<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Chris Cope Effect

18.7.06

Neithiwr es i a Sarah i'r Mochyn Du i gwrdd â Chris, ei wraig Rachel, Geraint, Mair ac hefyd Sara nad oeddwn wedi cwrdd â o'r blaen. Yn fuan iawn wedi i ni eistedd lawr daeth dynes at y bwrdd a gofyn "are you Chris Cope?". Rwan tydi peth fel hyn ddim yn gwneud dim lles i ego Mr Cope, dwi'n cael cael yr argraff ei ffod wrth ei fodd gyda sylw fel hyn. Yn gyntaf meddyliais mai dysgwr oedd hi sydd wedi bod yn darllen ei flog, ond gohebydd i'r BBC oedd hi.

Ymddiherodd am dorri ar ein traws ond roedd Chris yn fwy na pharod i gael ei gyfweld. Esboniodd Chris sut oedd wedi dechrau dysgu Cymraeg gyda gwefan Learn Welsh y BBC, ond hefyd sut bu darganfod blogiau Cymraeg yn help iddo gan ei fod yn gallu dangos ei Gymraeg i eraill (yn ysgrifennedig ac ar lafar drwy bodledu) a chael adborth gan siaradwyr Cymraeg.

Dwi dim yn siwr faint oedd y gohebydd yn ddeall am flogio, ond gwnes yn siwr ei bod yn cael enwau fi a Geraint a chyfeiriadau ein blogiau i gynnwys yn yr erthygl (doedd Mair a Sara heb gyrraedd ar y pryd). Dyma'r erthygl ar y wê, ble mae Geraint a fi'n cael ein crybwyll, ond does dim dolenni at ein blogiau yn anffodus.

Wrth gwrs dwi'n hen law ar ymddangos ar y BBC ;-)

Gol.
Cyfieithiad Cymraeg o'r erthygl ar BBC Cymry'r Byd

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:25 am

3 sylw:

Biti na allwn i fod yno hefyd i groesawu Chris i Gaerdydd. Blog-gwrdd y sdeddfod amdani!

Alli di anfon ei gyfeiriad i fi mewn ebost? nwdls [malwen] wwfmdpc [punto] com

Ta, byt.
sylw gan Blogger Nwdls, 8:54 am  

haha! wy nol ar y we! braf dy gyfarfod, a chris a rachel hefyd wrth gwrs. fydde ddim pwynt crybwyll y blogsyn wrth neb ar hynobryd, gyda llaw - mae'n ganol ail 'wampiad' o ryw fath :(
sylw gan Blogger dros, 11:30 am  

Wedi danfon e-bost Rhodri.


Gobeithio fydd dy flog wedi ei ail-wampio mewn digon o bryd i ti gael postio lluniau o dy hun yn y wisg ,wench - dychmyga'r hits fydde ti'n dderbyn oddiwrth pobl yn chwilota ar Google!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:40 am  

Gadawa sylw