Dysgu Cymraeg yng Ngwent
28.7.07
Gan bod gwersi arferol wedi dod i ben, does dim cyfle i mi eistedd mewn dosbarth i arsylwi, ond yn ffodus iawn bu ysgol haf yng Nghanolfan Yr Hill wythnos diwethaf ac fe gês gyfle i eitedd mewn dau ddosbarth, un i ddechreuwyr pur ac un i fyfyrwyr oedd eisioes wedi treulio blyddyn yn dysgu.
Roedd dosbarthiadau ar gyfer 7 lefel gwahanol ar gael, ac mae Cyrsiau Haf ac Ysgolion Undydd yn hynod boblogaidd. Eleni roedd y lle'n llawn dop gyda 164 o bobl yn mynychu - doedd dim lle i fwy. Darganfyddais wedyn bod 140 o bobl wedi cael eu troi i ffwrdd sy'n biti ofnadwy. Y gobaith yw flwyddyn newsaf cynnig 2 wythnos er mwyn gallu cynnig lle i bawb. Yn aml fe glywch pobl yn dweud nad oes gan pobl Gwent diddordeb yn yr iaith , ond heblaw am ferch ifanc o'r Iseldiroedd oedd ar ei hail flwyddyn a Ffrances yn y dosbarth dechreuwyr, pobl lleol oedd y gweddill i gyd.
Yn ystod ein sesiynnau hyfforddi mae trefnwyr y gwahanol fathau o gyrsiau
- cyrsiau arferol mewn canolfannau cymunedol
- Cymraeg i rieni
- Cymraeg yn y gweithle
- WLPAN
- dwi'n teimlo mai'r myfyrwyr mwyaf penderfynnol fydd ar y cwrs gan eu bod yn ymrwymo eu hunain i fynychu gwersi sawl gwaith yr wythnos
- myfyrwyr yn debygol o ddysgu mwy o bethau'n gynt ac felly'n llai tebygol o ddigalonni fel dwi'n gweld rhai ar gyrsiau arferol yn gwenud
- mae mwy o bwyslais ar siarad a llai a'r ramadeg
Cawn weld beth ddigwyddith yn mis Medi!
Defnyddio Wikipedia i bardduo enw'r Blaid
23.7.07
Darllenais sylw ar flog Vaughan Roderick am anturiaethau un cyfranwr o'r enw normalmouth sydd wedi bod
yn addasu erthygl Plaid Cymru, er mwyn sicrhau bod y geiriau 'fascist' ac 'anti-semitic' yn ymddangos yn yr erthygl.Mae hefyd wedi dileu unrhyw gyfeiriadau at 'sosialaeth' a 'pasiffistiaeth' o'r erthygl. Mae llawer iawn o ddefnyddwyr eraill wedi anghytuno a'i newidiadau ar dudalen sgwrs yr erthygl (yma, yma, yma, yma ac yma)!, ond wedi ambell aileiriad mae normalmouth yn benderfynol o adael y frawddeg canlynol mewn yn yr adran am hanes y blaid:
While Plaid Cymru did not espouse fascist or anti-semitic policies, the alleged sympathetic views of its leading members (including President Saunders Lewis) towards Europe's totalitarian regimes compromised its early appeal further.Roedd sawl gwleidydd o bob lliw gwleidyddol gyda agwedd digon rhyfedd tuag at Hitler cyn y rhyfel, ac hefyd, damcanaieth yn unig yw mai oherwydd bod pobl yn gweld Saunders Lewis (ar arweinyddion amlwg eraill?) fel rhywun gwrth semitaidd y bu i Blaid Cymru beidio gwneud yn well yn yr etholiadau. Dwi wrthi'n darllen Gwynfor: Rhag Pob Brad, ac ynddo mae sôn am wrthwynebwyr Saunders Lewis yn gwneud yn fawr o'r ffaith ei fod yn Babydd er mwyn dychryn pleidleiswyr yn ystod un etholiad penodol - efallai ar y pryd roedd bod yn Babydd yn beth mwy dychrynllyd na bo yn Ffasgydd! Mae sawl rheswm arall y gellir eu rhoi mae'n siwr, personoliaeth yr ymgeiswyr, diffyg arian i ymgyrchu, amharodrwydd y cyfryngau i roi cyhoeddurwydd teg.......
