<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Arestio 4 wedi protest Deddf Iaith

16.10.06


Cafodd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith eu harestio dydd Sadwrn yn Aberystwyth, wedi protest ar barc manwerthu newydd yn y dref ble mae sawl siop newydd wedi agor gyda dim Cymraeg o gwbwl.
Manylion ar wefan y Gymdeithas
Mwy o luniau ar Flickr yma a llwyth o rai da yma
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:56 am

2 sylw:

Diolch yn fawr am dy gefnogaeth.

Ti'n meddwl fydde modd i ti osod un o'r baneri yma - http://deddfiaith.org/?t=3 - yn barhaol ar dy flog?

Mae'r nifer o bobl sy'n arwyddo ddeiseb Deddf Iaith arlein wedi arafu yn sylweddol iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac un ffordd da o gael mwy o ymwelwyr i'r wefan ydy trwy osod baner ar flogiau a gwefannau eraill.

Hwyl,

Hedd Gwynfor.
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:01 am  

Ceisiaf eu gosod erbyn diwedd y dydd.

Sylwais bod y wefan yn ddwyioeithog sy'n hollol bwysig ac mae nifer o Gymru di-Gymraeg yn gefnogol i'r syniad o warchod/sicirhau hawliau siaradwyr CYmraeg i ddefnyddio eu hiaith. Oes modd cael banneri Saesneg hefyd? Gwyddwn am rhyw 5-6 blogiwr Saesneg fyddai'n siwr o'u cynnwys.
Nid bod nhw'n debygol o wrthwynebu rhoi baneri Cymraeg ar eu blog, ond does dim lot o bwynt os nad yw eu darllenwyr yn deall Cymraeg.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:09 am  

Gadawa sylw