<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Gerddi Fotaneg amdani

27.4.06

Yn ôl y Western Mail, os ydych yn chwilio m rhywbeth gwahanol i wneud dros benwythnos Gŵyl y Banc, beth am y Gerddi Botaneg?

gardd fotaneg
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:52 am | dolen | 3 sylw |

Tagzania Cymraeg gam yn nes.

26.4.06

Dyma lun arbrawf o ferswin Cymraeg Tagzania.com. Yn amlwg nid yw popeth wedi ei ychwanegu eto.

Mae un peth pwysig ar ôl ac efallai gallwch fy helpu. Ar dudalen blaen ferswin pob iaith, mae esiamplau o lefydd nodweddiadol sy'n gysylltiedieg â'r wlad/iaith honno, neu rhywbeth byd enwog ond gyda sylwadau yn yr iaith dan sylw.
TagzaniaWelshFrontPageExample

Gan ein bod ni Gymry Cymraeg mor fewn-blyg, dwi wedi dewis tri eisampl o Gymru ;-)
-Stadiwm Mileniwm (diflas ond enwog)
-Ynys Llanddwyn
-Tafarndai sydd wedi eu hadolygu ar PubsCymru

Os allwch feddwl am rhai gwell/gwahanol, gadewch eich awgrymiadau yn y blwch sylwadau. Mae'r dewis wedi ei gyfyngu i safon y llun ar GoogleMaps. Gall fod yn lun lloeren neu'n streetmap.

Meddyliais am Porth Madryn, ond dyw awnsawdd y llun ddim yn dda, ac tydi'r adeiladu heb ddechrau hyn yn oedd ar adeilad y Cynulliad Cenedlaethol na Chanolfan y Mileniwm yng Ngaherdydd yn ôl y llun lloeren.

Hoffwn fap stryd enwog o Gymru, beth a Y Maes, Caernarfon neu St Mary's Street, Caerdydd?

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:07 pm | dolen | 4 sylw |

Murlun newydd Y Lolfa



Wedi derbyn e-bost gan Y Lolfa

Dathliad Triphlyg yn Nhalybont gyda dadorchuddiad murlun newydd, agoriad swyddfa newydd a lawnsiad y wefan ar ei newydd-wedd. Tydw i ddim yn meddwl llawer am ddyluniad y wefan, ond ta waeth mae gostyniad o 10% ar bris pob llyfr a brynir ar-lein cyn diwedd mis Mai.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:22 am | dolen | 1 sylw |

WelshBlogs.com

25.4.06

Tra'n chwilota trwy Technorati am pwy sydd â dolen at y blog yma, dyma fi'n dod ar draws WelshBlogs.com. Doeddwn ddim yn ymwybodol ohono o'r blaen nac felly fod fy mlog wedi ei gynnwys arno.

Yn wahanol i Blogiadur.com a BlogCymru.com, mae'n cynnwys cymysgedd o flogiau yn Gymraeg a'r Saesneg. Hyd y gwela i does dim modd gweld pa flogiau sydd wedi eu cynnwys oni bai am o ble mae'r negeseuon diwethaf wedi dod, ond o edrych ar y categorïau ar yr ochr chwith, dwi 'di dod i'r casgliad mai'r blog hwn a Morfablog yw'r unig ddau flog Cymraeg arno hyd yma.

Mae'r categorïau yn deillio o'r tagiau sydd ar y blogiau ey hunain, ac fe all hyn esbonio pam fod cyn-lleied o flogiau Cymraeg (eu hiaith) arno gan nad oes llawer yn tagio. Dwi heb fod yn tagio llawer yn ddiweddar, ond mae hyn yn rhoi rheswm arall dros wneud.

