talu sylw ar bolisi iaith nwydd awdurdod Hedldu Gogledd Cymru. Da.
Mae ambell flog Cymraeg arall wedi ymddangos ar fy radar yn ddiweddar ond dwi heb drafferthu blogio amdanynt, dyma nhw ar fy rhestr bla.s.us. Un sy'n sefyll allan (o ran y sefyllfa efallai yn hytrach na'r ansawdd) yw Scribbles gan Gymraes yn yr Antartig.
GOL:
Sut allaf fod wedi anghofio Blog Richard Brunstrom (Prif Gwnstabl Gogeldd Cymru). Mae'n blogio'n Gymraeg yn ogystal a Saesneg, ond does dim ffrwd i'w weld, sy'n tipyn o boen.
blog, blogio, rhithfro, cymraeg, welsh

Drysfa drosodd
26.7.06

Llwyddais i ddod o hyd i'r ffordd allan o'r maze (dwi ddim yn hoffi 'drysfa') yn y diwedd, ond byddwn wedi bod yno tipyn hirach oni bai i fam Sarah brynnu cerdyn post gyda llun o'r awyr o'r maze cyn i ni fynd mewn. Fel y gwelwch, Star Trek yw thema'r York Maize Maze eleni. Dyma ychydig o luniau.
Bues i hefyd i fyny yn ar y Yorkshire Wheel (mwy o luniau)
york maize maze, york maze, york, yorkshire, efrog, star trek
Generated By Technorati Tag Generator
Hysbys

O'r diwedd mae'r wefan jobscymraeg.com yn fyw ac yn barod i bobl hysbysebu swyddi arno. Fel un sy'n gweithio gyda'r sector breifat, dwi di bod yn teimlo ychydig o fraud gan nad ydw i wedi rhedeg busnes fy hun (onibai am fusnes golchi ceir gyda'm cymydog Euros pan oeddwn tua 11eg oed a bues yn torri glaswellt yn ystod gwyliau'r haf pan oeddwn yn y brifysgol). Menter rhan amser fydd hwn (am y tro o leiaf), a'r gobaith yw y caf flas ar redeg cwmni a phrofiad marchnata ar gyfer y dyfodol, gan mod i'n dymuno bod yn hunangyflogedig.
Penderfynnias ar syniad jobscymraeg.com wedi gweld cymaint oedd hi'n gostio i hysbysebu swydd mwen papur newydd (£1,500+ yr hysbyseb yn y Western Mail) ac hefyd y trafferth oedd rhai sefydlidau yn ei gael i ddenu siaradwyr Cymraeg. Tydi syniad y wefan ddim yn un newydd, ond yn y gorffennol doedd y gwefannau ddim yn cael eu hyrwyddo'n dda, os o gwbwl, felly doedd fawr o bwynt i neb hysbysebu arnynt gan fod neb yn ymweld 'r wefan.
Mae sefydlu'r wefan yn mynd i fod yn anodd, rhaid cael swyddi gwag arni i ddenu ymwelwyr, ond hefyd rhaid gwneud yn siwr bod digon o ymwelwyr iddo fod werth o i gyflogwr osod swyddi. Am y misoedd cyntaf nid wyf am godi tal ar gyflogwyr i hysbysebu arno fel annogaeth i fwy gofrestru, a wedyn dim ond £25 yr hysbyseb byddaf yn ei godi.
Dwi am ddefnyddio'r Eisteddfod i hyrwyddo'r wefan go iawn gan bydd cymaint o fy target audience yno, ond dwi hefyd wedi cysylltu âg awdurdodau lleol a'r holl Fentrau Iaith yn barod er mwyn ceisio cael swyddi arno. Pan ddois adref o Efrog neithiwr, dyma fi'n mynd i'm cyfrif e-bost ac roedd yn deimlad gwych gweld bod dau Fenter wedi gosod swyddi arno.
Rhaid i mi rwan wneud yn siwr bod digon o ymwelwyr i'r wefan. Os ydych yn meddwl gall y wefan fod o ddiddordeb io unrhywun rydych yn eu hadnabod, byddai'n wych petai chi'n gallu pasio'r manylion ymlaen. Gwerthfawrogi'r unrhyw gyhoeddusrwydd
Unrhywun wedi clywed am Schmap?
24.7.06
Dwi wedi derbyn e-bost gan Schmap.com.
Dwi yn nghartref rheini Sarah ar hyn o bryd, felly allai'm treulio llawer o amser ar y wê. Does dim ots gyda fi i neb ddefnyddio fy lluniau Flickr cyn belled mod i'n cael cydnabyddiaeth, a tydw i ddim yn ffotograffiwr o fri fel y gallwn ddisgwyl tâl am lun. Mae gyda fi hyd nes ddydd Gwener i ddweud ie neu na. Allith rhywun feddwl am reswm pam na ddylwn adael iddynt ddefnyddio fy lluniau?
Y ddau lun mewn cwestiwn yw:
Arriaga antzokixa
Plaza Nueva
Hi Rhys,
I am writing to let you know that two of your photos have been short-listed for inclusion in our Schmap Bilbao Guide,to be published mid-August 2006.
Clicking this link will take you to a page where you can:
i) See which of your photos have been short-listed.
ii) Submit or withdraw your photos from our final selection phase.
iii) Learn how we credit photos in our Schmap Guides.
iv) Download one of our recently released Schmap Guides.
While we offer no payment for publication, many photographers are pleased to submit their photos, as Schmap guides are FREE to download and give their work recognition and wide exposure. Photos are published at a maximum width of 150 pixels, are clearly attributed, and link to high-resolution originals at Flickr.
Our submission deadline is Friday, July 28. If you happen to be reading this message after this date, please still click on the link above (our Schmap destination guides are updated frequently - photos submitted after this deadline will be considered for later releases).
Best regards,
Ali Moss,
Managing Editor, Schmap Guides
Dwi yn nghartref rheini Sarah ar hyn o bryd, felly allai'm treulio llawer o amser ar y wê. Does dim ots gyda fi i neb ddefnyddio fy lluniau Flickr cyn belled mod i'n cael cydnabyddiaeth, a tydw i ddim yn ffotograffiwr o fri fel y gallwn ddisgwyl tâl am lun. Mae gyda fi hyd nes ddydd Gwener i ddweud ie neu na. Allith rhywun feddwl am reswm pam na ddylwn adael iddynt ddefnyddio fy lluniau?
Y ddau lun mewn cwestiwn yw:
Arriaga antzokixa
Plaza Nueva
Cardiffpedia (wiki)
20.7.06
Wici yw Cardiffpedia (tebyg i wicipedia) and wedi ei selio ar ddina Caerdydd yn unig. Does dim llawer arno ar hyn o bryd, ond mae croeso i unrhywun ychwanegu ato. Rwyf wedi ychwanegu dau eitem sef Amgueddfa Sain Ffagan a Menter Caerdydd. Mae ychydig hawsach i'w gyfrannu ato na Wicipedia o ran rhyngwyneb (er tydw i heb drio'n rhy galed gyda hwnnw i fod yn onest, er y dylwn gan ei fod yn syniad gwych).
Dwi'n meddwl fod y sefydlwr yn agored i'r syniad o dudalennau Cymraeg, ond rhaid meddwl sut bydd hynny'n gweithio'n gyntaf. Yn y cyfamser dwi'n ceisio gwneud yn siwr bod gwybodaeth am y Gymraeg yn ymddangos arno. Dwi am gynnig adran am Blogiau Caerdydd.

Datgelu Datblygu

Gradd mewn Rheoli a Chynllunio Amgylcheddol a oedd yn warthus
Ar y Corsa, bathodyn Cadwch Gymru'n Daclus
Ar y Corsa, bathodyn Cadwch Gymru'n Daclus
Rhys Wynne 2006
Os nad oeddech yn ymwybodol yn barod, mae Nic wedi creu gwefan o'r enw Beibl Datblygu, sef gwefan deyrnged i'r grŵp Cymraeg arloesol Datblygu.Mae yna gasgliad eang o wahanol bethau'n gysyllltiedig â'r band, fel rhestrau cyflawn o bopeth a ryddhawyd, clipiau fideo, erthyglau cynnar yn y wasg lleol a chendlaethol a hyd yn oed cardiau post gan y diweddar John Peel a anfonwyd at D. R. Edwards (y prifleisydd).
Mwy am Datblygu ar y wê:
Proffil y band ar wefan BBC Wales (Saesneg / in Englishh)
Traciau MP3 oddi ar Llygredd Moesol
Cyfweliad â DRE gan Gymro di-Gymraeg (Saesneg/ in English)
Gelli'r prynnu stwff datblygu o / You can buy Datblygu stuff from the following:
Ankst, Sebon, Siopau Cymraeg/Welsh (Book) Shops, Spillers Records
Yr unig wefan teyrnged arall i fand Cymraeg dwi'n ymwybodol ohono yw un Y Cyrff gan Y Cyrff Girlie. Oes rhywun yn gwybod am ragor?
datblygu, cerddoriaeth, cymraeg, welsh, music
Generated By Technorati Tag Generator
Ar goll yn yr Hen Ogledd
18.7.06

