Cuairt Nam Blog, rhaglen deledu am flogio yn yr iaith Gaeleg
17.9.07
Gadawodd Des neges ar fy mlog yn tynnu fy sylw at raglen a gafodd ei ddarlledu ar BBC Alba nos Iau diwethaf. Enw'r rhaglen oedd Cuairt Nam Blog ac roedd am flogio a rhwydweithio cymdeithasol yn iaith Gaeleg. Mae'r rhaglen yn cyfeirio ar Tirnamblog.com, a gafodd ei greu gan Aran sydd hefyd wedi creu'r Blogiadur.