Zooomr a Radio Amgen
5.10.06
Mae Radio Amgen yn dathlu ei benblwydd yn 5 oed. Dyma engrhaifft wych o ddefnydd effeithiol o dechnoleg i gael diwylliant amgen Cymraeg at gynulleidfa byd eang. Islaw mae llun 'clawr' i gyd-fynd âg darllediad wythnosol. Roeddwn i'n ffan anferth o Lego tra'n blentyn felly dwi'n hoff iawn o'r llun yma.
Mae'r llun wedi ei gynnal ar wefan Zooomr. Dwi wedi creu cyfrif arno ar ôl darllen post ar Sbwriel*spot. Dwi eisioes yn defnyddio Flickr ac yn meddwl ei fod yn wasaneth gych, ond hoffwn weld beth all Zooomr gynnig am ddau reswm:
lluniau, lleoleiddio, localization, zooomr, flickr, yahoo, radioamgen, radio amgen, cymraeg, welsh
Generated By Technorati Tag Generator
1. Yahoo, sy'n berchen ar Flickr, a dwi'n teimlo'n rhagrithiol yn talu £12 y flwyddyn iddyn nhw wedi iddynt roi manylion personol i awdurdodau Tseina, tra dwi'n annog eraill i foicotio NestleFel abwyd arbennig, mae Zooomr yn cynnig cyfrif Pro am ddim i flogwyr am flwyddyn.
2. Mae Zooomr yn awyddus iawn i leoleiddio eu gwefan, felly gall fod ar gael yn Gymraeg. Dwi'n fodlon cyfieithu'r wefan (gyda help eraill efallai?)
lluniau, lleoleiddio, localization, zooomr, flickr, yahoo, radioamgen, radio amgen, cymraeg, welsh
Generated By Technorati Tag Generator