<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Datgelu Datblygu

20.7.06

Sticer car

Gradd mewn Rheoli a Chynllunio Amgylcheddol a oedd yn warthus
Ar y Corsa, bathodyn Cadwch Gymru'n Daclus
Rhys Wynne 2006

Os nad oeddech yn ymwybodol yn barod, mae Nic wedi creu gwefan o'r enw Beibl Datblygu, sef gwefan deyrnged i'r grŵp Cymraeg arloesol Datblygu.
Mae yna gasgliad eang o wahanol bethau'n gysyllltiedig â'r band, fel rhestrau cyflawn o bopeth a ryddhawyd, clipiau fideo, erthyglau cynnar yn y wasg lleol a chendlaethol a hyd yn oed cardiau post gan y diweddar John Peel a anfonwyd at D. R. Edwards (y prifleisydd).

Mwy am Datblygu ar y wê:
Proffil y band ar wefan BBC Wales (Saesneg / in Englishh)
Traciau MP3 oddi ar Llygredd Moesol
Cyfweliad â DRE gan Gymro di-Gymraeg (Saesneg/ in English)

Gelli'r prynnu stwff datblygu o / You can buy Datblygu stuff from the following:
Ankst, Sebon, Siopau Cymraeg/Welsh (Book) Shops, Spillers Records

Yr unig wefan teyrnged arall i fand Cymraeg dwi'n ymwybodol ohono yw un Y Cyrff gan Y Cyrff Girlie. Oes rhywun yn gwybod am ragor?

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:02 pm

1 sylw:

Diolch am y plyg Rhys. Mae 'na lwyth o stwff ychwanegol i fynd ar y safle, ond dw i heb gael amser yn diweddar i wneud y pethau anghenrheidiol.
sylw gan Blogger Nic, 8:29 pm  

Gadawa sylw