<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cyfeiriadur Busnes Cymraeg

4.9.07

Dwi wedi bod yn dweud ers hydoedd bod angen cyfeiriadur busnes ar-lein ble gall rhywun ddod o hyd i fusnesau sy'n cynnig gwasanaeth Cymraeg. yn wahanol i fi mae Dewi yn gwenud yn hytrach na deud, a dyma fo'n sefydlu llearywe.com (gyda chymorth caredig eraill) o fewn dyddiau i ni sgwrsio am y peth.

Mae Dewi'n gwneud hyn yn rhannol er mwyn hyrwyddo cwmni ei hun wrth gwrs, ond hefyd mae'n credu bod modd i'r peth weithio ac efallai talu am ei hun yn y dyfodol. Un mantais gwefan o'r fath yw rhannu cost hysbysebu. Er nad oes rhaid i neb dalu i gael eu cynnwys ar hwn, petai Dewi'n gofyn am £5-£10 y pen, am flwyddyn a bod 100-200 cwmni arno, yna dyna i chi gyllid hysbysebu sylweddol iawn, ac yn lle bod un cwmni'n talu lot am un hysbyseb, byddai cael hysbyseb rheoliadd i'r cyfeiriadur (ar wefannau eraill neu mewn print) yn fwy buddiol.

Fe ddechreuwyd rhywbeth tebyg rhai blynyddoedd yn ôl or enw cwlwmbusnes.com, ond cafodd ei adael unwaith rhedodd y grantiau allan ac er yr holl waith da a aeth i gasglu manylion cwmniau, ni farchnatwyd y wefan o gwbwl. Dyma yw gwendid dibynnu ar y sector gyhoeddus ac chymorthdaliadu, does dim dilyniant.

Gallwch helpu hyrwyddo'r cyfeiriadur trwy flogio amdano, neu efallai byddechyn fodlon gosod y botwm isod (côd yma) ar eich blog neu wefan? Gwell fyth, os ydych yn ddyluniwr dawnus, beth am gynnig dylunio logo deiniadol i'r wefan
Cyfeiriadur Cymraeg
Pan feddyliais am y syniad o gyfeiriadur am y tro cyntaf, bues yn edrych am rai engrhiefftiau. Dyma rai yr hoffais:

The Dons Directory - Fy ffefryn, gan gefnogwyr AFC Wimbeldon
Cymuned - Rhestr cwmniau mae'r cyhoedd wedi awgrymmu i'r mudiad
TheAddCloud - Syniad gwych ond llawn sbwriel

Newydd ddod o hyd i fersiwn Cymraeg o Google Directory!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:31 pm

0 sylw:

Gadawa sylw