<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Unrhywun wedi clywed am Schmap?

24.7.06

Dwi wedi derbyn e-bost gan Schmap.com.
Hi Rhys,

I am writing to let you know that two of your photos have been short-listed for inclusion in our Schmap Bilbao Guide,to be published mid-August 2006.

Clicking this link will take you to a page where you can:
i) See which of your photos have been short-listed.
ii) Submit or withdraw your photos from our final selection phase.
iii) Learn how we credit photos in our Schmap Guides.
iv) Download one of our recently released Schmap Guides.

While we offer no payment for publication, many photographers are pleased to submit their photos, as Schmap guides are FREE to download and give their work recognition and wide exposure. Photos are published at a maximum width of 150 pixels, are clearly attributed, and link to high-resolution originals at Flickr.

Our submission deadline is Friday, July 28. If you happen to be reading this message after this date, please still click on the link above (our Schmap destination guides are updated frequently - photos submitted after this deadline will be considered for later releases).

Best regards,

Ali Moss,
Managing Editor, Schmap Guides

Dwi yn nghartref rheini Sarah ar hyn o bryd, felly allai'm treulio llawer o amser ar y wê. Does dim ots gyda fi i neb ddefnyddio fy lluniau Flickr cyn belled mod i'n cael cydnabyddiaeth, a tydw i ddim yn ffotograffiwr o fri fel y gallwn ddisgwyl tâl am lun. Mae gyda fi hyd nes ddydd Gwener i ddweud ie neu na. Allith rhywun feddwl am reswm pam na ddylwn adael iddynt ddefnyddio fy lluniau?

Y ddau lun mewn cwestiwn yw:
Arriaga antzokixa
Plaza Nueva
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:02 pm

2 sylw:

Fedrai'm gweld pam ddim, cyn belled a dy fod yn cael cydnamyddiaeth (ac ellla copi o'r geid?)

O ran diddordeb, ai jest digwydd canfod dy luniau ar Flickr wnaeth y bobl yma, ynteu wnest ti dynnu eu sylw atynt?
sylw gan Blogger Aled, 7:37 am  

Nhw gysylltodd â fi drwy Flickr. Mae'r pobl yma'n mynd trwy Flickr yn chwilio am luniau o lefydd penodol. Dwi'n meddwl eu bod yn defnyddio 'tags' ;-).

e.e. tagiais fy lluniau gyda Bilbao, a dyma luniau pawb sydd wedi eu tagio gyda Bilbao. Mae'n ffordd wych o ddarganfod llefydd, dyma fi'n dod o hyd i ambell le i ymweld ym Milbao tryw luniau Flickr eraill.

Mae cryn drafodaeth am Schmap ar negesfwrdd Flickr, rhai'n feirniadol iawn ohonynt, yn dweud bod y wefan yn un masnachol gan ei fod yn mynd i fod yn 'ad suported' (cael ei ariannu gan hysbysebion) ac felly na ddylent ddefnyddio lluniau Flickr am ddim. Mae llawer yn dewis rhoi hawlfraint 'Creative Commons' ar eu lluniau sy'n rhoi'r hawl i eraill eu defnyddio o dan rhai amodau (dwi'n meddwl - rhaid ei ymchwilio ymhellach).

Eraill yn dweud ei fod yn dibrisio gwaith ffotograffwyr proffesiynol ac yn fygythiad i'w bywoliaeth!

Tra mae eraill yn dweud ei fod yn gwbwl di-niwed a'u bod yn hoffi'r syniad o eraill eisiau eu lluniau - dyma rhan o hwyl y wâ. Dwi'n tueddu i ochri gyda hyn er allai ddeall safbwynt y lleill.

O ran y busnes tagio yma, ti'n eu defnyddio'n barod y gwalch!
Er mai ti yw'r unig un sydd di bod yn gosod lluniau o ddifri yn y Grŵp Tafarndai ar Flickr, mae modd gweld pob tag gan pob cyfrannwr yma. Pan fydd llwyth o luniau ymlaen bydd yn hawdd wedyn darganfod lluniau tafarndai mewn tref penodol, neu sir penodol (os di pobl yn rhoi enw sir lawr fel 'tag' hefyd)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:07 am  

Gadawa sylw