Bydda i a Sarah'n mynd i Efrog dros y penwythnos i barti ymddeol ei mam (ssh, peidiwch dweud wrthi gan mai parti syrpreis ydi o!). Mae Sarah eisiau ymweld â'r York Maze. Os na fydd neb wedi clywed gennyf erbyn dydd Iau wythnos nesaf, plis galwch yr heddlu neu'r gwasanaeth tân i ddod i'm achub. Wrth edrych ar y dudalen digwyddiadau, dwi ddim eisiau dal bod ar goll yno ar y 29ain o'r mis:
Saturday 29th july: The Naked MazeNightGobeithio gai gyfle i fynd am bryd o fwyd yn Cafe Concerto (neu paned a chacen o leiaf)
Get naked and get lost! Gates open at 6.30pm.
Usual admission charges apply.
In association with British Naturism.
maze, efrog, york, yorkshire
Generated By Technorati Tag Generator
Y Chris Cope Effect
Neithiwr es i a Sarah i'r Mochyn Du i gwrdd â Chris, ei wraig Rachel, Geraint, Mair ac hefyd Sara nad oeddwn wedi cwrdd â o'r blaen. Yn fuan iawn wedi i ni eistedd lawr daeth dynes at y bwrdd a gofyn "are you Chris Cope?". Rwan tydi peth fel hyn ddim yn gwneud dim lles i ego Mr Cope, dwi'n cael cael yr argraff ei ffod wrth ei fodd gyda sylw fel hyn. Yn gyntaf meddyliais mai dysgwr oedd hi sydd wedi bod yn darllen ei flog, ond gohebydd i'r BBC oedd hi.
Ymddiherodd am dorri ar ein traws ond roedd Chris yn fwy na pharod i gael ei gyfweld. Esboniodd Chris sut oedd wedi dechrau dysgu Cymraeg gyda gwefan Learn Welsh y BBC, ond hefyd sut bu darganfod blogiau Cymraeg yn help iddo gan ei fod yn gallu dangos ei Gymraeg i eraill (yn ysgrifennedig ac ar lafar drwy bodledu) a chael adborth gan siaradwyr Cymraeg.
Dwi dim yn siwr faint oedd y gohebydd yn ddeall am flogio, ond gwnes yn siwr ei bod yn cael enwau fi a Geraint a chyfeiriadau ein blogiau i gynnwys yn yr erthygl (doedd Mair a Sara heb gyrraedd ar y pryd). Dyma'r erthygl ar y wê, ble mae Geraint a fi'n cael ein crybwyll, ond does dim dolenni at ein blogiau yn anffodus.
Wrth gwrs dwi'n hen law ar ymddangos ar y BBC ;-)
Gol.
Cyfieithiad Cymraeg o'r erthygl ar BBC Cymry'r Byd
blog, blogio, cymraeg, welsh, bbc, rhithfro

