Blog 'Cymro yn y Dwyrain'
22.2.08
Heb wneud hyn ers sbel, ond mae'n hen bryd ail-gydio yn y rhestru blogiau Cymraeg newydd.
Dyma Cymro yn y Dwyrain gan Emlyn sy'n byw/gweithio yn Tseina/Sinagapore. Byddai'n yhwanegiad gwych i'r Blogiadur. Mae'n cadw sawl blog arall ble mae'n trafod technoleg, ecenomeg a 'r amgylchedd ymysg sawl peth arall. Ceisiais adael sylw, ond rhaid bob â chyfrif WordPress - dwi di cofrestru sawl tro ac wedi anghofio fy nghyfrinair pob tro, felly Emlyn, os ti'n darllen hwn, newidia'r gosodiad wir dduw, mae cael sylwadau ar flog Cymraeg ddigon prin fel mai heb sôn am osod rhwystrau!

Labels: blogiadur
Beth yw'r ots gennyf fi am flogio...
3.9.07
Er dechrau blogio (nol yn Nhachwedd 2004) mae amryw o flogwyr Cymraeg wedi rhoi'r ffidil yn y to am amryw o resymau. Gall dyfodiad pethau fel Facebook hefyd hefyd wedi glygu bod pobl yn treulio eu hamser yn gwneud pethau gwahanol tra e bod ar lein. Mae amryw yn rhagweld plateau effect ble bydd y mwyafrif o fobl sy'n debygol o fod â blog wedi dechrau un erbyn hyn. Mae ysgogiad pawb i ddecharua blog yn mynd i amrywio, ond yn y bôn, mae'n deg dweud bod pobl sy'n cynnal blog yn dymuno i eraill ei darllen, a gwell fyth gadael sylw ar eu blog yn ymwneud a'r cofnod.
Mae sawl trafodaeth am 'dranc y blogiau Cymraeg' wedi bod ar maes-e, mae'r un Blogiau Cymraeg - Blogging a Dead Horse? yn trafodaeth da. Yn ddiweddar postiodd Alwyn (sy hefyd yn cadw blog Saesneg) am ei rwystredigaeth bod cynllied yn darllen ac yn gadael sylwadau ar ei flog Cymraeg o gymharu â'i flog Saesneg. Dywed mai mond rhyw 20 sy'n ymweld â'i flog Cymraeg yn ddyddiol a bod 200 yn ymweld â'r un Saesneg. Awgrymai Alwyn dylid gwneud rhywbeth tebyg i Blogpower, ble mae pob aelod yn 'gaddo':

Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd
Postio sylw er cynnal trafodaeth
Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.
Traws ymateb mewn pystRhaid mi ddweud, dwi'n ceisio gwneud yr uchod beth bynnag, ond yn y pen draw dwi ond am adael sylw a chyfeirio ar gofnod rhywun arall ar y blog yma os ydi'r cynnwys o ddiddordeb i mi. Yn y sylwadau mae Aran (sydd newydd ddechrau blog o'r enw Mwypwy) yn codi'r pwynt bod y Blogiadur yn cael tua 300 o ymwelwyr pob dydd, felly mewn gwirionedd mae llawer mwy yn darllen cofnodion ar flogiau Cymraeg, ond efallai ddim yn ymweld a nhw'n uniongyrchol. Er mwyn codi calon y blogwyr Cymraeg, dyma graff yn dangos faint o bobl ymwelodd â'r Blogiadur ar gyfartaledd pob dydd yn y misoedd diwethaf: