<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwobrau Blogio Cymru 2007

5.9.07

Newydd sylwi nad ydw i wedi blogio am Wobrau Blogio Cymru. Mae Sanddef wedi trefnu cystadleuaeth ble mae pobl yn gallu pleidleisio am eu hoff blogiau Cymreig. Dwi ddim yn ffan mawr o wobrau ag ati, ond yn sicr mae'n gyfle i gyflwyno pobl i flogiau gwahanol. Dwi'n meddwl bod croeso i unrhywun bleidleiso (neu efallai rhaid i fod yn flogiwr), ac os ydych yn pleidleisio, rhaid rhoi pleidlais i bob categori. Mae'r pleidleisio'n cau dydd Sadwrn 8fed o Fedi.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:54 am

2 sylw:

Peth dwi ddim yn hoffi am hyn yw bod rhaid pleidleisio ym mhob un categori. Os wyt ti'n meddwl am hyn, mae'n golygu taw unig pobl a allai bleidleisio yw'r hynny a ddarllen y blogiau hyn i gyd yn barod, sef blogwyr sy'n siarad Saesneg a Chymraeg a sy'n darllen y 38 blog hyn. Dwi ddim yn darllen y blogiau i gyd 'na, felly ni phleidleisiais. Dweud gwir, mae gennyf syndod bod yna 15 person sy'n ffitio'r diffiniad er mwyn pleidleisio tros fi ar gyfer Best Welsh American Blog.

Er, bod yn onest, nid ydw i'n Welsh American, neu Welsh-American, neu American Welsh neu American-Welsh...

Dyna'r broblem gyda cheisio rhoi pobl i mewn categori, on'd yw hi?
sylw gan Blogger Chris Cope, 6:23 pm  

Ie, does dim lot o bwynt gorfodi pobl i bleidleisio am flogiau nad ydynt yn eu darllen. Hefyd gelli'r dadlau ei fod yn rhoi blogiau Cymraeg eu hiaith dan anfantais, os yw 2/3 o'r blogiau mewn categori yn Gymraeg, a bob pleidleisuwr di-Gymraeg ddim yn darllen dim un o'r pedwar, mae'n naturiol am fwrw pleidlais am yr unig flog mae e neu hi'n gallu ei ddeall.

Mae categoreiddio'n anodd. Mae gormod o categoriau gwleidyddol a byddai 'blog o dramor/gan dramorwr' wedi bod yn well dwi'n meddwl.

Ond mond bach o hwyl di-niwed ydi o beth bynnag.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:28 am  

Gadawa sylw