<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tafarn diarth i bobl diarth

3.4.06

Bues i a Sarah i bentref Blockley yn y Cotwsolds dros y penwythnos i gwrdd â'i rhieni. Roedd hi'n benblwydd 60 oed ei mam a dyma ni'n aros yng ngwesty Lower Brook House. Aeth ei rhieni i gael swper yn nhafarn Y Crown ar y nos Wener a synnu mai nhw oedd yr unig bobl yno, heblaw am un cwpwl arall ddaeth mewn hanner ffordd drwy eu pryd. Wedi dychwelyd i'r gwesty dyma perchennog y lle'n dangos tudalen flaen papur lleol ble roedd y landlord wedi gwahardd holl drigolion y pentref.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:52 am

2 sylw:

So be gaeth ei sgwennu ar y carped?
sylw gan Blogger Mei, 12:11 pm  

Dim syniad, sylwodd rhieni Sarah ddim arno. Yn ôl yr erthygl wnaethon nhw ddim sylwi arno am tridie chwaith felly tydio unai ddim yn amlwg neu tydyn nhw ddim yn hwfro'n aml!

Mae'r pentref mor posh fel mae'r erthygl yn ddweud, mae'n anodd credu byddai unrhywun yn camfiahafio yno!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 2:45 pm  

Gadawa sylw