<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tagzania Cymraeg gam yn nes.

26.4.06

Dyma lun arbrawf o ferswin Cymraeg Tagzania.com. Yn amlwg nid yw popeth wedi ei ychwanegu eto.

Mae un peth pwysig ar ôl ac efallai gallwch fy helpu. Ar dudalen blaen ferswin pob iaith, mae esiamplau o lefydd nodweddiadol sy'n gysylltiedieg â'r wlad/iaith honno, neu rhywbeth byd enwog ond gyda sylwadau yn yr iaith dan sylw.
TagzaniaWelshFrontPageExample

Gan ein bod ni Gymry Cymraeg mor fewn-blyg, dwi wedi dewis tri eisampl o Gymru ;-)
-Stadiwm Mileniwm (diflas ond enwog)
-Ynys Llanddwyn
-Tafarndai sydd wedi eu hadolygu ar PubsCymru

Os allwch feddwl am rhai gwell/gwahanol, gadewch eich awgrymiadau yn y blwch sylwadau. Mae'r dewis wedi ei gyfyngu i safon y llun ar GoogleMaps. Gall fod yn lun lloeren neu'n streetmap.

Meddyliais am Porth Madryn, ond dyw awnsawdd y llun ddim yn dda, ac tydi'r adeiladu heb ddechrau hyn yn oedd ar adeilad y Cynulliad Cenedlaethol na Chanolfan y Mileniwm yng Ngaherdydd yn ôl y llun lloeren.

Hoffwn fap stryd enwog o Gymru, beth a Y Maes, Caernarfon neu St Mary's Street, Caerdydd?

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:07 pm

4 sylw:

Wyddfa?
sylw gan Blogger Mei, 6:47 pm  

Ty-Ddewi?
Helo, mae yna nawr rhaglen gwê wedi ei seilio ar Google Maps yn Gymraeg :-). Gall unrhywun greu map eu hunain yno. Ychwanegwch leoliadau, a'u cyfuno âg eraill, drwy ddefnyddio tagiau ac allweddeiriau. Dewch am gipolwg ar Tagzania.
sylw gan Anonymous Anonymous, 10:40 am  

Fel chi'n gweld o'r sylw uchod, yn eu brwdfrydedd mae Tagzania wedi cyhoeddi'r fersiwn CYmraeg yn barod gyda fy esiamplau i ac un Chernobyl. Byddant yn newid yr eisamplau pob hyn o hyn felly efallai welwn i eich awgrymaidau chi bryd hynny.

Mei, dwi wedi tagio'r Wyddfa'n barod, ond dwi ddim 100% mod i di cael y brig cywir oherwydd ansawdd y llun lloeren:
http://www.tagzania.com/tag/ywyddfa

hefyd, mae dolen at dy flog fan hyn fel cyfrannwr at y borses lleoleiddio:
http://www.tagzania.com/doc/about/i18n
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:35 pm  

Gadawa sylw