Anfonais e-bost at Welshblogs.com i ofyn o ble roeddynt wedi casglu'r blogiau ac os oeddynt wedi defnyddio'r Blogiadur neu BlogsCymru o gwbwl. Cefais ddau ymateb gan ddau berson gwahanol, y ddau gyda chyfeiriad e-bost Gwyddelig. Doedd dim un o'r ddau yn cofio ble roeddynt wedi cael manylion, ond trwy Gwglo roeddynt yn meddwl. O arddull y wefan, mae'n debyg iawn i wefan IrishBlogs.ie, felly tybiaf mae'r un pobl sydd tu cefn iddo.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:05 am | dolen | 2 sylw |

Ych a pych!

24.4.06

Ych a fi, dwi wastad wedi meddwl bod na rhywbeth braidd yn od am deulu brenhinol Lloegr, ac mae'r Dail Mail wedi datgelu rhai o arferion ffiaidd y teulu.

trwy'r Rhys Wynne arall.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:23 am | dolen | 0 sylw |

Dydd Sant Siôr Hapus! + DaisyChain Live

23.4.06

Angofiais ei fod hi'n ddydd Sant Siôr heddiw nes gwylio Ras Fawr Llundain, ond yn ffodus roedd Sarah wedi anghofio hefyd, felly doeddwn i ddim mewn trwbwl!



Es i DaisyChain Live ddoe, a dod adre gyda llwythi o bethau. Yn ogysal ag ambell gacen neis, hufen iâ, sgon gaws..., mi wnes i hefyd brynnu:
-Rain Sava o stondin Raindrain Ltd
-Eco-Balls o stondin ProEco
-Compost di-fawn o stondin Fertile Fibre
-2 ôl-rifyn cylchrawn Permaculture a Bulb o stondin The Independent News Collective

Dyma fi hefyd yn cael sgwrs gyda dyn ar stondin Frome Valley Toymakers, sy'n gwenud tegannau plant o goed, llawer ohono'n goed gwastraff. Rhoddais wahoddiad iddo ddod a stondin i'r Ffair Nadolig nesaf byddaf yn drefnu. Roedd o'n awyddus iawn i ddod, ond fel roeddwn yn deall o'i acen roedd o dramor (Iseldiroedd yn ôl ei wefan - ond dwyrain Ewrop byddwn wedi dyfalu) ac felly doedd ddim yn 100% yn siwr pa mor bell oedd Caerffili, felly roedd am holi ei wraig sy'n gwneud y gyrru drosto!

Mae teimladau cymysg gyda fi am y diwrnod. Dwi'n meddwl bod syniad y peth yn grêt ac roedd yna nifer o stondianu diddordol a sawl arddangosfa dros y deuddydd, pethau na fyddech fel arfer yn eu gweld gyd mewn un lle, yn amrywio o 'Wormery', cwmni buddsoddi moesegol, car hybrid Honda i stondin deisennau a Yurt hyd yn oed - ond dyna oedd pwynt yr holl beth yn y lle cyntaf.

Yn anffodus roedd y pris mynediad o £8 yn ormod braidd o ystyried faint o stondinau oedd yno, er rhaid nodi roedd llawer o'r nwyddau ar werth yn rhatach na fyddent wedi bod ar y wê a doedd dim angen talu cludiant. Hefyd, er ei fod yn swnio'n wirion braidd, cawsom ein siomi'n fawr gan yr arlywaeth. Fel llysiewraig, mae Sarah'n syrffedu ar fynd i ddigwyddiadau, boed yn steddfod, gwyl gerdd neu beth bynnag a dim byd ond fan byrgyrs yno. Gan mai diwgwyddiad yn hyrwddo pethau gwyrdd, ac felly lleol ac organig ydoedd, roedd ein disgwylaidau ni'n dau (a Jenny a ddaeth gydas ni) yn uchel. Yr unig ddau beth oedd yno oedd fan yn gwerthu baps cig eidion neu porc, a fan yn gwerthu toasties - oce roedd y cig yn lleol a'r caws ar y toastie yn un organig o ryw archfarchnad, ond roeddem wedi disgwyl llawer gwell. Pan yn trefnu Ffair Nadolig gyda'm gwaith llynedd roedd yn anodd perswadio'r math o stondinwyr oddech eisiau i ddod, ac yn y pen draw rhaid derbyn pwy bynnag sydd eisiau dod o fewn rheswm i lenwi slot, ond dwi'n siwr gyda mymryn o ymdrech gelli'd fod wedi denu rhai mwy amgen gyda dewis iachach, a physicach fyth mwy eang o fwydydd.

