<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Penblwydd Oyster

30.10.06

Mae fy hoff siop yng Nghaerdydd, sef Oyster yn dathlu ei phenblwydd yn 1 oed. Dewch draw am wydriaid o wîn (organig wrth gwrs) a gostyngiad o 10% ar eu dillad. Dyma e-bost gan y siop:
Hi all,
We are excited to announce that Oyster has passed its first year of trading. The enthusiasm and support of you, our customers, has been fantastic, and for that we would like to thank you.
On Sunday 5th November we are starting Sunday trading for the run up to Christmas. We will be trading from 12.00 to 4.00. Please come and join us for a glass of organic wine and a browse through our winter stock. As a thank you for your support through the year, we will be offering 10% off all purchases on that day only.

We look forward to seeing you.

Jenny
and Ceri
Os chi'n digwydd bod yng nghanol y ddinas dydd Sul, galwch draw i'r siop yn Arcêd y Castell.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:59 am | dolen | 1 sylw |

Wynne2.0

27.10.06

Mae erthygl o'r enw Welsh Web2.0 gan Robert Andrews wedi ymddangos ar Ping Wales. Mae'r teitl braidd yn gamarweiniol gan ei fod am wefannau Web2.0 sydd wedi eu lleoleiddio i'r Gymraeg yn hytrach na gwefannau Web2.0 sydd wedi eu creu yng Nghymru/gan Gymry.

(All rhywun feddwl am wefan Web2.0 o Gymru heblaw am curiad.org yn Gymraeg neu'n Saesneg?)

Yn rhyfedd ddigon, diwrnod wedi i mi gyfrannu gwybodaethbtuag yr erthgl, dyma fi'n darllen am gyfieithiad LibraryThing gan Dogfael.

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:01 pm | dolen | 2 sylw |

Taffs* yn drysu defnyddwyr LJ

26.10.06

CWESTIWN: Sut i ddenu ymwelwyr i'ch gwefan?
ATEB: Rhowch y gair 'Torchwood' yn nheitl neu gynnwys y post

Edrychais ar fy ystadegau ddoe ac roedd 70 ymwelydd i'm blog ar gyfer y dydd (wedi codi i 96 erbyn bore yma). Y rheswm oedd bod fansite Torchwood ar LiveJournal wedi darganfod fy mhost blaenorol am Wyl Ffermwyr Ifanc. Ond doedd gan y postiwr druan ddim syniad am beth oeddwn yn siarad (profiad cyffredin i fi).
Roedd darllen y post a'r sylwadau'n ddoniol, rhai'n gallu dyfalu rhan o'r cynnwys, un arall yn defnyddio gwefan TranslationExperts.com (tydi'r ddolen ddim yn gweithio bellach gan fod cymaint wedi clicio arno) oedd ddim lot o help iddynt - cyfieithwyd teitl fy mlog i 'Smile We Are Being Fingers'.

*oes rhywun ond fi'n casau arferiad y Saeson o gyfeirio at Gymry fel Taffs/Taffys?
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:18 am | dolen | 2 sylw |

Cyfle i weld anifeiliad fferm yn cachu ar stepen drws Torchwood

25.10.06

Y WLAD YN Y DREF’ - DathliadauCFFI Cymru
Bydd ‘Y Wlad yn dod i’r Dref’ yn ystod penwythnos cyntaf mis Tachwedd fel rhan o ddathliadau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn 70 oed.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal gŵyl tri diwrnod ‘Y Wlad yn y Dref’; bydd yn ŵyl fwyd ac yn ddathliad o gefn gwlad Cymru. Bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yn yr ardal tu allan i brif fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac fe fydd yn rhedeg o ddydd Gwener y 3ydd hyd ddydd Sul y 5ed o Dachwedd.
Bydda i'n bendant yn mynd i hwn, dwi'n rhagweld lot o stondinau bwyd. Dwi'n meddwl bydd fy nghefnder Iwan yn dod lawr gan ei fod yn rhan o grŵp cydweithredol Calon Wen ac yn weithgar iawn gyda'r mudiad Ffermwyr Ifanc. Edrychaf ymlaen hefyd i weld yr adloniant (ahem!).
Bydd hefyd perfformiadau byw gan y Sioe ‘Sheeptacular’ a ‘Meirion Owen a’r Quackpack’ yn ystod y digwyddiad. Mae’r sioe defaid yn gyfle unigryw i weld defaid ‘byw’ ar lwyfan a dewch i dystio beiddgarwch digri'r ‘Indian Runner Ducks’ yn ystod arddangosfeydd Meirion Owen gyda’i ‘Quackpack’.



Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:57 am | dolen | 1 sylw |

Amgueddfa Sain Ffagan (a Lego wrth gwrs)

24.10.06

Dwi'n parhau ar y thema Lego. Mae Dafydd wedi gadael sylw i bost blaenorol yn fy nghyfeirio at wefan James, un o'i gyd-weithwyr sy'n dipyn o ffan o'r hen frics plastig. O'r holl wefannau Lego dwi di weld, hwn sy'n edrych orau (ond byddwn wedi disgwyl dim llai gan rhywun sy'n gweithio i gwmni adeiladu gwefannau!)

Fel cyn-weithiwr yn Sain Ffagan, a dreuliodd ambell awren gaeafaidd o gwmpas tân nwy y Tanerdy'n darllen nofelau Iain Banks a chael smoc slei (wel doedd dim lot arall i'w wneud ar y pryd), rhaid dweud mai uchafbwynt y wefan yw ail-gread James o'r Tanerdy.

Mae hefyd wedi wedi adeiladu Marchnad Fenyn wedi ei selio ar un o'r Gelli Gandryll.

Gallai'm disgwyl nes dweud wrth fy nghariad am fy hobi newydd!

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:55 pm | dolen | 1 sylw |

Rêf Lego

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:08 am | dolen | 0 sylw |

Ail-ddarganfod Lego

23.10.06

Oeddech chi'n ffan? Dwi heb gael cyfle i chwarae gyda Lego ers deng mlynedd mae'n siwr, pan fyddwn yn ymweld â'm cefnder iau. Mae Guto ar ganol cwrs mil-feddyg yn y brifysgol rwan felly does dim esgus gyda fi i chwarae Lego. Ond oes angen esgus arnai?
Lego
Ar silff ben tân tŷ ffrindiau buom yn ymweld â'n ddiweddar roedd y car a'r carafn uchod. Doedd o ddim ar y silff pen tân yn hir! Roedd Russ wedi dod o hyd i sawl set yn atig tŷ ei nain, (ble mae o a'i wraig Sarah'n byw rwan) ac aeth a phob un ond yr un yma i'w ysgol ble mae'n dysgu.

Thema castell oedd orau gyda fi, ond roedd rhywun wedi prynnu'r set car a charagfan i fi, felly tynnais y llun uchod gyda'r gobaith o'i ail-adeiladu tro nesaf af i weld fy rhieni. Wedi llwytho'r llun ar Flickr, dyma fi'n chwilio am Grwpiau Lego ar Flickr. Fel y gwelwch mae digonedd:
Fel soniais yng nghynt y thema Castell oedd orau gyda fi, ac un 'dolig cefais i Black Falcon's Fortress (Rhif 6074) gan Siôn Corn. Os hoffech chi weld lluniau o hen setiau gan gynnwys cyfarwyddiadau adeiladu ewch i The Brickfactory. Mae yna hyd yn oed dudalen Wikipedia ar gestyll Lego, gyda ymysg pethau eraill, dolen at fansite Classic Castle sydd eto gyda lluniau o gestyll anhygoel a hefyd adran o'r enw The Classic Castle City Standard, sef cyfarwyddiadau ar sut i gyfrannu at adeiladu dinas canoloesol ar raddfa fawr - gwych.

Hmmm...hapusrwydd!

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:28 pm | dolen | 3 sylw |

Ymgyrchwyr yn India'n defnyddio Google Earth

Yn India, mae ymgyrchwyr wedi bod yn defnyddio delweddau lloeren Google Earth fel tystiolaeth i brofi bod eu tiroedd yn ffrwythlon wrth ymladd yn erbyn datblygiadau, neu sirhau iawndal teilwng o leiaf.

