WelshBlogs.com
25.4.06
Tra'n chwilota trwy Technorati am pwy sydd â dolen at y blog yma, dyma fi'n dod ar draws WelshBlogs.com. Doeddwn ddim yn ymwybodol ohono o'r blaen nac felly fod fy mlog wedi ei gynnwys arno.
Yn wahanol i Blogiadur.com a BlogCymru.com, mae'n cynnwys cymysgedd o flogiau yn Gymraeg a'r Saesneg. Hyd y gwela i does dim modd gweld pa flogiau sydd wedi eu cynnwys oni bai am o ble mae'r negeseuon diwethaf wedi dod, ond o edrych ar y categorïau ar yr ochr chwith, dwi 'di dod i'r casgliad mai'r blog hwn a Morfablog yw'r unig ddau flog Cymraeg arno hyd yma.
Mae'r categorïau yn deillio o'r tagiau sydd ar y blogiau ey hunain, ac fe all hyn esbonio pam fod cyn-lleied o flogiau Cymraeg (eu hiaith) arno gan nad oes llawer yn tagio. Dwi heb fod yn tagio llawer yn ddiweddar, ond mae hyn yn rhoi rheswm arall dros wneud.
Anfonais e-bost at Welshblogs.com i ofyn o ble roeddynt wedi casglu'r blogiau ac os oeddynt wedi defnyddio'r Blogiadur neu BlogsCymru o gwbwl. Cefais ddau ymateb gan ddau berson gwahanol, y ddau gyda chyfeiriad e-bost Gwyddelig. Doedd dim un o'r ddau yn cofio ble roeddynt wedi cael manylion, ond trwy Gwglo roeddynt yn meddwl. O arddull y wefan, mae'n debyg iawn i wefan IrishBlogs.ie, felly tybiaf mae'r un pobl sydd tu cefn iddo.

2 sylw:
sylw gan Nwdls, 10:51 am
Sut weithiest ti hynny allan, drwy glicio ar y categoriau, trwy Technorati neu rhyw ffordd arall?
Diolch am bwyntio fi ato fo, gobeithio bydd Pictiwrs arno cyn hir hefyd.