Ail-ddarganfod Lego
23.10.06
Oeddech chi'n ffan? Dwi heb gael cyfle i chwarae gyda Lego ers deng mlynedd mae'n siwr, pan fyddwn yn ymweld â'm cefnder iau. Mae Guto ar ganol cwrs mil-feddyg yn y brifysgol rwan felly does dim esgus gyda fi i chwarae Lego. Ond oes angen esgus arnai?
Ar silff ben tân tŷ ffrindiau buom yn ymweld â'n ddiweddar roedd y car a'r carafn uchod. Doedd o ddim ar y silff pen tân yn hir! Roedd Russ wedi dod o hyd i sawl set yn atig tŷ ei nain, (ble mae o a'i wraig Sarah'n byw rwan) ac aeth a phob un ond yr un yma i'w ysgol ble mae'n dysgu.
Thema castell oedd orau gyda fi, ond roedd rhywun wedi prynnu'r set car a charagfan i fi, felly tynnais y llun uchod gyda'r gobaith o'i ail-adeiladu tro nesaf af i weld fy rhieni. Wedi llwytho'r llun ar Flickr, dyma fi'n chwilio am Grwpiau Lego ar Flickr. Fel y gwelwch mae digonedd:
Thema castell oedd orau gyda fi, ond roedd rhywun wedi prynnu'r set car a charagfan i fi, felly tynnais y llun uchod gyda'r gobaith o'i ail-adeiladu tro nesaf af i weld fy rhieni. Wedi llwytho'r llun ar Flickr, dyma fi'n chwilio am Grwpiau Lego ar Flickr. Fel y gwelwch mae digonedd:
- Mae'r un Adventures of Lego Men yn enwedig rhai gan wizzy (isod) yn ddoniol.
- Byddwch yn falch o glywed does dim llawer wedi cyfrannu at LEGO-pieces in body caveties!
- Diw'n licio'r pyramid (Inca?) hwn o gonfensiwn yn yr UDA.
Fel soniais yng nghynt y thema Castell oedd orau gyda fi, ac un 'dolig cefais i Black Falcon's Fortress (Rhif 6074) gan Siôn Corn. Os hoffech chi weld lluniau o hen setiau gan gynnwys cyfarwyddiadau adeiladu ewch i The Brickfactory. Mae yna hyd yn oed dudalen Wikipedia ar gestyll Lego, gyda ymysg pethau eraill, dolen at fansite Classic Castle sydd eto gyda lluniau o gestyll anhygoel a hefyd adran o'r enw The Classic Castle City Standard, sef cyfarwyddiadau ar sut i gyfrannu at adeiladu dinas canoloesol ar raddfa fawr - gwych.
Hmmm...hapusrwydd!
lego, castell, castle
Generated By Technorati Tag Generator
3 sylw:
Lego gofod i fi bob tro, a Lego Technic wrth gwrs. Creu rhyw contrapshyns bizarre oedd yn hollol iwsles. Briliant. Dreuliais i oriau maith yn chwarae efo Lego.
sylw gan Nwdls, 8:17 am
Mae gen i ddau gyd-weithiwr sy'n dal i 'chwarae' gyda Lego. Dyma wefan un ohonyn nhw.
Waw, dyna'r wefan Lego orau i mi weld eto - wel byddwn yn disgwyl dim llai gan ddylunydd gwefannau ond mae ei fodelau'n wych hefyd.
Dwi'n rhagweld 3ydd post o'r fron am Lego'n ymddangos yma.
Dwi'n rhagweld 3ydd post o'r fron am Lego'n ymddangos yma.