Wedi dweud hyn, dwi'n siwr a'i eto, gan obeithio y bydd yn tyfu ac yn gwella.
postiwyd gan Rhys Wynne, 5:21 pm | dolen | 0 sylw |

Sŵn taran o fy mol.

21.4.06

PEIDIWCH Â CHLICIO ar y ddolen os ydych eisiau bwyd!!

wŷbacwnsglodsaphâpob - un o fy hoff gyfuniadau ar yr achlysuron prin dwi'n mynd i gaffi greasy spoon, a theitl y blog yma sy'n adolygu caffi's Prydain (ond mond un yng Nghymru mae wedi adolygu hyd yma). Mae perchennog y blog hefyd wedi gwneud rhywbeth tebyg gyda yn UDA

Mae'n gwahaodd cyfraniadau:

Open Sauce [hi hi - ti'n dallt?]
I've got these various blogs about cafes. I love cafes. But it's gradually dawning on me that I'm not going to be able to visit every cafe in the world. So I'd love to invite your contributions. If you want to do a cafe entry like one of these then please do, just send it to me - russell at russelldavies.com and I'll put it up.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:12 pm | dolen | 0 sylw |

Jôc y dydd

20.4.06

Dyfyniad gan Rhodri Morgan, comediwr enwocaf Cymru oddi ar wefan Assembly Labour News
I am proud that we have boosted the Welsh language and given Welsh speakers more opportunities to live their everyday lives through their first language. It is our Welsh Labour team that is delivering more powers for our National Assembly.

Mae diddordeb mawr gyda fi glywed mwy am sut mae Llafur wedi cynyddu cyfleoedd unigolion i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, byddwn i'n dweud mai pobl fel Peter Hain sy'n ymdrechu fwyaf dros gyfyngu pwerau'r Cynulliad.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:35 pm | dolen | 0 sylw |

Ffair Werdd 23-24/4/06


An indoor public show filled with traders and organisations from all areas exhibiting environmentally friendly solutions. Green solutions are out there to consumer issues but they can be hard to find, this event is your green marketplace.
Dwi'n gobeithio mynychu DaisyChain Live dros y penwythnos. Mae'n rhyw fath o ffair/arddangosfa o bethau 'gwyrdd'. Cynheli'r safle'r Sioe 3 Sir yn Malvern, sydd tua awr i ffwrdd o Gaerdydd.

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:12 am | dolen | 0 sylw |

Ble dylwn fod?

13.4.06

Wedi dod ar draws What European City Do You Belong In?
Mae wedi ei anelu'n bennaf at Americanwyr o'r ffordd mae'r cwestiynnau wedi eu gosod, ond triais i o beth bynnag.
You Belong in Amsterdam

A little old fashioned, a little modern - you're the best of both worlds. And so is Amsterdam.
Whether you want to be a squatter graffiti artist or a great novelist, Amsterdam has all that you want in Europe (in one small city).

Doedd dim un cwestiwn am gyffuriau na hwrio gyda llaw!
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:27 am | dolen | 0 sylw |

Chwarae duw yn yr ardd

12.4.06

Mae'r rhestr 'pethau i'w wneud' ar y tŷ yn un di-ddiwedd. Wedi llawer o dîn-droi, dwi'n rhoi fy hun ar waith. Tua chwarter ffordd trwodd dwi'n sylweddoli pam mod i mor amahrod i ddechrau'r job, ond erbyn hyn mae'n rhy hwyr.



