<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



'Tagio'r' Eisteddfod

6.7.06

Beth mae blogwyr o Eisteddfodtwyr yn feddwl o'r syniad o dagio'r eisteddfod eleni gyda'r tag 'eisteddfod2006'?
Y syniad yw bod:
pawb i gyd yn ymddangos mewn un lle.

Beth sydd gyda fi mewn golwg yw rhywbeth tebyg i'r rhain:
SpyBlogak (yn dilyn cynhadledd yn Bilbao)
SpyWhere2.0 (yn dilyn cynhadledd yn California)

Mi geisiais rhywbeth ar gyfer taith cefnogwyr Cymru i Wlad y Basg gan ddefnyddio Suprglu, ond methodd am ddau reswm: tydi SuprGlu ddim yn dda iawn, a dwi ddim yn meddwl bod neb arall ar y daith yn deall/trafferthu tagio (heblaw am un neu ddau gyda Flickr efallai).

Mae modd lawrlwytho'r meddalwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer SpyBlogak a SpyWhere2.0 o'r dudalen yma, o dan y pennawd 'Tag watch'

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:09 pm

4 sylw:

Syniad difyr. Wyt ti'n golygu tagio tra bo'r steddfod yn mynd yn ei flaen 'lly?

Yn anffodus does dim tags ar fy mhostiadau blog i.

Wedi anfon ebost arall at bobol Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ynglyn a'r blog-gwrdd gyda llaw.
sylw gan Blogger Nwdls, 1:27 pm  

Cyn, yn ystod ac ar ôl.

Fel ti'n gweld o'r dolen Tagzania a blog a bla.s.us uchod, dwi wedi dechrau tagio'r digwyddiad yn barod - fel y post hwn er engrhaifft!

Mi allet ti osod tagiau ar bostiadau petai ti eisiau yn byddai?

Dychmygaf byddai gan y Gymdeithas Meddalwedd Gymraeg ddiddirdeb, ond os nad oes lle, mae Papbell y Dysgwyr gyda ardal caffi sydd fel arfer yn wag. Bechod bod Chris Cope yno ar y dydd Iau, byaddai di bod yn dda cyfuno ei 'araith' o â'r Blog-gwrdd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:57 pm  

Efallai dylwn geisio esbonio ychydig mwy am beth yn union fyddai pwynt y peth. Byddai'n gyfle i bobl weld beth mae eraill yn ysgrifenu am yr Eisteddfod ac efallai dewch ar draws rhwybeth newydd trwy hyn, fel digwyddiad fydd yn cymeryd lle na fyddwch wedi cylwyed amdano fel arall (gyda chymaint sy'n digwydd, mae'n hawdd colli sawl peth), bwyty neu dafarn da yn lleol e.e.

Yn ogystal a'r blogiad hwn, dwi hefyd wedi sôn am gigs a digwyddiadau dysgwyr ar flog Dysgwyr De Ddwyrain, ac mae Nic wedi cyfeirio at y post hwn ar Morfablog. Gan bod pob eu wedi ei tagio â eisteddfod2006 mae'nt i gyd yn ymddangos ar yr ymchwiliad Technorati am eisteddfod2006, ond mond pyst blogs yw hynna, tydi o ddim yn pigo fyny nodau mae pobl yn gosod ar del.icio.us am eisteddfod2006 (sylwch bod yna rwan bethau newydd yno, fel bysiau yn rhedeg o Gaerffil a Chaerdydd.

I osod tag ar eich blog, dwi'n MEDDWL y cwbwl sydd rhaid gwneud yw 'amlygu'r' (highlight) y canlynol:

eisteddfod2006

dde-gliciwch arno a dewis 'Edrych ar Ffynhonell y Dewis (neu View Source) a chopio'r côd i fewn i'r post ar eich blog.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:17 am  

Mi faswn i'n gneud a chroeso ond does gen i'm clem am be wyt ti'n son! Ella ddysgai wbeth yn y blog-gwrdd.
sylw gan Blogger Aled, 9:40 am  

Gadawa sylw