<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wyt ti dan fy nylanwad? + Cynhadledd Stwnsh*

6.4.06

Dim byd o ddefnydd rili, mond mwy o wastraff amser.


Fy nylanwad

[854]

Dyfais rhyfedd i fesur dylanwad eich blog ar y byd o'i gymharu a blogiau eraill (pan dwi'n dweud 'dylanwad' a 'byd', cofiwch y pinsiad halen). Mae'n gweithio allan gwerth i ddylanawad eich blog (854 yw un y blog yma) drwy gyfuno canlynniadau eich blog ar wahanol wefannau fel Technorati, Bloglines a Yahoo ac yna'n defnyddio fformiwla cymleth:

[(blog+posts+web links) + (bloglines subs * 2)] * 1+(Pagerank/10)

Os nad ydych wedi sylwi eto, blogiwr o'r enw Gorka Julio (o Wlad y Basg - ble arall?) ddyfeisiodd y peth.


Mae yna ddigwyddiad o'r enw Blogak 2.0 yn cymeryd lle yn Bilbao heddiw sy'n canolbwyntio ar mash-ups. Mae Gorka Julio wedi creu rhaglen (gyfrifiadurol) o'r enw SpyBlogak**.
Gorka Julio Teketen, creator of BlogInfluence, has created an ad-hoc watch-tool for the event: SpyBlogak. That app crawls Flickr, blog search engines (for results in Basque and other languages) and also shows a Tagzania map, to see who's talking about Blogak 2.0
Efallai does dim amser (na'r awydd gan pobl) ar gyfer eleni, ond efallai yn y dyfodol gelli'r cael digwyddiad yn ystod wythonos yr Eisteddfod (neu rhywbryd arall) ble trafodi'r pwnc fel Blogio/neu Blog-gwrdd. Byddai'n wych cael rhaglen tebyg i ddilyn i peth.
*Stwnsh yw fy ymdrech i'r gyfieithiad o mash-up
**Mond hanner ffordd drwy'r post yma dwi di sylweddoli y bydd y post yma'n ymddangos ar SpyBlogat os dwi'n ei dagio gyda Technorati.

, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:41 am

4 sylw:

Dwi'n gêm i drefnu rhywbeth yn y steddfod os wyt ti. Hen bryd i ni gael blog-gwrdd offisial. DWi wedi meddwl trio cael un yn Aber, mae na ddiogn o flogiwrs yma rwan.
sylw gan Blogger Nwdls, 8:36 pm  

Mae na dri opsiwn fyddwn i'n ystyried

1. Digwyddiad 'swyddogol' yn ystod yr Eisteddfod gyda blogwyr yn rhoi cyflwyniad i flogio, mewn ymgais i ddenu mwy i flogio - Mae na Barc Technoleg yn rhan o Brifysgol Abertawe oes na ddim? Rhai rhyw fath o statws i'r peth. Byddai rhwybeth fel hyn angen tipyn o drefnu.

2. Blog-gwrdd yn ystod yr Eisteddfod. Hawdd i'w drefnu a'r cyfle i gael y nifer fwyaf o flogwyr at eu gilydd.

3. Blog-gwrdd yn Aber yn agored i bawb (nid jyst blogwyr Aber) rhywbryd arall. Cyfle i ddenu mwy o gyhoeddusrwydd gan byddai un yn ystod y steddfod yn cael lot o sylw.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:39 am  

Hoffwn awgrymu 'ponsh' yn hytrach na stwnsh.
sylw gan Blogger Huw, 7:53 am  

Mae 'ponsh' yn golygu mess yn fy marn i.

'Stwnsh' yw cymysgedd o wahanol bethau i wneud un peth da, fel tatws, swedjen, menyn a phupur. mmmmmmm
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:31 am  

Gadawa sylw