Hysbys
26.7.06
O'r diwedd mae'r wefan jobscymraeg.com yn fyw ac yn barod i bobl hysbysebu swyddi arno. Fel un sy'n gweithio gyda'r sector breifat, dwi di bod yn teimlo ychydig o fraud gan nad ydw i wedi rhedeg busnes fy hun (onibai am fusnes golchi ceir gyda'm cymydog Euros pan oeddwn tua 11eg oed a bues yn torri glaswellt yn ystod gwyliau'r haf pan oeddwn yn y brifysgol). Menter rhan amser fydd hwn (am y tro o leiaf), a'r gobaith yw y caf flas ar redeg cwmni a phrofiad marchnata ar gyfer y dyfodol, gan mod i'n dymuno bod yn hunangyflogedig.
Penderfynnias ar syniad jobscymraeg.com wedi gweld cymaint oedd hi'n gostio i hysbysebu swydd mwen papur newydd (£1,500+ yr hysbyseb yn y Western Mail) ac hefyd y trafferth oedd rhai sefydlidau yn ei gael i ddenu siaradwyr Cymraeg. Tydi syniad y wefan ddim yn un newydd, ond yn y gorffennol doedd y gwefannau ddim yn cael eu hyrwyddo'n dda, os o gwbwl, felly doedd fawr o bwynt i neb hysbysebu arnynt gan fod neb yn ymweld 'r wefan.
Mae sefydlu'r wefan yn mynd i fod yn anodd, rhaid cael swyddi gwag arni i ddenu ymwelwyr, ond hefyd rhaid gwneud yn siwr bod digon o ymwelwyr iddo fod werth o i gyflogwr osod swyddi. Am y misoedd cyntaf nid wyf am godi tal ar gyflogwyr i hysbysebu arno fel annogaeth i fwy gofrestru, a wedyn dim ond £25 yr hysbyseb byddaf yn ei godi.
Dwi am ddefnyddio'r Eisteddfod i hyrwyddo'r wefan go iawn gan bydd cymaint o fy target audience yno, ond dwi hefyd wedi cysylltu âg awdurdodau lleol a'r holl Fentrau Iaith yn barod er mwyn ceisio cael swyddi arno. Pan ddois adref o Efrog neithiwr, dyma fi'n mynd i'm cyfrif e-bost ac roedd yn deimlad gwych gweld bod dau Fenter wedi gosod swyddi arno.
Rhaid i mi rwan wneud yn siwr bod digon o ymwelwyr i'r wefan. Os ydych yn meddwl gall y wefan fod o ddiddordeb io unrhywun rydych yn eu hadnabod, byddai'n wych petai chi'n gallu pasio'r manylion ymlaen. Gwerthfawrogi'r unrhyw gyhoeddusrwydd
3 sylw:
sylw gan Anonymous, 7:30 pm
Cytuno bod rhaid ei drin yn fwy fel busnes na hobi. Y gobaith yn y pen draw yw gwnued elw, ond dwi'n rhagweld bydd rhaid palu unrhyw incwm yn ôl tuag at dalu am hysbysebion am gyfnod i gynnal momentwm. Does dim pwynt dibynnu ar hysbys am ddim yma man draw achos ddenith hynna ddim digon o bobl. Dwi'n bwriadu hysbysebu trwy'r usual suspects fel Papruau Bro, ond hefyd y wasg Saesneg eu hiaith fel Big Issue ac efallai cylchgronnau cerddoriaeth/diwylliant poblogaidd.
Efallai byddai Mr Dafis yn fodlon rhannu'r dechnoleg fel gelli'r gosod hysbysebion ar DimCwsg?
Efallai byddai Mr Dafis yn fodlon rhannu'r dechnoleg fel gelli'r gosod hysbysebion ar DimCwsg?
Waw! Llongyfarchiadau ar wefan syml ac effeithiol (er, ma angen i ti gael rhywun i olygu'r Gymraeg mewn ambell i fan). Mae'n edrych yn dda, ac yn edrych yn hawdd i'w defnyddio. Gobeithio y gwnei di lwyddo i'w droi yn fusnes proffidiol. Mae angen mwy o entrepreneurs Cymraeg arnom ni, a dwi'n falch fod rhywun o'r criw y Rhithfro yn rhoi shot ar wneud bywoliaeth allan o be ma'n nhw'n gneud.
Fel ma Sion yn deud, ma na syniada allan yno, ma jest angen bod a'r gyts i benderfynu eu gwthio nhw i'r pen.
Pob lwc i ti Rhys!
Fel ma Sion yn deud, ma na syniada allan yno, ma jest angen bod a'r gyts i benderfynu eu gwthio nhw i'r pen.
Pob lwc i ti Rhys!
Sion, Aber