Gofiaist ti ble adawaist sylw?
4.9.07
Weithiau dwi'n gadael sylw ar flog, a hoffwn wybod os bu ymateb i'r sylw. Yn hyrach na mynd nol ac ymlaen i'r blog, mae ambell flog yn cynnig porthiant RSS i sylwadau'r cofnod arbennig hwnnw, neu holl sylwadau'r blog. (Dwi wedi tanysgrifio i borthiant cofnodion a sylwadau Datblogu er engrhaiff - sydd wedi newid URL ei borthiant gyda llaw).
Yn anffodus tydi Blogger ddim yn cynnig yr opsiwn yma, ac hefyd efallai nad ydych eisiau gwybod am pob sylw sy'n cael ei adael ar flog cyfan.
Yn anffodus tydi Blogger ddim yn cynnig yr opsiwn yma, ac hefyd efallai nad ydych eisiau gwybod am pob sylw sy'n cael ei adael ar flog cyfan.
Dyma ble mae co.mments.com yn ddefnyddiol.
Gallwch gadw trac o sylwadau sydd wedi' w gadael ar ôl un chi drwy:
- dderbyn e-bost
- porthiant RSS
- neu copio côd a'i ddangos ar eich blog
Labels: co.mments.com, offer blogio
7 sylw:
sylw gan Aran, 10:33 am
Diolch am hyn RHys, arborfi gyda fe nawr.
Doeddwn ddim wedi bwriadu cael fy sylwadau i ymddangos ar fy mlog, ond wedi i mi geisio gwneud rwan, dio ddim yn gweithio i mi chwaith am ryw reswm. Mae yn gweithio rhywsut, mae'n rhiad, achos dois ar ei draws drwy'r blog yma (ail beth yn y colofn chwith).
Dwi ddim am dreulio amser yn poeni am hynny. Dwi'n darllen y sylwadau drwy bloglines ac mae wedi gweithio reit da hyd yma (ers pythefnos). Ti hefyd yn medru llusgo botwm at dy borwr i'w nwneud yn haws dewis cofnod.

Ie, dw i'n neud hynny, ond yn cael hysbys trwy ebost yn lle tracio trwy bloglines. Dw i ddim eisiau mwy o stwff ar y blog - dw i'n defnyddio dy flog di fel blogroll erbyn hyn ;-)
Hmmm... mae'r holl fusnes blogio 'ma'n newydd i mi, a dw i'n licio'r syniad o gael pethe ar fy mlog i'w gweld heb orfod mynd i nunlle arall.
Diogrwydd sydd wrth wraidd pob datblygiad o werth yn y byd 'ma...;-)
Diogrwydd sydd wrth wraidd pob datblygiad o werth yn y byd 'ma...;-)
Diolch, bydd hynny'n ddefnyddiol. Dw i wedi sylwi bod rhywbeth fel hynny ar Flickr--os dych chi'n aelod o'r wefan, dych chi'n gallu tseco os gadawodd rhywun ymateb ar ol i chi gadael sylw ar lun.
Dw i'n anobeithiol gyda tseco'n ol ar ol wedi gadael sylw rhywle. Fel arfer dw i ddim yn mynd yn ol...
Dw i'n anobeithiol gyda tseco'n ol ar ol wedi gadael sylw rhywle. Fel arfer dw i ddim yn mynd yn ol...
Ie, dwi'n defnyddi'r opsiwn yna ar Flickr hefyd, defnyddiol iawn.
Methu cael y peth tracking i weithio ar fy mlog - os ti'n cael unrhyw lwyddiant efo hynny, gad i mi wybod...:-)