"Dwi eisiau bod yn Wyddel"
24.9.07
Ar y nos sadwrn es i Glwb y Bont, yn bennaf er mwyn osgoi bod yn y tŷ pan fyddai Sarah a'i ffrindiau'n dychwelyd o'i 'Noson Iâr' (oes gair Cymraeg am Hen Night?). Dwi'n falch iawn i mi fynd, nid er mayn osgoi ffrindiau Sara (jôc oedd hynny!), ond oherwydd i mi weld perfformiad anhygoel o gerddoriaeth traddodiadol Cymraeg. Ar nôs Fercher olaf pob mis mae Clwb Gwerin yn cael ei gynnal yng Nghlwb y Bont ble mae cerddorion lleol yn cwrdd i ymarfer a pherfformio. Roedd nôs Sadwrn yn rhyw fath o showcase. Derbyniais e-bost gyda'r leinyp:
alex coxhead a brilliant guitarist and singer who performs his own versions of traditional folk in a contemporary style as well as his own compositions.dave and kath trio great crowd pleasing songs with heartwarming harmonies.ianto fullpelt a father and son act fusing their influences to produce infectious original materialbethan nia and helina rees innovative traditional welsh music. beautiful celtic harp, fiddle and voice.pendragon celtic folk from ireland and wales to get you dancing
Uchafbwynt y noson oedd Bethan Nia (telyn Celtaidd) a Helina Rees (ffidil). Dwi'n meddwl mai mond yn ddiweddar mae nhw wedi dechrau chwarae a'u gilydd ond roedd y swn yn wych. Dwi'n bendant yn mynd i'w gwahodd i berfformio yng Nghaerffili. Doeddwn heb glywed amdanynt o'r blaen, ond mae nhw ganwaith gwell na lot o berfformwyr traddodiadol Cymraeg eraill dwi di glywed. Gallwch glywed rhai o ganweon o EP Bethan yma (tydi nhw ddim cwet cystal a'i chlywed yn fyw gyda Helina). Dwi'n meddwl eu bod yn recordio albwm gyda'i gilydd yn fuan. Heb os, nhw oedd ffefryn y gynulleidfa.
Band ola'r noson oedd Pendragon. Roedden nhw'n dda iawn hefyd yn chwarae caneuon 'tafarn' Gwyddelig ac un neu ddau gwreiddiol dwi'n credu on mewn arddull Gwyddelig. Tra gwnes i eu mwynhau, gwnaeth i mi feddwl fel bod cymaint o bobl yng Nghymru (a gweddill y byd o ran hynny) wrth eu boddau â cherddoriaeth o'r Iwerddon, ond ychydig iawn sy'n gyfarwydd a, ac yn chwarae cerddoireth Cymraeg. Gall fod yn rhywbeth i wneud â'r iaith, ond hyd y gwyddwn i does dim caneuon 'yfed' Cymreig wedi eu cyfansoddi'n Saeseng fel sydd yna yn Iwerddon.
Labels: cerddoriaeth
Cuairt Nam Blog, rhaglen deledu am flogio yn yr iaith Gaeleg
17.9.07
Crochenwaith
13.9.07
(Postiais y cofnod hwn yn syth o Flickr)
Edrych yn nes at adre
I've visited the counties in yellow. Which counties have you visited? made by marnanel map reproduced from Ordnance Survey map data by permission of the Ordnance Survey. © Crown copyright 2001. |
Blog for Yogi
12.9.07
Llongyfarchiadau Darren
7.9.07
Lluniau o Orseth 2007 ar Flickr yma ac yma.
Labels: gorseth cernyw kernow
'Rwy'n Cynghorydd' (ewch a fi'n ôl i'r ysgol)
6.9.07
66% Pob troDdoe dois ar draws gwefan I'm a Councillor (get me out of here), prosiect i addysgu plant am y broses ddemocrataidd. Byddai Dafydd yn cael ffit. I ddechrau mae'r cyrchu'n sâl, nid yw pob tudalen ar gael yn Gymraeg, ond safon y Gymraeg sy'n ddychrynllyd. Beth sy'n ei wneud yn waeth yw'r gwallau iaith, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol.
22% Weithiau
13% Dibynnu ar y darpariaeth
0% Byth(newydd sylwi mae hyn yn adio i 101%!)