Nid yw defnydd fel hyn o'r wê gan rhai aelodau (a staff?) o'r Blaid Lafur yn beth newydd, dylent ddysgu erbyn hyn pa mor wirion, plentynaidd a desperate mae nhw'n gwneud i'w plaid ymddangos.
Er mwyn eich difyrwch, dyma gymharu newidiadau gan ddefnyddiwr di-enw yn defnyddio'r cyfeiriad IP 81.109.150.197:
-Moliant i Leighton Andrews
-Lladd ar David Jones (AS Gorllewin Clwyd)
-a tydi o ddim yn o'r hoff o'r Welsh Language chwaith!
Most people in Wales, except for the language facists think Welsh is an irrelevent and devisive language that should be abolished.Uffern o foi clyfar, pwy bynnag ydi o. Ond yn y pen draw mae'r holl beth yn ddibwynt gan bod rhywun yn mynd i ddod heibio a'i dacluso, gan geisio danogos NPOV. Fel ddigwyddodd i erthygl yr AS hoffus Chris Bryant. Roedd gorffen gyda "Contact: 01443 687697" ychydig bach o giveaway!
Labels: llafur, plaid cymru, wikipedia
Yr ategolyn (App) cyntaf yn Gymraeg ar gyfer Facebook
19.7.07
Dwi di bod yn ymwybodll o fodolaeth Facebook ers cryn amser ac wedi bod yn derbyn e-byst yn fy ngwahodd i agor cyfrif. Er bod gennyf rhyw syniad o beth oedd fel, roeddwn yn gwrthod y ceisiadau am mod i'n casau gwefannau ble na allwch weld be mae amdan nes i chi gofrestru - eu colled nhw meddyliais i! Roeddwn wedi agor cyfrif MySpace ers sbel, eto dim ond er myn gallu gadael sylwadau ac mae'r peth yn erchyll (ond gwych ar gyfer bandiau dwi'n cyfaddef).
Dwi wedi bod yn mynychu rhai cyfarfodydd Swyddogion Ieuenctid Mentrau Iaith rhanbarth y de ddwyrain ac roedd ambell un yn crybwyll agor cyfrif MySpace neu Bebo i hyrwyddo eu clybiau C.I.C.. A wedi siarad a ffrind oedd wedi gwirioni â Facebook, dyma fi'n dechrau meddwl byddai Facebook neu MySpace yn ddefnyddiol i Fenter Iaith Caerffili gyrraedd y grŵp 18-30 (grŵp oedran dwi'n brysur nesau at adael)
Un peth oedd fy mhoeni wedi i mi ymuno â Facebook oedd nad oeddwn yn hoffi gofyn i bobl fod yn ffrinidau â mi - dwi ddim y person mwy outgoing a chymdeithasol yn y byd go iawn. Roeddwn yn teimlo fel fy mod i'n bod yn needy, ond wrth gwrs holl bwynt y wefan yw gwneud cysylltiadau â'ch ffrindiau ac efallai pobl newydd sy'n rhannu eich diddordebau.
| Pethau da | Pethau gwael |
| Pa mor rhwydd yw dod o hyd i bobl, trwy chwilio yn ôl enw, lleoliad, gweithle, trwy ffrindiau eraill ayyb Rhyngwyneb glân sy’n hawdd i’w ddefnyddio Mae’n viral (a all fod yn beth drwg wrth gwrs) Yn wahanol i sawl gwefan, chi'n gallu dewis Wales fel eich gwlad | Y rhyngwyneb yn gaeth iawn yn enwedig y ffordd nad oes modd newid iaith - doedd cynnig ieithoedd eraill fel petai heb eriod croesi meddwl y datblygwyr Dewisiau cyfyng, yn enwedig dewis gwleidyddiaeth (e.e., does dim lle i sosialwyr!). Pan yn dewis fy hometown, dwi'n gallu dewis Wales, ond wrth greu digwyddiad, allai ddim. Ac yn waeth fyth dim ond rhai trefi sy'n cael eu cydnabod. Wrth drio hyrwyddo digwyddiadau yn yr Eisteddfod, tydi o'n cau derbyn Mold fel tref. Mae'r diweddariadau statws yn ddiflas, a sawl gwaith sy rhaid gweld llun o gôc mae Garmon wedi dynnu? Dychmygaf bod drws oergell ei fam bron a disgyn ffwrdd dan yr holl bwysau! |
Mae'n ddatblyguwr meddalwedd ac mae wedi creu ategolyn Facebook defnyddiol (oes, mae'r fath beth yn bod!) o'r enw fbfriends sy'n cymharu eich holl ffrindiau mewn tabl ag yn ddangos sawl ffrind mae pob un yn rannu gyda chi a pha rai sy'n hoffi'r un sdwff a chi. Gan fod Jason yn siaradwr Cymraeg gofynais iddo pa mor hawdd fyddai ei gyfieithu i'r Gymraeg. Hawdd medda fo, a dyna wnaeth o.
