Ddim yn gall!
7.4.06
Iesu, mae'r Basgwyr yn mwynhau eu Stwnsh. Beth sy'n fy mhoeni i ydi be sy'n mynd i mewn i'r stwnsh. Mae Bilbao.bi (Basges a Sbaeneg yn unig) yn gyfuniad o luniau, mapiau a blogiau o'r ddinas. Mae fel PubsCymru a BigCardiff, ond ar lefel arall. Cliciais ar y tag 'Bar' ac yna, er nad oes fawr o Sbaeneg gyda fi, sylwais bod modd chwilio am rai gyda'r tag, droga, cocaina a hachis! Dwi erioed wedi, nad byth eisiau trio'r Powdwr Martsio Periwaidd, ond handi gwybod ble mae croeso i'r gwyrdd ;-)
1 sylw:
Hoffi'r blog influence! Wedi ychwanegu linc iddo! Hwyl, Carwyn
sylw gan
Anonymous, 1:29 pm