Mewn un achos wrth gynllunio datblygu Parth Economiadd newydd o'r dir amaethyddol, honodd ardan o lywodraeth India fod mai mond canran fechan iawn o'r tir oedd yn ffrwythlon. Golygai hyn byddai ffermwyr yn derbyn llai o iawndal. Mae lluniau lloeren yn gwrthbrofi honiadau'r llywodraeth.

Mae'r map hwn yn dangos lleoliad rhai o'r achosion.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:00 am | dolen | 0 sylw |

Blog 'Wales - World Nation'

21.10.06

Derbynnais e-bost gan Jeff Rees, yn gofyn sut fyddai (yn hytrach na 'os fyddai modd') cael dolen ar fy mlog Saeseng at ei flog o. Aeth o'i chwmpas y ffordd iawn gan gyfeirio ataf fel ..as you are a leading figure in blogging in Wales ..

Wedi i mi stopio chwerthin, dyma fi'n ymwed â Wales - World Nation ac mae'n un da. Arno mae sawl stori yn cyfeirio ar bethau sy'n digwydd yng Nghymru'n wleidyddol, ond hefyd mae'n rhoi dolenni at storiau am faterion gwleidyddol a ieithyddol o wledydd eraill a all fod yn berthnasol i'n sefyllfa ni yma yng Nghymru.

Engrhiafft da yw'r post am sefydlu sefydliad Elebide yng Ngwlad y Basg. Pwrpas Elebide yw gwarchod hawliau ieithyddol trigolion Gwlad y Basg, yn enwedig wrth ddelio gyda sefydliadau cyhoeddus. Model da ar gyfer Cymru?

Yn ôl at flog Jeff. Mae'n rhan o Rwydwaith blogiau y Western Mail. Oes rhywun yn darllen y rhain? Mae'r papur yn dilyn esiampl papurau newydd eraill, ond dwi o'r farn nad yw darllenwyr y Western Mail mor debygol o fod yn ddarllenwyr blogiau, o'u cymharu â darllenwyr y Guardian er engrhaifft. nid bod hynny'n reaswm i beidio cael blogiau, ond a yw'r blogwyr hyn yn blogio a dim cynulleidfa iddynt?
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:22 pm | dolen | 0 sylw |

Gig Acwstig Mattoidz, Caerffili 27.10.06

20.10.06

Fi sydd di trefnu hwn. Dyma'n ail gig Cymraeg ni yng Nghaerffili, mi ddaeth na ond rhyw 20-25 i'r un diwethaf, sydd ddim yn gynulleidfa anferth ond am gig cyntaf yn y sir roedd yn Ok ac hefyd roedd mewn ystafell fechan felly roedd yr awyrgylch yn dda iawn. Rhwbeth arall a'm pplesioedd oedd oed y gynulleidfa - fel arfer pobl hyn sy'n dod i ddigwyddiadau'r Fenter ond roedd mywafrif y pobl yno dan 30.

Byddai'n wych petai rhai ohonoch yn gallu dod.

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:37 pm | dolen | 0 sylw |

Cyflwyniad i flogio (gyda Blogger)

Cymerodd hi dipyn nes i mi benderfynnu cadw blog. Gwbod beth i flogio am oedd y broblem, nid poeni am y dechnoleg oeddwn i. Os ydych chi wedi meddwl am flogio ond yn meddwl byddai deall y meddalwedd yn drech na chi, wel mae'n syml dros ben, cwbwl sydd rhaid gwneud yw gallu teipio.

Yn ffodus i chi mae rhywun wedi gosod cyflwyniad ar SlidShare o dan y teitl Introduction to Blogger, sy'n esbonio mewn ffordd syml pa mor hawdd yw dechrau blog gyda meddalwed Blogger (sef beth dwi'n ddefnyddio)

Am ryw reswm rhaid i chi gofrestru gyda SlidShare cyn gallu gweld y cyflwyniadau, oni bai eu bod wedi eu mewnosod ar flog neu gwefan arall, felly dyma fo i chi.

