<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



"Dwi eisiau bod yn Wyddel"

24.9.07

Cefais benwythnos llawn cerddoriaeth. Neithwr bues i'r Coed Duon i weld Euros Childs, oedd yn ardderchog fel arfer ac yn ei gefnogi oedd y Threatmantics, band nad oeddwn wedi clywed yn fyw o'r blaen ond oedd yn wych - dwi'n edrych ymlaen i'w gweld eto.
Ar y nos sadwrn es i Glwb y Bont, yn bennaf er mwyn osgoi bod yn y tŷ pan fyddai Sarah a'i ffrindiau'n dychwelyd o'i 'Noson Iâr' (oes gair Cymraeg am Hen Night?). Dwi'n falch iawn i mi fynd, nid er mayn osgoi ffrindiau Sara (jôc oedd hynny!), ond oherwydd i mi weld perfformiad anhygoel o gerddoriaeth traddodiadol Cymraeg. Ar nôs Fercher olaf pob mis mae Clwb Gwerin yn cael ei gynnal yng Nghlwb y Bont ble mae cerddorion lleol yn cwrdd i ymarfer a pherfformio. Roedd nôs Sadwrn yn rhyw fath o showcase. Derbyniais e-bost gyda'r leinyp:
alex coxhead a brilliant guitarist and singer who performs his own versions of traditional folk in a contemporary style as well as his own compositions.
dave and kath trio great crowd pleasing songs with heartwarming harmonies.
ianto fullpelt a father and son act fusing their influences to produce infectious original material
bethan nia and helina rees innovative traditional welsh music. beautiful celtic harp, fiddle and voice.

pendragon celtic folk from ireland and wales to get you dancing
Cyn mynd, roeddwn yn edrych ymalen fwyaf i weld pwy ddiawl oedd Ianto Ffullpelt - am enw gwych! Roedd yn gawr o ddyn yn ei 50 hwyr/60 cynnar gyda llond pen o wallt arain wedi'w blethu lawr ei gefn, ac yn chwarae caneuon gwreiddiol gwladgarol (yn gwyro ychydig at y sentimental) ond roedd yn dda. Ennillais ei CD yn y raffl :-)
Uchafbwynt y noson oedd Bethan Nia (telyn Celtaidd) a Helina Rees (ffidil). Dwi'n meddwl mai mond yn ddiweddar mae nhw wedi dechrau chwarae a'u gilydd ond roedd y swn yn wych. Dwi'n bendant yn mynd i'w gwahodd i berfformio yng Nghaerffili. Doeddwn heb glywed amdanynt o'r blaen, ond mae nhw ganwaith gwell na lot o berfformwyr traddodiadol Cymraeg eraill dwi di glywed. Gallwch glywed rhai o ganweon o EP Bethan yma (tydi nhw ddim cwet cystal a'i chlywed yn fyw gyda Helina). Dwi'n meddwl eu bod yn recordio albwm gyda'i gilydd yn fuan. Heb os, nhw oedd ffefryn y gynulleidfa.
Band ola'r noson oedd Pendragon. Roedden nhw'n dda iawn hefyd yn chwarae caneuon 'tafarn' Gwyddelig ac un neu ddau gwreiddiol dwi'n credu on mewn arddull Gwyddelig. Tra gwnes i eu mwynhau, gwnaeth i mi feddwl fel bod cymaint o bobl yng Nghymru (a gweddill y byd o ran hynny) wrth eu boddau â cherddoriaeth o'r Iwerddon, ond ychydig iawn sy'n gyfarwydd a, ac yn chwarae cerddoireth Cymraeg. Gall fod yn rhywbeth i wneud â'r iaith, ond hyd y gwyddwn i does dim caneuon 'yfed' Cymreig wedi eu cyfansoddi'n Saeseng fel sydd yna yn Iwerddon.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:24 am

1 sylw:

Hen Night = Parti Plu

Weles i'r Threatmantics yn Sesiwn Fawr - gwychder yn wir.
sylw gan Blogger Nwdls, 10:57 am  

Gadawa sylw