<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Am I bothered?

5.4.06


Mae'n ddiwrnod bagiau gwyrdd yn fy rhan i o Gaerdydd heddiw, ond byddai chi ddim yn meddwl wrth weld pa mor wag yw'r stryd. Mae'r cyngor yn casglu'r bagiau o ddrws eich tŷ a does dim rhaid gwahanu'r papur, caniau na'r carbod hyd yn oed, mond eu rhoi nhw i gyd mewn un bag.
Efallai bod fy nghymdogion yn waste neutral ac felly does dim i'w hailgylchu ganddynt - yn anffodus dwi'n gwybod tydi hyn ddim yn wir gan mod i'n clywed cymaint o sŵn crensian gwydr pan mae'r lori ludw wythnosol yn casglu'r bagiau duon.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:36 am

2 sylw:

Cymer dro trwy Pontcanna bob yn ail fore Mercher - mae'n braf gweld faint o gartrefi sy'n manteisio ar gynllun ailgychu y cyngor.

Mae'n wir fod llai o ddiddordeb gan Dreganna - ond wy'n meddwl fod Bai ar y Cyngor a'r cartrefi. Yn y ty presennol, mae'n rhaid i ni gario'r bagiau dau stryd i ffwrdd er mwyn i'r cyngor 'u casglu - ac yn y ty diwetha' hefyd, roedd y faniau'n gwrthod casglu'r bagiau o'r drws (er roedd llai o hike i ni o fan'na.) Wrth gwrs, ddylai pawb wneud yr ymdrech i ailgylchu - ond wedi llusgo gwerth pythefnos o sachau gwyrdd ar hyd y stryd gormod o nosweithi tywyll oer, allai ddeall safbwynt y pobl sy'n dewis taflu'r cyfan i un sach ddu.

Ar y llaw arall, os yw'r lori'n dod i'ch drws chi - does dim esgus.

o.n. Ma 'nghwaer i'n byw tu hwnt i Landaf, ac newydd gael dau fin mawr gan y cyngor - un gwyrdd ailgylchu ac un du - gwych. Mae'n rhyfedd fod cymaint o amrywiaeth o ran agwedd tuag at ailgylchu gan y cyngor o un pen o'r dinas i'r llall :/
sylw gan Blogger Dwlwen, 3:53 pm  

Rhyfedd bod rhaid i rai lusgo'u bagiau 2 stryd i ffwrdd ac eraill ddim, braidd yn anheg dwi'n meddwl.

Dwi'n nabod rhwynun yn Ystum Taf sydd gyda bin du a bin gwyrdd, dwi'n meddwl fel rhan o rageln peilot ac yn ôl y Capital Times bydd gweddill y ddinas yn derbyn rhain, un ardal ar y tro. Treganna fydd y rhai olaf i'w derbyn, rhywbryd ganol flwyddyn nesaf.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:46 am  

Gadawa sylw