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:04 pm | dolen | 0 sylw |

Welsh not British

19.10.06

Welsh not British

Tynnais y llun uchod cyn gêm Cymru v Slofacia yng Nghaerdydd. Yn y cefndir fe welwch banner WelshNotBritish.com sef un o wefannau Cymuned. Mae'r mudiad yn defnyddio achlysuron fel gemau rhyngwladol i hyrwyddo eu hymgyrchoedd. Dyma gyfrif Flickr Cymuned sydd â llawer o luniau trawiadol arno!

Yn rhyfedd ddigon, dyma Eric yn postio stori er ei flog o dan y pennawd Welsh not British yr wythnos hon, yn adrodd ei hanes a'i deimladau o'r modd mae'r BBC yn trin 'ni i gyd' (hynny yw pawb ym Mhrydain) fel Saeson, ac yn esbonio sut mae hyn yn arwain at deimlad o gasineb gan Gymry (ac Albanwyr, a Gwyddelod a.....) tuag at dimau cenedlaethol Lloegr. Efallai byddai'n syniad i'r 'Gymraes' hon ei ddarllen.

(llongyfarchiadau Eric am dy enwi'n Flog y Mis ar gyfer mis Tachwedd gan gylchgrawn When Saturday Comes)

, , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:40 am | dolen | 0 sylw |

Beth yw 'ergativity' yn Gymraeg?

18.10.06

Er mwyn helpu Americanes sy'n ceisio dysgu Basgeg, mae Luistxo yn ceisio esbonio elfen gweddol gymleth (ond eto synhwyrol) o ramadeg Basgeg sef ergativity, drwy ddefnyddio esiamplau o sgets Monty Python.
It happens that, in Basque, to die and to kill are the same verb. Although there are synonims that do not coincide with both meaning, the most common form hil means both things. That's easy to explain if you speak an ergative language, because murder, at the end, is just transitive death. Or ergative death...
a) Loroa hil da - Parrot-the DIE has. The parrot's dead. More accurately, the parrot has died.
It's easy to transform the decease into a crime:
b) Loroa nik hil dut - Parrot-the I-erg.mark DIE I-have-it. I've killed the parrot.

c) Loroa John Cleesek hil du. Parrot-the John Cleese-erg.mark Die he-has-it. John Cleese has killed the parrot.
Mae Luistxo yn ei esbonio'n dda dwi'n meddwl gyda ei esiamplau, ac os chi am rhywbeth dyfnach, dyma'r erthygl Wikipedia.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:29 am | dolen | 2 sylw |

Blogio ar y curriculum?

17.10.06

Fel rhan o'i chwrs Cyfryngau a Newyddiaduraeth, mae Gwenllian Glyn wedi dechrau blog. Rhaid i fyfyrwyr cwrs Cyfle wneud yr un peth a dwi wedi bod yn darllen blogiau Cyfle Mei, Aled a Llefenni, ond roedd Mei ac Aled eisoes yn blogio os dwi'n iawn ac mae Llefenni wedi parhau i flogio wedi'r cwrs.

Mae Gwenllian yn ysgrifennu'n dda iawn (sy'n help o ystyried y cwrs!), ond dwi'n cael yr argraff nad yw hi'n or-gyfarwydd gyda blogio. Fel dwi weithiau'n gwneud pan dwi'n dod ar draws blog newydd, dwi wedi bod yn awgrymu pethau gall hi wneud i ddenu darllenwyr, fel gadael sylwadau ar flogiau eraill a rhoi dolenni oddi ar ei blog hi. Hefyd dyma fi'n ei chyfeirio at Blogiadur, BlogCymru a Welshblogs, eto er mwyn denu darllenwyr. Dwi wedi hefyd ceisio sôn am Technorati a Bloglines, ond dwi'n ymwybodol y byddai mwy na thebyg yn ymddangos fel mod i'n siarad iaith estron.

Yn y blwch sylwadau ar hen bost (allai'm cofio pa un) pan oeddwn yn bod yn or-feirniadol o flog newydd rhyw wleidydd dyma Rhodri Nwdls yn gofyn os dylai yna fod rhyw fath o gyrsiau byr ar gael i ddechrau pobl ffwrdd gyda blogio. Dwi'n meddwl bod angen/galw am y fath beth, ond pwy fyddai'n eu darparu? Mi wnaethon ni drafod rhai o'r pwyntiau uchod yn ein blog gwrdd cyntaf ond ddim mewn lot o fanylder - testun ar gyfer y nesaf efallai?.