Mae cyfarwyddiadau i athrawon yn Saesneg yn unig, ac yn waeth na hynny does dim adnoddau fel posteri, offer pleidleisio ayyb ar gael yn Gymraeg. Ffordd da o wneud plant i ddod i arfer a chael gwasaneth eilradd yn Gymraeg wrth ddelio â'g awdurdodau lleol yng Nghymru.Mewnlofnodi yng Nghymraeg
Diolch am ymweld! Yn anffodus, mae Rwy’n Cynghorydd wedi gorffen am 2006. Diolch I bawb a wnaeth cymrud rhan am gwneud hyn ein flwyddyn mwyaf llwyddianus erioed. Gobeithio wnaeth chi mwynhau yn cystal a ni!
Yn yr un modd dwi'n cael fy siomi wrth ymweld âg ysgolion ar brosiectau busnes drwy gynllun Menter yr Ifanc a darganfod eto mai yn Saesneg yn unig mae popeth, eto yn atgyfnerthu'r neges mai saeseng yw iaith busnes.
Tocynnau
Dwi hefyd wedi prynnu tocynnau i weld y NoFit State Circus tu allan i Ganolfan y Milenium ar nôs Sul. Oes rhywun wedi gweld yr rhain, mae nhw fod yn wych? Pan es i Seland Newydd gyda Sarah, fe brynodd ei brawd docynnau i mi a Sarah fynd i weld Cirque Du Soleil yn Auckland ac roedd yn anhygoel.
Labels: caerdydd
Dumped
5.9.07
Dwi'n dal ddim yn siwr o'r rhaglen, yn un peth mae lot fawr o bobl ar draws y byd yn unai byw ar domeni sbwriel, a mwy fyth yn byw oddi ar sbwriel pobl eraill. Ond nid yw'n gyffredin yn y byd datblygiedig, ac hefyd mae'r math a graddfa'r sbwriel rydym ni'n ei daflu yn wahanol debyg.
Mae Sarah'n tynny fy nghoes yn dweud mai Big Brother ydi o mewn lleoliad gwahanol, ond er i ambell idiot fod ar y rhaglen ac yno am yr arian, mae'r synaiad yn un reit diddordol. Dwi'n aml yn meddwl am y dyfodol (agos) ble bydd rhaid i ni feddwl eto am ei patrymau treulio. Gallwn ni ddim dal ymlaen i greu pethau o blastig a metel am byth, bydd y deunyddiau crai yn dod i ben neu'n anoddach i'w cael gyda galw uwch amdanynt. Bydd yn rhaid i ni felly ail-ddefnyddio pethau sydd gennym yn hytrach na eu taflu, ac hefyd gan y bydd ein hen sbwriel dal o gwmpas bydd rhaid i ni wynebu ymdrin â hwnnw hefyd rhwysut.
Dwi dal ychydig yn amheus o sut y bu i gymaint o bolion haearn a tarpolin wneud eu ffordd i'r domen pan oeddynt yn gorffod codi cysgod iddynt eu hunain ar y diwrnod cyntaf! Hefyd, ydi'r cynhyrchwyr yn poeni am yr amgylchedd neu'n trio creu rhaglen reality arall allan o bobl mewn sefyllfa anffodus (allwn i ddim meddwl am lefydd lawer gwaeth i fyw)?
Mae yna lot o bobl yn y sylwadau i'r erthygl Guardian uchod yn beriniadu'r sioe, ond mae nhw'n cyflwyno llawer o ystadegau digon brawychus am lefelau sbwriel mewn modd gweledol effeithiol. Efallai ei fod ychydig yn dumbed down, ond does dim gair gwell na dumb i ddisgrifio ein hagweddau ni i'r broblem sbwriel.
Gol.
Wel y diawled, sioe oedd y cwbwl yn ôl yr erthygl C4's reality rubbish dump show is exposed as a fake yn y Mail on Sunday (dwi ddim yn ei ddarllen ,wir!)
Programme-makers havev admitted that the programme was filmed on a specially created tip and that contestants were given generous food rations.
In the pre-recorded series, which will be broadcast from Sunday, one contestant even asks for food rations to be cut because the challenge is too easy.
Another has since admitted that she put on weight while taking part.
Producers of the show, dubbed Stig Brother - after the children's book Stig of the Dump - have also revealed that the "dump" was actually purpose-built 100 yards from a real landfill site and that some of the refuse on it had been sourced from other tips.
Channel 4 said that it would have been too dangerous for the contestants to live on the main landfill dump because hazardous gases and waste could have killed them.
