<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dysgu Cymraeg yng Ngwent

28.7.07

Dwi wedi bod eisiau dysgu Cymraeg i Oedolion ers rhai blynyddoedd, ond wastad wedi bod ofn, ynbennaf nad ydi fy ngwybodaeth o ramadeg (Cymraeg na Saesneg) ddigon da. Yn ystod y tymhorau diwethaf mae Coleg Gwent sef prif ddarparwr y de ddwyrain wedi bod yn brin fnadwy o dwitoriaid, felly dwi wedi bod yn mynychu sesiynnau i fod yn diwtor, gyda'r gobaith o gael dosbath yn mis Medi, yn ddelfrydol yn sir Caerffili.

Gan bod gwersi arferol wedi dod i ben, does dim cyfle i mi eistedd mewn dosbarth i arsylwi, ond yn ffodus iawn bu ysgol haf yng Nghanolfan Yr Hill wythnos diwethaf ac fe gês gyfle i eitedd mewn dau ddosbarth, un i ddechreuwyr pur ac un i fyfyrwyr oedd eisioes wedi treulio blyddyn yn dysgu.

Roedd dosbarthiadau ar gyfer 7 lefel gwahanol ar gael, ac mae Cyrsiau Haf ac Ysgolion Undydd yn hynod boblogaidd. Eleni roedd y lle'n llawn dop gyda 164 o bobl yn mynychu - doedd dim lle i fwy. Darganfyddais wedyn bod 140 o bobl wedi cael eu troi i ffwrdd sy'n biti ofnadwy. Y gobaith yw flwyddyn newsaf cynnig 2 wythnos er mwyn gallu cynnig lle i bawb. Yn aml fe glywch pobl yn dweud nad oes gan pobl Gwent diddordeb yn yr iaith , ond heblaw am ferch ifanc o'r Iseldiroedd oedd ar ei hail flwyddyn a Ffrances yn y dosbarth dechreuwyr, pobl lleol oedd y gweddill i gyd.

Yn ystod ein sesiynnau hyfforddi mae trefnwyr y gwahanol fathau o gyrsiau
  • cyrsiau arferol mewn canolfannau cymunedol
  • Cymraeg i rieni
  • Cymraeg yn y gweithle
  • WLPAN
wedi bod yn dod atom i geisio ein perswadio i ddysgu yn eu dosbarthiadau nhw pan fyddwn yn gymwys. Ar hyn o bryd hoffwn ddysgu WLPAN, ond does dim cymaint o'r cyrsiau hynn yn cael eu cynnig. Fy rheswm dros fod eisiau dysgu WLPAN yw
  • dwi'n teimlo mai'r myfyrwyr mwyaf penderfynnol fydd ar y cwrs gan eu bod yn ymrwymo eu hunain i fynychu gwersi sawl gwaith yr wythnos
  • myfyrwyr yn debygol o ddysgu mwy o bethau'n gynt ac felly'n llai tebygol o ddigalonni fel dwi'n gweld rhai ar gyrsiau arferol yn gwenud
  • mae mwy o bwyslais ar siarad a llai a'r ramadeg

Cawn weld beth ddigwyddith yn mis Medi!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:41 am | dolen | 3 sylw |