<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogio ar y curriculum?

17.10.06

Fel rhan o'i chwrs Cyfryngau a Newyddiaduraeth, mae Gwenllian Glyn wedi dechrau blog. Rhaid i fyfyrwyr cwrs Cyfle wneud yr un peth a dwi wedi bod yn darllen blogiau Cyfle Mei, Aled a Llefenni, ond roedd Mei ac Aled eisoes yn blogio os dwi'n iawn ac mae Llefenni wedi parhau i flogio wedi'r cwrs.

Mae Gwenllian yn ysgrifennu'n dda iawn (sy'n help o ystyried y cwrs!), ond dwi'n cael yr argraff nad yw hi'n or-gyfarwydd gyda blogio. Fel dwi weithiau'n gwneud pan dwi'n dod ar draws blog newydd, dwi wedi bod yn awgrymu pethau gall hi wneud i ddenu darllenwyr, fel gadael sylwadau ar flogiau eraill a rhoi dolenni oddi ar ei blog hi. Hefyd dyma fi'n ei chyfeirio at Blogiadur, BlogCymru a Welshblogs, eto er mwyn denu darllenwyr. Dwi wedi hefyd ceisio sôn am Technorati a Bloglines, ond dwi'n ymwybodol y byddai mwy na thebyg yn ymddangos fel mod i'n siarad iaith estron.

Yn y blwch sylwadau ar hen bost (allai'm cofio pa un) pan oeddwn yn bod yn or-feirniadol o flog newydd rhyw wleidydd dyma Rhodri Nwdls yn gofyn os dylai yna fod rhyw fath o gyrsiau byr ar gael i ddechrau pobl ffwrdd gyda blogio. Dwi'n meddwl bod angen/galw am y fath beth, ond pwy fyddai'n eu darparu? Mi wnaethon ni drafod rhai o'r pwyntiau uchod yn ein blog gwrdd cyntaf ond ddim mewn lot o fanylder - testun ar gyfer y nesaf efallai?.

Dwi ddim yn trio dweud bod ffordd cywir neu anghywir wrth flogio, ond mae na rai pethau sylfaenol dylid eu dilyn. Hwyrach mae trwy flogio am gyfnod y dewch i wybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac mae pawb yn wahanol wrth gwrs

Anghofiais ei chyfeirio at y seiat Rhithfro ar maes-e sy'n cynnwys sawl edefyn defnyddiol ar gyfer pobl sy'n newydd i flogio.

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn ceisio meddwl yn ôl i'm gwersi TG yn yr ysgol. Roeddem yn defnyddio IBM's i deipio a hen BBC's i wneud ..yrm..rhywbeth. Roedd y gwersi unai yn dda i ddim neu'n uffernol o ddiflas achos allai'm cofio dim amdanynt. Hoffwn feddwl bod y gwersi'n fwy diddorol heddiw a mwy perthnasol, a rwan gallaf wybod yn union beth sy'n cael ei astudio, diolch i flog Gwersi Cyfrifiaduro Glantaf. Y bwriad yw gadael i reini wybod beth sydd wedi cael ei astudio yn y dosbarth a dweud pryd mae'r gwaith cartref fod mewn erbyn (hefyd mae'r athro'n digwydd crybwyll bod un disgybl yn absenol o'r wers er iddo'i weld yn gynharach ar y cae chwarae - slei).
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:39 pm

3 sylw:

Dwi'n meddwl fysa tudalen neu neges ar 'best practices' yn haws 'na cwrs i'w drefnu. Efallai top tips am flogio. Buasai esbonio Technorati ayyb yn haws wedyn, heb fynd ott wrth adael sylw.

Fedri di wedyn lincio iddo, a does raid i neb fynd i Langranog am y penwythnos.
sylw gan Blogger Mei, 8:08 am  

Mae hynna'n swnio lot synhwyrol. Am ryw reswm dwi'n mynnu mynd OTT gyda phopeth.

Wedi dweud hynny byddai penwythnos preswyl ar flogio yn llangrannog yn neis.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:18 am  

... Be am i ni gyd lunio un ein hunain ar ein blogiau ein hunain, yna cymeryd y gorau o bob un a chreu edefyn newydd ar maes-e a gofyn os caiff fod yn edefyn 'gludiog'?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:20 am  

Gadawa sylw