Ar hyn o bryd dwi'n ceisio lladd dau 'dreyn â'g un carreg (maddeuch i mi am y cyfieithiad), sef cael gwared o llwyth o bridd sydd wedi ymgaslgu ar waelod yr ardd wedi i mi symud "rockery" y cyn berchenog, a chael gwared a phant mawr ar y lawnt. Agwrymiad Sarah oedd roi'r pridd ar ben y glaswellt, ei lefelu a hau hadau glaswellt, ond penderfynias i mai codi tywarch fyddai orau a rhoi'r pridd oddi tano (fel rhyw gartŵn Tom & Jerry, ble codi'r y carped a sgubo'r llanast oddi tano). Amser a ddengys.

Mae'n fy atgoffa o un o fy hoff gemau Amiga pan yn iau, sef Populous.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:17 am | dolen | 0 sylw |

Ga'i awgrymu.....?

10.4.06

Yn y gorffenol, wrth addasu patrymlun fy mlog, dwi wedi llwyddo gwneud smonach. Mae defnyddio'r botwm rhagolwg yn swnio'n beth digon diogel i'w wneud, ond eto llwyddais i arbed rhywbeth anghywir. Mae gan Thur awgrymaid, sef addasu'r patrymlun all-lein (offline yn ôl y Gronfa Genedlaethol o Dermau). Mae'n swnio'n amlwg, ond mae'n gyngor da ac efallai o ysytried pa mor anhylaw mae Blogger yn gallu bod weithiau, gall fod yn ffordd cyflymach a rhoi rhagolwg mwy cywir i chi. Dyma sut mae mynd ati.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:33 am | dolen | 0 sylw |

Ddim yn gall!

7.4.06

Iesu, mae'r Basgwyr yn mwynhau eu Stwnsh. Beth sy'n fy mhoeni i ydi be sy'n mynd i mewn i'r stwnsh. Mae Bilbao.bi (Basges a Sbaeneg yn unig) yn gyfuniad o luniau, mapiau a blogiau o'r ddinas. Mae fel PubsCymru a BigCardiff, ond ar lefel arall. Cliciais ar y tag 'Bar' ac yna, er nad oes fawr o Sbaeneg gyda fi, sylwais bod modd chwilio am rai gyda'r tag, droga, cocaina a hachis! Dwi erioed wedi, nad byth eisiau trio'r Powdwr Martsio Periwaidd, ond handi gwybod ble mae croeso i'r gwyrdd ;-)
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:54 am | dolen | 1 sylw |

Wyt ti dan fy nylanwad? + Cynhadledd Stwnsh*

6.4.06

Dim byd o ddefnydd rili, mond mwy o wastraff amser.


Fy nylanwad

[854]

Dyfais rhyfedd i fesur dylanwad eich blog ar y byd o'i gymharu a blogiau eraill (pan dwi'n dweud 'dylanwad' a 'byd', cofiwch y pinsiad halen). Mae'n gweithio allan gwerth i ddylanawad eich blog (854 yw un y blog yma) drwy gyfuno canlynniadau eich blog ar wahanol wefannau fel Technorati, Bloglines a Yahoo ac yna'n defnyddio fformiwla cymleth:

[(blog+posts+web links) + (bloglines subs * 2)] * 1+(Pagerank/10)

Os nad ydych wedi sylwi eto, blogiwr o'r enw Gorka Julio (o Wlad y Basg - ble arall?) ddyfeisiodd y peth.


