<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Williams Brothers Gold

3.7.06


Wedi bod i'r deintydd bore dydd Gwener dyma fi'n picio drws nesaf i'r Discount Supermarket. Dwi wedi bod yno o'r blaen ac dwi fel plentyn mewn siop da da. Dwi'n meddwl mai dyma'r siop gyda'r dewis mwyaf eang o gwrw yn Nghaerdydd (wyt ti'n darllen Chris?). Yn ogystal a chwrw Cymreig gan Tomos Watkin a Bragdy Rhymni, dyma fi'n penderfynnu ar Williams Brothers Joker a Williams Brother Gold o'r Alban. I ddweud y gwir dewisiais y ddau oherwydd dyluniad y label a siap y botel, ond roedd y ddau yn neis iawn, yn arbennig y Gold. Dwi ddim yn cofio'n iawn beth oedd y cyfeiriad gwefan ar y botel, a'r cwbwl allai ddod o hyd iddo ar y wê yw hen wefan y bragdy sef Fraoch ('Grug' mewn Gaeleg yr Alban)

Yn ffodus iawn i mi mae gan Sarah apwyntiad yn y deintydd wythnos nesaf, felly bydd esgus da gyda fi i ymweld â'r siop eto.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:51 am

2 sylw:

Ahhh, siop cwrw. Dywedodd Ben Franklin taw cwrw yw prawf fod Duw yn ein caru, ac mae o eisiau ini fod yn hapus. Mi ges i gyfle i flasu amrywfath o gwrw Cymreig yr haf hwn, a phleser mawr oedd. Hyd at hynny, mae gennyn ni lawer iawn o gwrw da yn Nhalaith Efrog Newydd os dewch chi draw rhyw dro.
sylw gan Blogger Robert Jones, 6:40 pm  

Cyn ymweld â'r UDA am y tro cyntaf dros ddwy flynedd yn ôl (ardal Pennsylvania) roeddwn yn meddwl nad oedd Americanwyr yn yfed dim ond 'Bud', ond roeddwn yn falch o weld (a blasu) bod nifer fawr o fragwyr bychain yn ffynnu acw.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:55 am  

Gadawa sylw