<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cyfle i weld anifeiliad fferm yn cachu ar stepen drws Torchwood

25.10.06

Y WLAD YN Y DREF’ - DathliadauCFFI Cymru
Bydd ‘Y Wlad yn dod i’r Dref’ yn ystod penwythnos cyntaf mis Tachwedd fel rhan o ddathliadau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn 70 oed.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal gŵyl tri diwrnod ‘Y Wlad yn y Dref’; bydd yn ŵyl fwyd ac yn ddathliad o gefn gwlad Cymru. Bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yn yr ardal tu allan i brif fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac fe fydd yn rhedeg o ddydd Gwener y 3ydd hyd ddydd Sul y 5ed o Dachwedd.
Bydda i'n bendant yn mynd i hwn, dwi'n rhagweld lot o stondinau bwyd. Dwi'n meddwl bydd fy nghefnder Iwan yn dod lawr gan ei fod yn rhan o grŵp cydweithredol Calon Wen ac yn weithgar iawn gyda'r mudiad Ffermwyr Ifanc. Edrychaf ymlaen hefyd i weld yr adloniant (ahem!).
Bydd hefyd perfformiadau byw gan y Sioe ‘Sheeptacular’ a ‘Meirion Owen a’r Quackpack’ yn ystod y digwyddiad. Mae’r sioe defaid yn gyfle unigryw i weld defaid ‘byw’ ar lwyfan a dewch i dystio beiddgarwch digri'r ‘Indian Runner Ducks’ yn ystod arddangosfeydd Meirion Owen gyda’i ‘Quackpack’.



Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:57 am

1 sylw:

Faswn i'n mynd jyst i weld Meirion Owen a'i quackpack. Ges i'r profiad o wneud adroddiad newyddion o gynhadledd y ffermwyr ifanc ychydig flynyddoedd yn ol. Roedd hi'n fore sul a dwi ddim yn meddwl i fi byth weld cymaint o lygaid coch, poteli dwr a crysau check o dan un to erioed!
sylw gan Anonymous Anonymous, 4:47 pm  

Gadawa sylw