Mae yna ddigwyddiad o'r enw Blogak 2.0 yn cymeryd lle yn Bilbao heddiw sy'n canolbwyntio ar mash-ups. Mae Gorka Julio wedi creu rhaglen (gyfrifiadurol) o'r enw SpyBlogak**.
Gorka Julio Teketen, creator of BlogInfluence, has created an ad-hoc watch-tool for the event: SpyBlogak. That app crawls Flickr, blog search engines (for results in Basque and other languages) and also shows a Tagzania map, to see who's talking about Blogak 2.0
Efallai does dim amser (na'r awydd gan pobl) ar gyfer eleni, ond efallai yn y dyfodol gelli'r cael digwyddiad yn ystod wythonos yr Eisteddfod (neu rhywbryd arall) ble trafodi'r pwnc fel Blogio/neu Blog-gwrdd. Byddai'n wych cael rhaglen tebyg i ddilyn i peth.
*Stwnsh yw fy ymdrech i'r gyfieithiad o mash-up
**Mond hanner ffordd drwy'r post yma dwi di sylweddoli y bydd y post yma'n ymddangos ar SpyBlogat os dwi'n ei dagio gyda Technorati.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:41 am | dolen | 4 sylw |

Am I bothered?

5.4.06


Mae'n ddiwrnod bagiau gwyrdd yn fy rhan i o Gaerdydd heddiw, ond byddai chi ddim yn meddwl wrth weld pa mor wag yw'r stryd. Mae'r cyngor yn casglu'r bagiau o ddrws eich tŷ a does dim rhaid gwahanu'r papur, caniau na'r carbod hyd yn oed, mond eu rhoi nhw i gyd mewn un bag.
Efallai bod fy nghymdogion yn waste neutral ac felly does dim i'w hailgylchu ganddynt - yn anffodus dwi'n gwybod tydi hyn ddim yn wir gan mod i'n clywed cymaint o sŵn crensian gwydr pan mae'r lori ludw wythnosol yn casglu'r bagiau duon.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:36 am | dolen | 2 sylw |

Menter Iaith Bilbao

3.4.06

Sori os dwi'n diflasu chi gyda'r holl fusnes Gwlad y Basg yma - ond tyff!

Zenbat Gara
Zenbat Gara is a culture associtation devoted to promoting the Basque language so that speakers can live everyday life completely in euskara. We want to create a Basque speaking environment in Bilbao, a reference for Basque spakers in a city in which euskara is a minority language, organizing various initiatives.

Mae'r mudiad yma hefyd yn rhedeg, gorsaf radio, Caffi/Canolfan Iaith a Gwesty a bar glan môr

Bilbo Hiria
Gorsaf radio Basgeg ar gyfer Bilbao. Yn ôl gwefan yr orsaf mae 50,000 o siardwyr Basgeg yn y ddinas (allan o boblogaeth o dros 350,000), felly fel canran, debyg iawn i'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd (40,000 allan o 300,000). Tudalen Saesneg yr orsaf.
Irratia
Sioe ar orsaf Bilbo Hiria sy'n sôn am dechnoleg a'r wê, yn arbennig rhai yn yr iaith Basgeg. Tudalen Saesneg

Kafe Antzokia
Hen theatr sydd rwan yn gaffi/canolfan iaith a lleoliad gigs (a bar gobeithio)

Arrigorri
Gwesty a thafarn ym mhentref glan môr Ondarroa, rhwng Bilbao a Donoista.

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:50 pm | dolen | 0 sylw |

Tafarn diarth i bobl diarth

Bues i a Sarah i bentref Blockley yn y Cotwsolds dros y penwythnos i gwrdd â'i rhieni. Roedd hi'n benblwydd 60 oed ei mam a dyma ni'n aros yng ngwesty Lower Brook House. Aeth ei rhieni i gael swper yn nhafarn Y Crown ar y nos Wener a synnu mai nhw oedd yr unig bobl yno, heblaw am un cwpwl arall ddaeth mewn hanner ffordd drwy eu pryd. Wedi dychwelyd i'r gwesty dyma perchennog y lle'n dangos tudalen flaen papur lleol ble roedd y landlord wedi gwahardd holl drigolion y pentref.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:52 am | dolen | 2 sylw |