Dwdws - cyfeiriadur busnesau Cymreig ar-lein
17.7.06
Mae stori a'r Ping Wales am wefan newydd o'r enw Dwdws, sy'n gyfeiriadur ar-lein o fusnesau Cymreig.
Dyma'r blurb:
Tydi hyn ddim yn syniad newydd, mae walesindex.co.uk a cwlwmbusnes.com yn bodoli'n barod (er dyw cwlwmbusnes.com ddim yn cael ei ddiweddaru na'i hyrwyddo o gwbwl yn anffodus). Ond mae hwn yn unigryw gan ei fod yn wefan dwyeithog. Dwi'n hoffi'r ffordd bod y wefan yn rhoi'r cyfle i gwmniau gofrestru'n Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog - gan y gall arwain at fusnesau sy'n defnyddio Saesneg yn unig i ddechrau defnydido ychydig o Gymraeg. Mae perchnogion y wefan yn cyfeirio busnesau at wefan Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith ar gyfer cyfieithiadau byr am ddim, sydd hefyd yn syniad da. Rhywbeth arall dwi'n hoffi yw'r ffaith ei fod am ddim - a dwi newydd ofyn i'm gwefan newydd i sef jobscymraeg.com gael ei restru arno (plug plug!).
Mae un neu ddau awgrymiad gennyf:
pingwales, dwdws, cyfeiriadur, busnes, cymraeg, cymreig, welsh, business, directory
Generated By Technorati Tag Generator
Dyma'r blurb:
A new bilingual business search engine, Dwdws, has been launched by a group of web developers based in Pwllheli, North Wales. The website offers free online listing for businesses in Wales.
The site's founders say the idea arose three years ago when its developers realised that it was becoming increasingly difficult to find anything about Wales-based businesses using mainstream search engines.
Dylan Thomas, Dwdws developer, told Ping Wales: “We began thinking about a bilingual business search engine, that would list business from within Wales, and that businesses would be able to submit their details for free, either in English, Welsh, or both.
“We also felt that it was becoming more and more difficult to find any particular business that was based within Wales via other search engines and directories."
Tydi hyn ddim yn syniad newydd, mae walesindex.co.uk a cwlwmbusnes.com yn bodoli'n barod (er dyw cwlwmbusnes.com ddim yn cael ei ddiweddaru na'i hyrwyddo o gwbwl yn anffodus). Ond mae hwn yn unigryw gan ei fod yn wefan dwyeithog. Dwi'n hoffi'r ffordd bod y wefan yn rhoi'r cyfle i gwmniau gofrestru'n Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog - gan y gall arwain at fusnesau sy'n defnyddio Saesneg yn unig i ddechrau defnydido ychydig o Gymraeg. Mae perchnogion y wefan yn cyfeirio busnesau at wefan Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith ar gyfer cyfieithiadau byr am ddim, sydd hefyd yn syniad da. Rhywbeth arall dwi'n hoffi yw'r ffaith ei fod am ddim - a dwi newydd ofyn i'm gwefan newydd i sef jobscymraeg.com gael ei restru arno (plug plug!).
Mae un neu ddau awgrymiad gennyf:
- Bod y wefan yn synhwyro dewis-iaith porwr yr ymwelydd (dwi wedi dewis y gosodiad .cy ar Firefox, ond dyma fi'n cael fy nghyfeiriao i dudalen cartref Saeseng gwefan Dwdws.
- Y gallu i ymchwilio busnesau ble mae gwasaneth Cymraeg ar gael yn unig.
pingwales, dwdws, cyfeiriadur, busnes, cymraeg, cymreig, welsh, business, directory
Generated By Technorati Tag Generator
Y Copeiaid wedi cyrraedd Caerdydd
16.7.06
Blog am Bêl-droed Cymru
12.7.06
Diolch i Mei am flogio am Eric the Red's Welsh Football, sef blog am Bêl-droed Cymru. Os yw'r pyst cyntaf yn esiampl o'r safon gallwn ddisgwyl, yna mae am fod yn chwip o flog am bwnc na sydd llawer yn blogio amdano. Mae'n trafod pethau difrifol fel helynt gêm gyfeillgar rhwng Fflint Utd a FC United a phethau ysgafn fel prinder sticeri Panini yng Ngwynedd :-) .
pêl-droed, cymru, welsh, football, wales
Generated By Technorati Tag Generator
pêl-droed, cymru, welsh, football, wales
Generated By Technorati Tag Generator
'Tagio'r' Eisteddfod
6.7.06
Beth mae blogwyr o Eisteddfodtwyr yn feddwl o'r syniad o dagio'r eisteddfod eleni gyda'r tag 'eisteddfod2006'?
Y syniad yw bod:
Beth sydd gyda fi mewn golwg yw rhywbeth tebyg i'r rhain:
SpyBlogak (yn dilyn cynhadledd yn Bilbao)
SpyWhere2.0 (yn dilyn cynhadledd yn California)
Mi geisiais rhywbeth ar gyfer taith cefnogwyr Cymru i Wlad y Basg gan ddefnyddio Suprglu, ond methodd am ddau reswm: tydi SuprGlu ddim yn dda iawn, a dwi ddim yn meddwl bod neb arall ar y daith yn deall/trafferthu tagio (heblaw am un neu ddau gyda Flickr efallai).
Mae modd lawrlwytho'r meddalwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer SpyBlogak a SpyWhere2.0 o'r dudalen yma, o dan y pennawd 'Tag watch'
eisteddfod2006, eisteddfod, tagio, tag, blogio. rhithfro, tagzania, flickr, del.icio.us
Generated By Technorati Tag Generator
Y syniad yw bod:
- pyst blogiau
- eitemau Tagzania
- a nodau del.icio.us
- lluniau Flickr
Beth sydd gyda fi mewn golwg yw rhywbeth tebyg i'r rhain:
SpyBlogak (yn dilyn cynhadledd yn Bilbao)
SpyWhere2.0 (yn dilyn cynhadledd yn California)
Mi geisiais rhywbeth ar gyfer taith cefnogwyr Cymru i Wlad y Basg gan ddefnyddio Suprglu, ond methodd am ddau reswm: tydi SuprGlu ddim yn dda iawn, a dwi ddim yn meddwl bod neb arall ar y daith yn deall/trafferthu tagio (heblaw am un neu ddau gyda Flickr efallai).
Mae modd lawrlwytho'r meddalwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer SpyBlogak a SpyWhere2.0 o'r dudalen yma, o dan y pennawd 'Tag watch'
eisteddfod2006, eisteddfod, tagio, tag, blogio. rhithfro, tagzania, flickr, del.icio.us
Generated By Technorati Tag Generator
Not in Cheshire
5.7.06

