<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Taffs* yn drysu defnyddwyr LJ

26.10.06

CWESTIWN: Sut i ddenu ymwelwyr i'ch gwefan?
ATEB: Rhowch y gair 'Torchwood' yn nheitl neu gynnwys y post

Edrychais ar fy ystadegau ddoe ac roedd 70 ymwelydd i'm blog ar gyfer y dydd (wedi codi i 96 erbyn bore yma). Y rheswm oedd bod fansite Torchwood ar LiveJournal wedi darganfod fy mhost blaenorol am Wyl Ffermwyr Ifanc. Ond doedd gan y postiwr druan ddim syniad am beth oeddwn yn siarad (profiad cyffredin i fi).
Roedd darllen y post a'r sylwadau'n ddoniol, rhai'n gallu dyfalu rhan o'r cynnwys, un arall yn defnyddio gwefan TranslationExperts.com (tydi'r ddolen ddim yn gweithio bellach gan fod cymaint wedi clicio arno) oedd ddim lot o help iddynt - cyfieithwyd teitl fy mlog i 'Smile We Are Being Fingers'.

*oes rhywun ond fi'n casau arferiad y Saeson o gyfeirio at Gymry fel Taffs/Taffys?
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:18 am

2 sylw:

Yn lwcus iawn, dwi ddim yn dod o hyd y gair 'Taffs' rhy aml, gan bod ble dwi'n byw / gweithio dyn ni'n outnumber y Saeson. Ond, beth am defnyddio'r gair 'Pom' yn ol, i weld pa fath o ymateb ti gael?

Jon
sylw gan Anonymous Anonymous, 4:04 pm  

Dwi ddim yn ei glywed rhy aml chwaith - dim lot o Saeson yn gweithio i Fenter Iaith sir Caerffili chwaith (er byddai croeso iddynt yma).

Dyma'r post hwn yn gwneud i Flog heb Enw ymchwilio tarddiad y gair/enw.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:49 pm  

Gadawa sylw