Dwi ddim yn trio dweud bod ffordd cywir neu anghywir wrth flogio, ond mae na rai pethau sylfaenol dylid eu dilyn. Hwyrach mae trwy flogio am gyfnod y dewch i wybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac mae pawb yn wahanol wrth gwrs

Anghofiais ei chyfeirio at y seiat Rhithfro ar maes-e sy'n cynnwys sawl edefyn defnyddiol ar gyfer pobl sy'n newydd i flogio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn ceisio meddwl yn ôl i'm gwersi TG yn yr ysgol. Roeddem yn defnyddio IBM's i deipio a hen BBC's i wneud ..yrm..rhywbeth. Roedd y gwersi unai yn dda i ddim neu'n uffernol o ddiflas achos allai'm cofio dim amdanynt. Hoffwn feddwl bod y gwersi'n fwy diddorol heddiw a mwy perthnasol, a rwan gallaf wybod yn union beth sy'n cael ei astudio, diolch i flog Gwersi Cyfrifiaduro Glantaf. Y bwriad yw gadael i reini wybod beth sydd wedi cael ei astudio yn y dosbarth a dweud pryd mae'r gwaith cartref fod mewn erbyn (hefyd mae'r athro'n digwydd crybwyll bod un disgybl yn absenol o'r wers er iddo'i weld yn gynharach ar y cae chwarae - slei).
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:39 pm | dolen | 3 sylw |

'Un diwrnod mewn hanes'

16.10.06

Neu ?Un diwrnod mewn hanes? fel mae'n dweud yma (pam bod pob collnod yn ymddangos fel marc cwestiwn, mae'n edrych mor hyll?)

Y synaid yw bod pawb (ym Mhrydain) yn ysgrifennu hanes diwrnod yn eu bywyd ar ffurf dyddiadur fel rhan o ymgyrch History Matters. Clywais am y peth ar y newyddion wythnos diwethaf a meddwl "Pah! dwi dim am gymeryd rhan", ond gan for Rhys wedi mynd i'r fath drafferth ag atgyfodi ei flog er mwyn pwyntio allan gelli'r postio'n Gymraeg, efallai y gwnaf gydymffurfio am unwaith.

Rhywun arall am wneud?


Diweddariad

Dwi newydd bostio fy mhost, sydd i'w weld isod. Un peth, mae rhywbeth o'i le gyda'r blwch 'tagio' oddi tano, felly os chi am ddefnyddio tagiau/allweddeiriau i gyd-fynd a'ch post, yna dim ond rhyw bedwar gair bydd yn dderbyn a does dim modd ail-deipio.
Deffrais heddiw'n hwyr eto, anghofiais gan anghofio bod y cawod ddim yn gweithio a bod rhaid cael bath. Wedi ymolchi es lawr y grisiau i gael coffi a thost i frecwast cyn mynd i'r car ar gyfer fy nhaith dyddiol o Gaerdydd i'm gwaith yn nhref Bargod. Dwi'n genfigennus iawn o Sarah'n gallu beisio i'w gwaith - yn un peth mae'n cadw'n heini ac hefyd tydi ddim yn dda i'r amgylchedd gyrru mor bell. Dwi'n poeni am yr amgylchedd.
Yn y gwaith mae e-bost yn fy nisgwyl gan Iestyn sydd newydd ymuno â phwyllgor Menter Iaith Sir Caerffili (fy nhyflogwr). Mae newydd symud i Faesycwmer ac mae perchenog y dafarn lleol 'Butchers' yn awyddus i ddefnyddio Cymraeg yn ei fusnes, ac aeth ei blant y Ysgol Cwm Rhymni. Efallai byth yn leoliad i ni gynnal digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yn yr ardal. Soniodd Iestyn hefyd bod rhai o hen ffrindiau ysgol a gwrddodd mewn aduniad diweddar eisiau ail-gydio yn eu Cymraeg - efallai dyma le da i ddechrau. Dwi'n sylwi 'trend' ymysg cyn-ddisgyblion ysgolin cyfun y de ddwyrain sydd eisiau ail-ddechrau siarad Cymraeg eto, sy'n arwydd da.
Ar ôl gwaith heno, efallai af i wylio Caerdydd yn erbyn Southampton ym Mharc Ninian. Mae Caerdydd ar frig y Pencampwriaeth am y ro cyntaf ers degawdau. Fel sawl gogleddwr sydd dwi'n gefnogwr Wrecsam, ond mae Sarah yn hoffi Caerdydd ac mae nhw wedi bod yn chwarae pêl-droed atyniadol yn ddiweddar. Wedi sylwi o'm ystadegau bod yr AS Llafur Leighton Andrews wedi rhoi dolen at fy mlog 'Gwenu dan Fysiau' o'i flog ef ddoe wrth iddo grybwyll Blogio a Blogio'n Gymraeg.
Cachu, newydd ei ail-ddarllen a sylwi ar yr holl wallau sillafu.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:34 pm | dolen | 1 sylw |

Arestio 4 wedi protest Deddf Iaith


Cafodd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith eu harestio dydd Sadwrn yn Aberystwyth, wedi protest ar barc manwerthu newydd yn y dref ble mae sawl siop newydd wedi agor gyda dim Cymraeg o gwbwl.
Manylion ar wefan y Gymdeithas
Mwy o luniau ar Flickr yma a llwyth o rai da yma
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:56 am | dolen | 2 sylw |

SlideShare

6.10.06

Ydych chi'n gorfod rhoi cyflwyniadau sleid weithiau? Yn ffodus i mi, dwi ddim yn gorfod gwneud yn aml, ond os hoffech rannu eich cyflwyniad gyda chynulleidfa eang mae SlideShare yn cynnig gwasanaeth sy'n cyfuno PowerPoint (neu Open Office Impress) gyda You Tube. Mae modd plannu (embed) eich cyflwyniad ar eich blog neu wefan, fel dwi wedi gwneud isod gyda chyflwyniad roddais mewn Brecwast Busnes rhai blynyddoedd yn ôl.

Yn ôl eu blog, tydi'r wefan ond wedi bodoli ers echdoe ac mae'n rhaid unai cael gwahaoddiad gan ddefnyddiwr arall neu ofyn i SlideShare am wahaoddiad. Dyna wnes i a cefais wahoddiad yn syth ganddynt.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:20 am | dolen | 1 sylw |

Zooomr a Radio Amgen

5.10.06

Mae Radio Amgen yn dathlu ei benblwydd yn 5 oed. Dyma engrhaifft wych o ddefnydd effeithiol o dechnoleg i gael diwylliant amgen Cymraeg at gynulleidfa byd eang. Islaw mae llun 'clawr' i gyd-fynd âg darllediad wythnosol. Roeddwn i'n ffan anferth o Lego tra'n blentyn felly dwi'n hoff iawn o'r llun yma.
legorave
Mae'r llun wedi ei gynnal ar wefan Zooomr. Dwi wedi creu cyfrif arno ar ôl darllen post ar Sbwriel*spot. Dwi eisioes yn defnyddio Flickr ac yn meddwl ei fod yn wasaneth gych, ond hoffwn weld beth all Zooomr gynnig am ddau reswm:
1. Yahoo, sy'n berchen ar Flickr, a dwi'n teimlo'n rhagrithiol yn talu £12 y flwyddyn iddyn nhw wedi iddynt roi manylion personol i awdurdodau Tseina, tra dwi'n annog eraill i foicotio Nestle

2. Mae Zooomr yn awyddus iawn i leoleiddio eu gwefan, felly gall fod ar gael yn Gymraeg. Dwi'n fodlon cyfieithu'r wefan (gyda help eraill efallai?)
Fel abwyd arbennig, mae Zooomr yn cynnig cyfrif Pro am ddim i flogwyr am flwyddyn.

, , , , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:27 am | dolen | 0 sylw |