Labels: amgylchedd, channel4, dumped
Gwobrau Blogio Cymru 2007
Newydd sylwi nad ydw i wedi blogio am Wobrau Blogio Cymru. Mae Sanddef wedi trefnu cystadleuaeth ble mae pobl yn gallu pleidleisio am eu hoff blogiau Cymreig. Dwi ddim yn ffan mawr o wobrau ag ati, ond yn sicr mae'n gyfle i gyflwyno pobl i flogiau gwahanol. Dwi'n meddwl bod croeso i unrhywun bleidleiso (neu efallai rhaid i fod yn flogiwr), ac os ydych yn pleidleisio, rhaid rhoi pleidlais i bob categori. Mae'r pleidleisio'n cau dydd Sadwrn 8fed o Fedi.Cyfeiriadur Busnes Cymraeg
4.9.07
Fe ddechreuwyd rhywbeth tebyg rhai blynyddoedd yn ôl or enw cwlwmbusnes.com, ond cafodd ei adael unwaith rhedodd y grantiau allan ac er yr holl waith da a aeth i gasglu manylion cwmniau, ni farchnatwyd y wefan o gwbwl. Dyma yw gwendid dibynnu ar y sector gyhoeddus ac chymorthdaliadu, does dim dilyniant.
Gallwch helpu hyrwyddo'r cyfeiriadur trwy flogio amdano, neu efallai byddechyn fodlon gosod y botwm isod (côd yma) ar eich blog neu wefan? Gwell fyth, os ydych yn ddyluniwr dawnus, beth am gynnig dylunio logo deiniadol i'r wefan
Pan feddyliais am y syniad o gyfeiriadur am y tro cyntaf, bues yn edrych am rai engrhiefftiau. Dyma rai yr hoffais:
The Dons Directory - Fy ffefryn, gan gefnogwyr AFC Wimbeldon
Cymuned - Rhestr cwmniau mae'r cyhoedd wedi awgrymmu i'r mudiad
TheAddCloud - Syniad gwych ond llawn sbwriel
Newydd ddod o hyd i fersiwn Cymraeg o Google Directory!
Gofiaist ti ble adawaist sylw?
Yn anffodus tydi Blogger ddim yn cynnig yr opsiwn yma, ac hefyd efallai nad ydych eisiau gwybod am pob sylw sy'n cael ei adael ar flog cyfan.
Dyma ble mae co.mments.com yn ddefnyddiol.
Gallwch gadw trac o sylwadau sydd wedi' w gadael ar ôl un chi drwy:
- dderbyn e-bost
- porthiant RSS
- neu copio côd a'i ddangos ar eich blog
Labels: co.mments.com, offer blogio
Beth yw'r ots gennyf fi am flogio...
3.9.07
Mae sawl trafodaeth am 'dranc y blogiau Cymraeg' wedi bod ar maes-e, mae'r un Blogiau Cymraeg - Blogging a Dead Horse? yn trafodaeth da. Yn ddiweddar postiodd Alwyn (sy hefyd yn cadw blog Saesneg) am ei rwystredigaeth bod cynllied yn darllen ac yn gadael sylwadau ar ei flog Cymraeg o gymharu â'i flog Saesneg. Dywed mai mond rhyw 20 sy'n ymweld â'i flog Cymraeg yn ddyddiol a bod 200 yn ymweld â'r un Saesneg. Awgrymai Alwyn dylid gwneud rhywbeth tebyg i Blogpower, ble mae pob aelod yn 'gaddo':
Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd
Postio sylw er cynnal trafodaeth
Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.
Traws ymateb mewn pystRhaid mi ddweud, dwi'n ceisio gwneud yr uchod beth bynnag, ond yn y pen draw dwi ond am adael sylw a chyfeirio ar gofnod rhywun arall ar y blog yma os ydi'r cynnwys o ddiddordeb i mi. Yn y sylwadau mae Aran (sydd newydd ddechrau blog o'r enw Mwypwy) yn codi'r pwynt bod y Blogiadur yn cael tua 300 o ymwelwyr pob dydd, felly mewn gwirionedd mae llawer mwy yn darllen cofnodion ar flogiau Cymraeg, ond efallai ddim yn ymweld a nhw'n uniongyrchol. Er mwyn codi calon y blogwyr Cymraeg, dyma graff yn dangos faint o bobl ymwelodd â'r Blogiadur ar gyfartaledd pob dydd yn y misoedd diwethaf:










