<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Beth yw'r ots gennyf fi am flogio...

3.9.07

Er dechrau blogio (nol yn Nhachwedd 2004) mae amryw o flogwyr Cymraeg wedi rhoi'r ffidil yn y to am amryw o resymau. Gall dyfodiad pethau fel Facebook hefyd hefyd wedi glygu bod pobl yn treulio eu hamser yn gwneud pethau gwahanol tra e bod ar lein. Mae amryw yn rhagweld plateau effect ble bydd y mwyafrif o fobl sy'n debygol o fod â blog wedi dechrau un erbyn hyn. Mae ysgogiad pawb i ddecharua blog yn mynd i amrywio, ond yn y bôn, mae'n deg dweud bod pobl sy'n cynnal blog yn dymuno i eraill ei darllen, a gwell fyth gadael sylw ar eu blog yn ymwneud a'r cofnod.

Mae sawl trafodaeth am 'dranc y blogiau Cymraeg' wedi bod ar maes-e, mae'r un Blogiau Cymraeg - Blogging a Dead Horse? yn trafodaeth da. Yn ddiweddar postiodd Alwyn (sy hefyd yn cadw blog Saesneg) am ei rwystredigaeth bod cynllied yn darllen ac yn gadael sylwadau ar ei flog Cymraeg o gymharu â'i flog Saesneg. Dywed mai mond rhyw 20 sy'n ymweld â'i flog Cymraeg yn ddyddiol a bod 200 yn ymweld â'r un Saesneg. Awgrymai Alwyn dylid gwneud rhywbeth tebyg i Blogpower, ble mae pob aelod yn 'gaddo':
Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd
Postio sylw er cynnal trafodaeth
Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.
Traws ymateb mewn pyst
Rhaid mi ddweud, dwi'n ceisio gwneud yr uchod beth bynnag, ond yn y pen draw dwi ond am adael sylw a chyfeirio ar gofnod rhywun arall ar y blog yma os ydi'r cynnwys o ddiddordeb i mi. Yn y sylwadau mae Aran (sydd newydd ddechrau blog o'r enw Mwypwy) yn codi'r pwynt bod y Blogiadur yn cael tua 300 o ymwelwyr pob dydd, felly mewn gwirionedd mae llawer mwy yn darllen cofnodion ar flogiau Cymraeg, ond efallai ddim yn ymweld a nhw'n uniongyrchol. Er mwyn codi calon y blogwyr Cymraeg, dyma graff yn dangos faint o bobl ymwelodd â'r Blogiadur ar gyfartaledd pob dydd yn y misoedd diwethaf:



Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:23 pm

7 sylw:

Dwi wedi ystyried blogio yn Saesneg, yn bennaf er mwyn cynyddu'r gynulleidfa, a dwi'n sgrifennu'n lot rhwyddach (a mwy diddorol i ddarllenwyr falle) yn saesneg.

Y broblem gyda blogio yn Gymraeg yw fod safbwyntiau pawb yn weddol debyg. Un ffordd o gael llawer o sylw a sylwadau yw postio barn sy'n ddadleuol (fel mae'r HRF yn gwneud weithiau, nid yn fwriadol efallai). Mae rhan fwyaf y blogwyr Cymraeg reit debyg o ran oedran, barn a meddylfryd felly does dim llawer o ymatebion i safbwyntiau gwahanol.

Allwn ni ddim cwyno - 10 mlynedd yn ôl, roedd Cymry Cymraeg yn 'rhannu' y llefydd trafod gyda'r di-Gymraeg neu saeson (ar Usenet/rhestrau trafod ac ati), felly roedd hanner yr amser yn cael eu dreulio yn dadle am y 'cwestiwn iaith', yn hytrach na datblygu'r defnydd o'r Gymraeg fel ffurf o fynegiant i drafod unrhyw bwnc.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 5:54 pm  

Diolch am yr uchod ...calonogol iawn!Fel blogiwr weddol newydd [ ers mis Mawrth], dwi'n hapus iawn yn blogio pan fedrai , a derbyn ymateb rwan ac yn y man.
Yn sicr mae'r sefyllfa blogio Cymraeg yn reit brysur o gymharu a thair blynedd yn ôl , a blogiau newydd yn cael eu dechrau yn wythnosol , neu hen rhai yn cael eu hatgyfodi.
Mae'n braf gweld eraill y tu allan i Gymru yn blogio yn y Gymraeg , hefyd y dysgwyr.
Dim ond un gwyn sydd gen i, does 'na ddim digon o ferched yn blogio!
sylw gan Blogger Linda, 9:41 pm  

Wedi meddwl ychydig yn fwy amdani, dw i'n gweld rhywbeth fel Blogpower mymryn yn artiffisial (sydd ddim o reidrwydd yn beth drwg).

Yn y pen draw, y peth pwysig ydy mynegiant Cymraeg, dim blogiau fel y cyfryw - i mi, dydy'r cwestiwn am rywbeth fel Facebook ddim os ydy o'n tynnu pobl oddi ar flogio, ond os ydy'r pobl yna wedyn yn llai debyg i fynegu eu hunain yn y Gymraeg.

Un o'r pethau dwi'n licio am flogiau ydy bod modd tynnu nhw at ei gilydd mewn ffordd ystyrlon - boed trwy Bloglines neu'r Blogiadur ayyb.

Dw i wedi siarad efo un neu ddau o fusnesau sydd yn fodlon talu am hysbysebion i'r Blogiadur os byddant yn cael eu hyrwyddo ar y wefan, a dw i'n bwriadu trio gwneud rhywbeth efo hynny pan ga i'r amser. Er nad yw'r cynulleidfa yn hollbwysig, yn fy marn i, mae'n amlwg y byddai cynulleidfa fwy yn annog mwy o bobl i gychwyn/ddal ati.

A dyna beth, yn y pen draw, bydd yn sicrhau'r croesdoriad o farn ac arddull byddai'n gwneud blogiau Cymraeg yn debycach i lwyddo yn y tymor hir.

Mae'n bechod cyn lleied o'n gwleidyddion Cymraeg sy'n blogio yn y Gymraeg (yn hytrach nag yn Saesneg neu'n ddwyieithog). Dw i ddim yn ymwybodol o neb - felly byddai unrhyw un oedd yn ei wneud yn sefyll allan ar y Blogiadur yn arw iawn!...:-)
sylw gan Blogger Aran, 7:25 am  

@Dafydd

Ie rydym fel Cymry Cymraeg yn tueddol i fod gyda safbwyntiau tebyg iawn ar sawl pwnc fel gwleidyddiaeth a iaith ayyb, felly mae ychydig fel 'preaching to the converted', er mae mantais i hyn hefyd, gan bod ambell flogiwr Cymraeg wedi rhoi dolenni at artist mewn iaith arall, neu wedi fy nghyfeirio at stori am ymgyrch iaith dramor sydd o ddiddordeb i mi. Felly er cyn lleied o fobl sy'n blogio'n Gymraeg, mae nhw'n fwy tebygol o flogio am rhywbeth mae gynnai ddiddordeb yno.

@Linda

Mae'n neis iawn darllen blogiau Cymraeg o dramor neu gan ddysgwyr gan bod eu cynnys a gogwydd yn fwy tebygol o fod yn wahanol i'r blog Cymraeg 'cyffredin'. Ydi mae'n rhyfedd fel bod cyn leied o ferched yn blogio, ydi'r % run fath mewn ieithiedd eraill tybed?

@Aran

Cytuno mae pwysicach bod Cymraeg yn cael ei defnyddio yn hyrtach na sut mae'n cael ei ddefnydio.

O ran hysbysebu, wyt ti wedi ystyried GoogleAds ar blogiadur a blogcymru? Nid yn unig fydd ti'n gallu cael tipyn (bach iawn!) o arian, ond byddai hefyd yn dangos i gwmniau eraill sut gwmniau sy'n hysbysebu.

Dwi, Sanddef, Chris Cope a Mei wedi gosod hysbysebion Google ar ein blogiau. Gan mai mond ambell gwmni Cymraeg sy'n defnyddio GoogleAds hyd yma, ac felly mae hysbysebion:
- jobs-cymraeg
- safleswyddi
- learn Welsh with ACEN
- cwmni TG Vincit [sll?]
- ambell dafarn gyda enw Cymraeg
yn monoploeiddio'r sustem hyd yma!

Dwi'n gwybod byddet yn erbyn y syniad o leinio pocedi Google ymhellach, a byddai cael cwmniau'n talu ti'n uniongyrchol yn neud lot mwy o synnywr, ond beth am ei drio fel arbrawf?
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:44 am  

Syniad diddorol (dw i'n tueddu i glicio ar GoogleAds lle dwi'n eu gweld nhw ar flogiau Cymraeg, yn llwyr yn erbyn ysbryd y peth, ond ta waeth!)... wna i feddwl amdano fo.

Ond beth dwi'n gobeithio hyd yn hyn ydy i gael cwmniau i dalu'n uniongyrchol i'r papurau maent yn dewis hysbysebu'r Blogiadur ynddyn nhw - llai o amser i mi, a dim cymhlethu pethau wrth i mi orfod delio gyda pres.

Dw i ddim isio gwneud pres allan o'r Blogiadur - fyddai hynny ddim yn iawn, rhywsut - jesd isio sicrhau bod y peth yn cael ei hyrwyddo'n fwy er mwyn annog mwy o bobl i flogio...:-)
sylw gan Blogger Aran, 10:19 am  

Dw i ddim isio gwneud pres allan o'r Blogiadur - fyddai hynny ddim yn iawn, rhywsut

Dwi ddim yn gweld pam na ddylet.
1. Ti'n treulio amser (ac yn talu m enw parth a llety)
2. Ti'n cynnig gwasaneth i'r dallenwyr (does dim rhaid iddynt drafferthu ymweld â'r holl flogiau'n unigol, neu agro cyfrif bloglines)
3. Ti'n darparu darllenwyr i'r Blogiwr Cymraeg druan.

Does dim o'i le ar 'wneud arian' o'r peth. Dwyt ti ddim yn camddefnyddio cynnwys blogiau, a fyddai ti ddim yn amddifadu pobl eraill o unrhyw incwm (dim ots pa mor bitw). Ond yn bwysicach fydd byddet yn dangos bod potential a gwerthi gwmniau hysbysebu'n uniongyrhol i gynulleidaf Cymraeg, a bod modd gwnud hyn heb dalu am hysbyseb cyn Pobl yCwm neu cael stondin yn steddfod.

Mae'r baneri hysbysebu maes-e wedi bod yn reit llwyddiannus (ok dyw Nic heb allu ymddeol eto), ond tydi Nic heb ei farchnata'n ddifrifol eto dwi ddim yn meddwl. Yn ogystal a'r cwmniau records a chrysau T, byddai'n braf petai cwmniau fel BT, HSBC a Principality, sy'n cynngiggwasaneth Cymraeg go lew yn ei ddefnyddio. Gallet ti hefyd osod y baner hysbysebu maes-e ar dy flog di (a chael 2.5c y clic gan Nic!)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:38 am  

Ia, mae gen ti bwyntiau teilwng - yr unig peth ydy, dw i ddim yn rhoi cymaint â hynny o amser i fewn i'r Blogiadur, ac mae cwmnicymraeg.com yn talu am y gweinydd a'r enw parth...:-)

Ar ran y pethau eraill, dwi'n gobeithio y bydd DimeGoch.com yn medru eu gwneud yn well na'r Blogiadur - ond mi fyddaf yn dilyn i fyny y busnes cael ambell un i dalu am hysbys i'r Blogiadur rhywben, dw i'n addo...;-)
sylw gan Blogger Aran, 2:56 pm  

Gadawa sylw