'Rwy'n Cynghorydd' (ewch a fi'n ôl i'r ysgol)
6.9.07
Ar Datblogu mae Daniel yn trafod canlyniadau holiadur [PDF] a gynhaliwyd ar stondin CMC yn ystod yr Eisteddfod eleni. Roedd un o'r cwestiynnau'n gofyn os yw pobl yn darllen y tudalennau Cymraeg ar safleodd dwyieithog. Dyma'r ymatebion:
66% Pob troDdoe dois ar draws gwefan I'm a Councillor (get me out of here), prosiect i addysgu plant am y broses ddemocrataidd. Byddai Dafydd yn cael ffit. I ddechrau mae'r cyrchu'n sâl, nid yw pob tudalen ar gael yn Gymraeg, ond safon y Gymraeg sy'n ddychrynllyd. Beth sy'n ei wneud yn waeth yw'r gwallau iaith, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol.
22% Weithiau
13% Dibynnu ar y darpariaeth
0% Byth(newydd sylwi mae hyn yn adio i 101%!)
Mae cyfarwyddiadau i athrawon yn Saesneg yn unig, ac yn waeth na hynny does dim adnoddau fel posteri, offer pleidleisio ayyb ar gael yn Gymraeg. Ffordd da o wneud plant i ddod i arfer a chael gwasaneth eilradd yn Gymraeg wrth ddelio â'g awdurdodau lleol yng Nghymru.Mewnlofnodi yng Nghymraeg
Diolch am ymweld! Yn anffodus, mae Rwy’n Cynghorydd wedi gorffen am 2006. Diolch I bawb a wnaeth cymrud rhan am gwneud hyn ein flwyddyn mwyaf llwyddianus erioed. Gobeithio wnaeth chi mwynhau yn cystal a ni!
Yn yr un modd dwi'n cael fy siomi wrth ymweld âg ysgolion ar brosiectau busnes drwy gynllun Menter yr Ifanc a darganfod eto mai yn Saesneg yn unig mae popeth, eto yn atgyfnerthu'r neges mai saeseng yw iaith busnes.