Maint gwreiddiol
Ymddangosodd yr erthygl uchod yn yr Evening Leader ar y 29/6/06 (fersiwn sir y Fflint).
Mae'n sôn am ymgyrch gan Balchder Cymru, sef mudiad cenedlaethogar o'r gogledd ddwyrain sydd wedi dechrau ymgyrch i gael cwmniau yn yr adral sy'n hysbysebu eu hunain fel cwmniau wedi eu lleoli yng Nghaer, i ddatgan mai yn sir y Fflint a Chymru mae nhw.
Dwi wedi sylwi ar yr arferiad hyn wrth yrru ar hyd yr A55, un engrhaifft yw'r Holiday Inn, Chester West, sydd tua 9 milltir o'r ffîn â Lloegr a thua 12 milltir o Gaer.
Dyma blog Balchder Cymru, beth am danysgrifio i'r blog?
balchder, balchder cymru, balchdercymru, siryfflint, caer, chester, cheshire, flintshire, wales, welsh, pride, not in cheshire
Generated By Technorati Tag Generator
Williams Brothers Gold
3.7.06

Wedi bod i'r deintydd bore dydd Gwener dyma fi'n picio drws nesaf i'r Discount Supermarket. Dwi wedi bod yno o'r blaen ac dwi fel plentyn mewn siop da da. Dwi'n meddwl mai dyma'r siop gyda'r dewis mwyaf eang o gwrw yn Nghaerdydd (wyt ti'n darllen Chris?). Yn ogystal a chwrw Cymreig gan Tomos Watkin a Bragdy Rhymni, dyma fi'n penderfynnu ar Williams Brothers Joker a Williams Brother Gold o'r Alban. I ddweud y gwir dewisiais y ddau oherwydd dyluniad y label a siap y botel, ond roedd y ddau yn neis iawn, yn arbennig y Gold. Dwi ddim yn cofio'n iawn beth oedd y cyfeiriad gwefan ar y botel, a'r cwbwl allai ddod o hyd iddo ar y wê yw hen wefan y bragdy sef Fraoch ('Grug' mewn Gaeleg yr Alban)
Yn ffodus iawn i mi mae gan Sarah apwyntiad yn y deintydd wythnos nesaf, felly bydd esgus da gyda fi i ymweld â'r siop eto.
Y Cneifio

Doeddwn ddim eisiau siomi fy narllenwyr ffyddlon, felly dyma lun o'r cneifo dydd Sadwrn. Rhagor o luniau.