<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



SlideShare

6.10.06

Ydych chi'n gorfod rhoi cyflwyniadau sleid weithiau? Yn ffodus i mi, dwi ddim yn gorfod gwneud yn aml, ond os hoffech rannu eich cyflwyniad gyda chynulleidfa eang mae SlideShare yn cynnig gwasanaeth sy'n cyfuno PowerPoint (neu Open Office Impress) gyda You Tube. Mae modd plannu (embed) eich cyflwyniad ar eich blog neu wefan, fel dwi wedi gwneud isod gyda chyflwyniad roddais mewn Brecwast Busnes rhai blynyddoedd yn ôl.

Yn ôl eu blog, tydi'r wefan ond wedi bodoli ers echdoe ac mae'n rhaid unai cael gwahaoddiad gan ddefnyddiwr arall neu ofyn i SlideShare am wahaoddiad. Dyna wnes i a cefais wahoddiad yn syth ganddynt.

, ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:20 am

1 sylw:

Oherwydd dyna'r peth roedd y byd yn colli -- PowerPoint presentations ar flogiau. A dw i'n cellwair ond dw i'n gwybod y ffeindia fy hun yn ei ddefnyddio'n fuan.
sylw gan Blogger Chris Cope, 5:17 pm  

Gadawa sylw