Cyfarwyddiadau
Felly os ydych wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Facebook yn barod, a bod dewis iaith eich porwr wedi ei osod fel .cy (h.y. Cymraeg*), yna cliciwch yma.
Dylai edrych fel hyn.
Diolch yn fawr Jason!
*Os nad ydych wedi newid dewis iaith eich porwr, neu ddim yn gwbod beth dwi'n sôn am, mae'n debyg bydd y tabl y ymddangos yn Saesneg. Chi angen Firefox Cymraeg.
Labels: cymraeg, facebook, firefox, lleoleiddio
Fforwm dotCYM - Dydd Iau, Gorffennaf 19. Bangor
12.7.07
Ar ddydd Iau, Gorffennaf 19 cynhelir fforwm dotCYM wedi ei drefnu a’i noddi gan ITWales a CMC. Cynhelir y digwyddiad gyda’r nos yng nghanolfan Technium CAST ar Barc Menai, Bangor.
Noddir y lleoliad a’r bwyd bwffe gan yr aelodau canlynol o CMC - ReadSpeaker, Draig Technologies, Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Meddal.com.
Bydd y fforwm yn gyfle i wybod mwy am y cais dotCYM, i glywed am gais llwyddiannus puntCAT ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol y Catalaniaid a pam a sut mae darparwyr meddalwedd Cymraeg CMC yn cefnogi’r cais.
Mae’r digwyddiad AM DDIM, ond mae angen i chi archebu’ch lle ymlaen llaw.
I archebu’ch lle ebostiwch ITWales@Informatics.bangor.ac.uk neu ewch ar-lein i www.itwales.com/events . Fel arall gallwch gysylltu â Rob neu Judith yn ITWales Bangor ar 01248 388245
1730 : Cofrestru a bwyd bys a bawd
1800 : Cyflwyniadau
(i) Sion Jobbins o dotCYM
Cynllun ar lawr gwlad yw dotCYM i geisio cael .cym wedi ei noddi fel Parth Lefel Uchaf (TLD) ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gymreig.
Y Parth .cym yw’r unig gais hyfyw a chredadwy i gynrychioli’r Gymuned Gymreig. Bydd ar gael i wefannau sydd yn y Gymraeg, yn rhannol yn y Gymraeg neu rai o ddiddordeb Cymreig ond wedi eu hysgrifennu’n Saesneg neu mewn iaith arall.
Mae dot.CYM yn addo ffordd ardderchog i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar-lein a brandio gwasanaethau a nwyddau Cymreig gyda symbol hawdd ei adnabod i’r sector TG yng Nghymru.
Siôn Jobbins yw cyd-sylfaenwr a Chadeirydd dotCYM. Mae Siôn yn gweithio yn yr adran Marchnata a Mynediad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn reolaidd ar y cyfryngau i gylchgronau Cambria a Barn ac ef oedd sylfaenydd a golygydd y cyclghrawn cyfryngau Cymraeg Ffocws. Mae Siôn wedi gweithio fel newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac fel ymchwilydd teledu a hefyd fel swyddog y wasg mewn gwahanol gyrff. Graddiodd Siôn mewn Hanes yn Aberystwyth yn 1989 ac yn 1999 ef oedd Maer y dref.
