<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dumped

5.9.07

Oes rhywun yn gwylio'r rhaglen Dumped ar Channel 4? Dwi wedi ei wylio am y 3 noson diwethaf, er i'r rhaglen gyntaf fynd ar fy nerfau gan dreulio hanner y rhaglen awr yn ail-adrodd eu taith bws i'r blydi domen. Yn amlwg roedd llawer o'r grŵp yn meddwl eu bod yn mynd i ryw leoliad egsotig dramor.

Dwi'n dal ddim yn siwr o'r rhaglen, yn un peth mae lot fawr o bobl ar draws y byd yn unai byw ar domeni sbwriel, a mwy fyth yn byw oddi ar sbwriel pobl eraill. Ond nid yw'n gyffredin yn y byd datblygiedig, ac hefyd mae'r math a graddfa'r sbwriel rydym ni'n ei daflu yn wahanol debyg.

Mae Sarah'n tynny fy nghoes yn dweud mai Big Brother ydi o mewn lleoliad gwahanol, ond er i ambell idiot fod ar y rhaglen ac yno am yr arian, mae'r synaiad yn un reit diddordol. Dwi'n aml yn meddwl am y dyfodol (agos) ble bydd rhaid i ni feddwl eto am ei patrymau treulio. Gallwn ni ddim dal ymlaen i greu pethau o blastig a metel am byth, bydd y deunyddiau crai yn dod i ben neu'n anoddach i'w cael gyda galw uwch amdanynt. Bydd yn rhaid i ni felly ail-ddefnyddio pethau sydd gennym yn hytrach na eu taflu, ac hefyd gan y bydd ein hen sbwriel dal o gwmpas bydd rhaid i ni wynebu ymdrin â hwnnw hefyd rhwysut.

Dwi dal ychydig yn amheus o sut y bu i gymaint o bolion haearn a tarpolin wneud eu ffordd i'r domen pan oeddynt yn gorffod codi cysgod iddynt eu hunain ar y diwrnod cyntaf! Hefyd, ydi'r cynhyrchwyr yn poeni am yr amgylchedd neu'n trio creu rhaglen reality arall allan o bobl mewn sefyllfa anffodus (allwn i ddim meddwl am lefydd lawer gwaeth i fyw)?

Mae yna lot o bobl yn y sylwadau i'r erthygl Guardian uchod yn beriniadu'r sioe, ond mae nhw'n cyflwyno llawer o ystadegau digon brawychus am lefelau sbwriel mewn modd gweledol effeithiol. Efallai ei fod ychydig yn dumbed down, ond does dim gair gwell na dumb i ddisgrifio ein hagweddau ni i'r broblem sbwriel.


Gol.
Wel y diawled, sioe oedd y cwbwl yn ôl yr erthygl C4's reality rubbish dump show is exposed as a fake yn y Mail on Sunday (dwi ddim yn ei ddarllen ,wir!)

Programme-makers havev admitted that the programme was filmed on a specially created tip and that contestants were given generous food rations.

In the pre-recorded series, which will be broadcast from Sunday, one contestant even asks for food rations to be cut because the challenge is too easy.

Another has since admitted that she put on weight while taking part.

Producers of the show, dubbed Stig Brother - after the children's book Stig of the Dump - have also revealed that the "dump" was actually purpose-built 100 yards from a real landfill site and that some of the refuse on it had been sourced from other tips.

Channel 4 said that it would have been too dangerous for the contestants to live on the main landfill dump because hazardous gases and waste could have killed them.


Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:51 am

2 sylw:

Er tegwch i CH4 mi oedd y wybodaeth o'r erhtygl yn y Mail on Sunday ar wefan CH4/Dumped rhai wsnosau cyn i'r raglen cael ei darlledu ac mi wnaethon nhw esbonio hyn yn y raglen. Ond mi oeddwn i fel 'dyn bach gwyrdd' yn siomedig taw sioe reality oedd hon yn y pen draw yn hytrach na sioe werdd. Cyfle wedi ei golli unwiath yn rhagor?
Rhaid cydymfurfio a rheolau sbo, ac fe all tomen sbwiel fod yn le hynod o beryglus mewn sawl ffordd. Dwi'n rili hoffi'r syniad o bobbl yn gorfod bod yn hunan gynhaliol. Dylai pobl gael eu hel i fyw rhywle (tebyg i domen sbwiel ble mae cymysgedd o 'wastraff dyn' [sbwriel nid cachu] ond hefyd ychydig o adnoddau naturiol) a gadael iddynt am flwydyn neu ddau! Ac yn hytrach na'u gwylio nhw pob nos, cael rhyw raglen o sylwedd pob mis i weld sut hwyl mae nhw'n gael arni, ond ddim rhyw falu cachu. Yn amlwg bydd gwrthdaro a phroblemau o fewn grŵp, ond yn y dwiedd roedd o fel petai mai dyna oedd y cynhyrchwyr yn edrych am mewn gwirionedd.

Doedd 3 wythnos ddim yn ddigon i bobl ddod i arfer gyda 'rialiti(?)' sefyllfa.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:05 pm  

Gadawa sylw