<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dydd Sant Siôr Hapus! + DaisyChain Live

23.4.06

Angofiais ei fod hi'n ddydd Sant Siôr heddiw nes gwylio Ras Fawr Llundain, ond yn ffodus roedd Sarah wedi anghofio hefyd, felly doeddwn i ddim mewn trwbwl!



Es i DaisyChain Live ddoe, a dod adre gyda llwythi o bethau. Yn ogysal ag ambell gacen neis, hufen iâ, sgon gaws..., mi wnes i hefyd brynnu:
-Rain Sava o stondin Raindrain Ltd
-Eco-Balls o stondin ProEco
-Compost di-fawn o stondin Fertile Fibre
-2 ôl-rifyn cylchrawn Permaculture a Bulb o stondin The Independent News Collective

Dyma fi hefyd yn cael sgwrs gyda dyn ar stondin Frome Valley Toymakers, sy'n gwenud tegannau plant o goed, llawer ohono'n goed gwastraff. Rhoddais wahoddiad iddo ddod a stondin i'r Ffair Nadolig nesaf byddaf yn drefnu. Roedd o'n awyddus iawn i ddod, ond fel roeddwn yn deall o'i acen roedd o dramor (Iseldiroedd yn ôl ei wefan - ond dwyrain Ewrop byddwn wedi dyfalu) ac felly doedd ddim yn 100% yn siwr pa mor bell oedd Caerffili, felly roedd am holi ei wraig sy'n gwneud y gyrru drosto!

Mae teimladau cymysg gyda fi am y diwrnod. Dwi'n meddwl bod syniad y peth yn grêt ac roedd yna nifer o stondianu diddordol a sawl arddangosfa dros y deuddydd, pethau na fyddech fel arfer yn eu gweld gyd mewn un lle, yn amrywio o 'Wormery', cwmni buddsoddi moesegol, car hybrid Honda i stondin deisennau a Yurt hyd yn oed - ond dyna oedd pwynt yr holl beth yn y lle cyntaf.

Yn anffodus roedd y pris mynediad o £8 yn ormod braidd o ystyried faint o stondinau oedd yno, er rhaid nodi roedd llawer o'r nwyddau ar werth yn rhatach na fyddent wedi bod ar y wê a doedd dim angen talu cludiant. Hefyd, er ei fod yn swnio'n wirion braidd, cawsom ein siomi'n fawr gan yr arlywaeth. Fel llysiewraig, mae Sarah'n syrffedu ar fynd i ddigwyddiadau, boed yn steddfod, gwyl gerdd neu beth bynnag a dim byd ond fan byrgyrs yno. Gan mai diwgwyddiad yn hyrwddo pethau gwyrdd, ac felly lleol ac organig ydoedd, roedd ein disgwylaidau ni'n dau (a Jenny a ddaeth gydas ni) yn uchel. Yr unig ddau beth oedd yno oedd fan yn gwerthu baps cig eidion neu porc, a fan yn gwerthu toasties - oce roedd y cig yn lleol a'r caws ar y toastie yn un organig o ryw archfarchnad, ond roeddem wedi disgwyl llawer gwell. Pan yn trefnu Ffair Nadolig gyda'm gwaith llynedd roedd yn anodd perswadio'r math o stondinwyr oddech eisiau i ddod, ac yn y pen draw rhaid derbyn pwy bynnag sydd eisiau dod o fewn rheswm i lenwi slot, ond dwi'n siwr gyda mymryn o ymdrech gelli'd fod wedi denu rhai mwy amgen gyda dewis iachach, a physicach fyth mwy eang o fwydydd.

Wedi dweud hyn, dwi'n siwr a'i eto, gan obeithio y bydd yn tyfu ac yn gwella.
postiwyd gan Rhys Wynne, 5:21 pm

0 sylw:

Gadawa sylw