Amgueddfa Sain Ffagan (a Lego wrth gwrs)
24.10.06
Dwi'n parhau ar y thema Lego. Mae Dafydd wedi gadael sylw i bost blaenorol yn fy nghyfeirio at wefan James, un o'i gyd-weithwyr sy'n dipyn o ffan o'r hen frics plastig. O'r holl wefannau Lego dwi di weld, hwn sy'n edrych orau (ond byddwn wedi disgwyl dim llai gan rhywun sy'n gweithio i gwmni adeiladu gwefannau!)
Fel cyn-weithiwr yn Sain Ffagan, a dreuliodd ambell awren gaeafaidd o gwmpas tân nwy y Tanerdy'n darllen nofelau Iain Banks a chael smoc slei (wel doedd dim lot arall i'w wneud ar y pryd), rhaid dweud mai uchafbwynt y wefan yw ail-gread James o'r Tanerdy.

Mae hefyd wedi wedi adeiladu Marchnad Fenyn wedi ei selio ar un o'r Gelli Gandryll.
Gallai'm disgwyl nes dweud wrth fy nghariad am fy hobi newydd!
lego, sain ffagan, st fagan's
Generated By Technorati Tag Generator
1 sylw:
hehe! dwi'n siwr dy fod ti'n gwbod yn iawn pa mor ddiflas 'di diwrnod felhyn ar y safle-diolch am godi nghalon i amser cinio!
sylw gan dros, 11:36 am