Am ragor o wybodaeth : http://www.dotcym.org
(ii) Dewi Bryn Jones o CMC
Crewyd y Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn dilyn datblygiadau cyffrous ym maes technoleg gwybodaeth a’r iaith Gymraeg. Mae’n dwyn ynghyd y rheiny sy’n cymryd rhan mewn TG drwy gyfrwng y Gymraeg o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mewn technolegau ffynhonnell agored a chaeedig.
Mae’r Gymdeithas yn annog :
· defnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o dechnoleg gwybodaeth.
· datblygu meddalwedd iaith Gymraeg gwreiddiol a thechnolegau iaith
· cyfieithu ac addasu meddalwedd o safon uchel i’r Gymraeg
· creu cynnwys o safon uchel yn yr iaith Gymraeg
· creu deunydd a chyrsiau hyfforddi mewn technoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y GymraegLansiwyd CMC yn swyddogol gan y Cynghorydd Dafydd Iwan yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau, 2005. Dymuna CMC ddiolch i Gyngor Gwynedd am noddi CMC i ddechrau.
Dewi Bryn Jones yw cadeirydd presennol CMC ac mae’n gweithio yn yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr. Mae hefyd yn aelod o Meddal.com, tîm o wirfoddolwyr sy’n lleoleiddo Firefox, Thunderbird, Opera, Mandriva Linux, OpenOffice.org a meddalwedd poblogaidd arall i’r Gymraeg. Bu Dewi’n gweitho am nifer o flynyddoedd yn y Ffindir gyda Nokia lle y daeth ar draws defnydd cyffredin o TG mewn amgylchedd heb fod yn Saesneg a meddyliodd pam ddim yn y Gymraeg hefyd. Graddiodd Dewi mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Efrog yn 1994.
Am ragor o wybodaeth : www.meddalweddcymraeg.org
1900 : Trafodaeth
2000 : Diwedd
Labels: CMC, cymraeg, cymreig, cymru, dotCYM, enw parth, technoleg, TLD
Prion ar Nestoria
- Gallwch ddewis i'r map ddangos
- gorsaf tren agosaf, ysgolion agosaf
- eich cynrychiolydd seneddol agosaf (ond nid eich AC)
- lluniau o'r ardal
- beth yw'r band treth lleol (gan ei gymharu â chyfradd Lloegr gyfan!)
Sod it
6.7.07

Os hoffech fathodyn swanc, ewch i flog Mei.
Labels: blog-gwrdd, eisteddfod, eisteddfod2007, rhithfro
Dal i fyny
5.7.07
Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen, ac prynnais y rhifyn diweddaraf yn Siop Clwyd i'w ddarllen ar y ffordd adre ddoe. Mae yna erthyglau hynod o ddiddordol ynddo ac mae'n biti mawr nad yw mwy yn ei ddarllen. Yn ogystal a hanes gwerin Cymru, mae hefyd yn cynnwys erthyglau amrywiol o bedwar ban byd. Dyma i chi esiamplau:
- Hanes pêl-droed yn cael ei chwarae yn Llanfair Talhaearn cyn belled yn ôl a 1634 (ok, diddordol i fi achos dwi'n hoffi pêl-droed a dyna o ble y daeth tad fy mam)
- Erthygl am ecoleoli, yn adrodd hanes y bachgen ifanc hynod Ben Underwood.
- Hanes Cofeb Tashunkewitko (Crazy Horse) yn Ne Dekota, sydd ond 17 milltir i ffwrdd o Mount Rushmore ond sydd efallai ddim yn cael yr un sylw. [Lluniau Flickr]
- Darganfyddiad beth all fod yn 'gyfrifiadur' o oes y Groegiaid.
- Stori o ailgyhoeddiad llyfr O Drelew i Dre-fach.
Labels: dinbych, eisteddfod, eisteddfod2007, faner newydd, rhithfro, teulu
Pob lwc Mick
1.7.07
Mae wedi cael caemra gan BBC Wales i gadw cofnod o'r daith, ac fe allwch ddilyn eu taith ar eu blog. Os gallwch sbario punt neu ddwy, plis cyfrannwch, mae beth mae nhw am wneud yn tipyn mwy o ymdrech nag eistedd mewn bath o ffa pôb.








