<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dwdws - cyfeiriadur busnesau Cymreig ar-lein

17.7.06

Mae stori a'r Ping Wales am wefan newydd o'r enw Dwdws, sy'n gyfeiriadur ar-lein o fusnesau Cymreig.
Dyma'r blurb:
A new bilingual business search engine, Dwdws, has been launched by a group of web developers based in Pwllheli, North Wales. The website offers free online listing for businesses in Wales.

The site's founders say the idea arose three years ago when its developers realised that it was becoming increasingly difficult to find anything about Wales-based businesses using mainstream search engines.

Dylan Thomas, Dwdws developer, told Ping Wales: “We began thinking about a bilingual business search engine, that would list business from within Wales, and that businesses would be able to submit their details for free, either in English, Welsh, or both.

“We also felt that it was becoming more and more difficult to find any particular business that was based within Wales via other search engines and directories."

Tydi hyn ddim yn syniad newydd, mae walesindex.co.uk a cwlwmbusnes.com yn bodoli'n barod (er dyw cwlwmbusnes.com ddim yn cael ei ddiweddaru na'i hyrwyddo o gwbwl yn anffodus). Ond mae hwn yn unigryw gan ei fod yn wefan dwyeithog. Dwi'n hoffi'r ffordd bod y wefan yn rhoi'r cyfle i gwmniau gofrestru'n Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog - gan y gall arwain at fusnesau sy'n defnyddio Saesneg yn unig i ddechrau defnydido ychydig o Gymraeg. Mae perchnogion y wefan yn cyfeirio busnesau at wefan Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith ar gyfer cyfieithiadau byr am ddim, sydd hefyd yn syniad da. Rhywbeth arall dwi'n hoffi yw'r ffaith ei fod am ddim - a dwi newydd ofyn i'm gwefan newydd i sef jobscymraeg.com gael ei restru arno (plug plug!).

Mae un neu ddau awgrymiad gennyf:
  • Bod y wefan yn synhwyro dewis-iaith porwr yr ymwelydd (dwi wedi dewis y gosodiad .cy ar Firefox, ond dyma fi'n cael fy nghyfeiriao i dudalen cartref Saeseng gwefan Dwdws.
  • Y gallu i ymchwilio busnesau ble mae gwasaneth Cymraeg ar gael yn unig.


, , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:59 am

5 sylw:

Mae yn dweud bydd manylion yn ymddangos arno 'o fewn 7 diwrnod' a siwans nad yw'n rhy brysur, ond paid a'i ddi-ysytyru'n syth - rho gyfle. Rhoddais i fy manylion i'r wefan ar ddydd Llun, cawn weld faint gymerith.

Mae'r syniad yn un da - roeddwn wedi meddwl am ddechrau gwefan tebyg dim ond i fusnesau sy'n cynnig gwasaneth Cymraeg. Mae un ar gyfer Caerdydd, ond mae angen rhywbeth Cenedlaethol.

Un peth sy'n bwysig am unrhyw wefan o'r fath ydi bod rhaid ei hyrwyddo wedyn, i'r gymuned fusnes ac i'r cyhoedd neu fel arall does dim pwynt iddo gan fydd pawb weid angofio am y peth - dyma yw gwenidid gwefannau o'r fath sy'n cael eu creu gan sefydliadau cyhoeddus yn fy marn i.

Heblaw am yr erthygl yn pingWales fyddwn i ddim wedi gwybod amdano. Sut glywest ti am y wefan a pa fath o fusnes yw un ti Potiwr?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:04 pm  

safle da hefyd, efo lot i gobaith iddo.

dwi di sbio ar y safle, a mae jobscymraeg yn ddangos yn saesneg..., y peth ydi, sud wyt ti am trefnu y "gwefan dim ond i fusnesau sy'n cynnig gwasaneth Cymraeg"?
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:03 pm  

Hmm, rhyfedd - dwi wedi cysylltu a dwdws.com rwan i weld pam bod hyn yn digwydd.

O ran sefydlu gwefan dim ond i fusnesau all gynnig gwasanaeth Cymraeg (Huw W sydd yna?) bydde'n rhaid gofyn hyn i bob cwmni fel byddet yn eu ychwanegu i'r wefan.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:16 am  

na, dim Huw W su ma. dwi cytuno efo ti - ma safle newydd yma yn gallu cefnogi busnesau Cymraeg, - dwi meddwl ma potiwr yn braidd rhy gyflum i deud fod y safle yn dda i dim.

be dwi feddwl ydi, fydd rhaid i safle fel hyn peidio trio cynning gormod o "web searches", ond chwiliotwr naeth adal i ni chwilio am gwybodaeth su'n neud efo busness o tu fewn i Gymru, a unrhyw gwybodaeth arall. Ella mewn ychydig, fydd o yn haws i darganfod busnesau yng Nghymru wrth defnyddio Dwdws yn lle Yahoo neu Google!
sylw gan Anonymous Anonymous, 8:08 am  

GLYERST with AUSTRIA & NAZESS...and RICK BERLIN is there.
So is THIERRY DASSAULT in all his NEW VIOLENCE with STING- TRUDIE- MIDLER.
It's all about the MOB.
And it's all about ACE.
And the MOTHER JONES with EARL is keen to get his FF- EF- EFFICOG .
YAN?
He has roots with COLA.
sylw gan Anonymous Anonymous, 5:33 pm  

Gadawa sylw