<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pob lwc Mick

1.7.07

Mae fy ffrind Mick a'i gyfaill Sean yn mynd i gymeryd rhan yn y Le Tour Challenge ac y codi arain at yr elusen Ffibrosis systig a Latch. Mae'r ras yn dilyn llwybr y Tour de France, ac bydd yn cymeryd lle 2 ddiwrnod o flaen y ras fawr ei hun. Mae Mick wedi bod yn ymarfer ar gyfer y ras ers achau, yn treulio ei nosweithiau a penwythnosau'n becio hyd a lled de ddwyrain Cymru, mae'n ffodus iawn byw yn Nghymru sydd a digon o elltydd serth sy'n ddigon tebyg i'r Pyreneau!

Mae wedi cael caemra gan BBC Wales i gadw cofnod o'r daith, ac fe allwch ddilyn eu taith ar eu blog. Os gallwch sbario punt neu ddwy, plis cyfrannwch, mae beth mae nhw am wneud yn tipyn mwy o ymdrech nag eistedd mewn bath o ffa pôb.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:46 pm

0 sylw:

Gadawa sylw